- Erthygl am Ryfel 1990?91 yw hon. Am Ryfel Irac 2003, gweler
Rhyfel Irac
.
Rhyfel a ymladdwyd rhwng 1990-1991 oedd
Rhyfel y Gwlff
. Enwau eraill arno yw "Rhyfel Irac 1", "Rhyfel Gwlff Persia" neu
"Operation Desert Storm"
[1]
[2]
a chafodd ei ymladd gan 34 o genhedloedd yn erbyn
Irac
rhwng 2 Awst 1990 a 28 Chwefror 1991. Unwyd y gwledydd hyn gan
y Cenhedloedd Unedig
o dan arweiniad
Unol Daleithiau America
. Digwyddodd y rhyfel fel ymateb i ymosodiada Irac ar
Kuwait
ar 2 Awst 1990. Ar unwaith digwyddodd dau beth: symudodd yr Unol daleithiau ei llynges arfog i'r ardal ac yn ail ymatebodd nifer o genhedloedd gyda sancsiynnau economaidd yn erbyn Irac.