Natur
, yn yr ystyr ehangaf, yw'r byd neu'r bydysawd naturiol, corfforol neu faterol. Gall "Natur" gyfeirio at ffenomena'r byd ffisegol, ac felly at fywyd yn gyffredinol. Mae astudio natur yn rhan fawr, os nad yr unig un, o
wyddoniaeth
. Er bod
bodau dynol
yn rhan o natur, mae gweithgarwch dynol yn aml yn cael ei ddeall fel categori ar wahan i ffenomenau naturiol eraill. O fewn gwahanol yr ystyron o'r gair, heddiw, mae “natur” yn aml yn cyfeirio at
ddaeareg
a
bywyd gwyllt
.
Mae'r gair natur yn tarddu o'r gair Lladin natura, neu "hanfodion". Mae'n golgu 'genedigaeth'.
[1]
Mae
Natura
yn gyfieithiad Lladin o'r gair Groeg physis (φ?σι?), a oedd yn ymwneud yn wreiddiol a nodweddion cynhenid
planhigion
,
anifeiliaid
a nodweddion eraill y Ddaear. Datblygiad o hyn yw'r cysyniad o natur yn ei gyfanrwydd, y bydysawd corfforol; dechreuodd gyda rhai cymwysiadau craidd o'r gair φ?σι? gan athronwyr cyn-Socratig, ac mae wedi ennill ei blwyf yn gyson ers hynny. Parhaodd y defnydd hwn o fewn y dull gwyddonol modern dros y canrifoedd diwethaf.
[2]
- ↑
Harper, Douglas.
"nature"
.
Online Etymology Dictionary
. Cyrchwyd
2006-09-23
.
- ↑
The etymology of the word "physical" shows its use as a synonym for "natural" in about the mid-15th century:
Harper, Douglas.
"physical"
.
Online Etymology Dictionary
. Cyrchwyd
September 20,
2006
.