y Ffindir
|
Suomen tasavalta
|
|
Arwyddair
| O na bawn yn y Ffindir
|
---|
Math
| gwladwriaeth sofran,
gwlad
, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Mor Baltig
|
---|
Enwyd ar ol
| Ffiniaid
|
---|
|
Prifddinas
| Helsinki
|
---|
Poblogaeth
| 5,608,218
|
---|
Sefydlwyd
| - 6 Rhagfyr 1917
|
---|
Anthem
| Maamme/Vart land
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Petteri Orpo
|
---|
Cylchfa amser
| UTC+2
|
---|
Nawddsant
| Sant Harri o'r Ffindir
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Ffinneg
,
Swedeg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Ffenosgandia, Y Gwledydd Nordig,
Gogledd Ewrop
,
yr Undeb Ewropeaidd
, Ardal Economeg Ewropeaidd
|
---|
Arwynebedd
| 338,478.34 km²
|
---|
Gerllaw
| Y Mor Baltig
|
---|
Yn ffinio gyda
| Sweden
,
Norwy
,
Rwsia
|
---|
Cyfesurynnau
| 65°N 27°E
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff gweithredol
| Llywodraeth y Ffindir
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Senedd y Ffindir
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Arlywydd y Fffindir
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Alexander Stubb
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Prif Weinidog y Ffindir
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Petteri Orpo
|
---|
|
|
Crefydd/Enwad
| Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Ffindir, Eglwys Uniongred Ffindir
|
---|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $296,388 million, $280,826 million
|
---|
Arian
| Ewro
|
---|
Canran y diwaith
| 9 ±1 canran
|
---|
Cyfartaledd plant
| 1.75
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.94
|
---|
|
|
Ffindir
(hefyd
Gweriniaeth y Ffindir
) yw'r wlad Nordig fwyaf dwyreiniol yng
Ngogledd Ewrop
. Mae'n ffinio a
Sweden
i'r gogledd-orllewin,
Norwy
i'r gogledd, a
Rwsia
i'r dwyrain, gyda Gwlff Bothnia i'r gorllewin a
Gwlff y Ffindir
i'r de, gyferbyn
ag Estonia
. Arwynebedd Ffindir yw 338,145 cilometr sgwar (130,559 milltir sgwar) ac mae ganddi boblogaeth o 5.6 miliwn.
Helsinki
yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; o ran poblogaeth, mae tua'r un maint a'r
Alban
, sef XXX
Ffiniaid ethnig
yw mwyafrif helaeth y boblogaeth;
Ffinneg
a
Swedeg
yw'r ieithoedd swyddogol, gyda Swedeg yn iaith frodorol i 5.2% o'r boblogaeth.
[1]
Mae hinsawdd y Ffindir yn amrywio o hinsawdd gyfandirol llaith yn y de i hinsawdd boreal yn y gogledd. Coedwigoedd boreal yw'r gorchudd tir yn bennaf, gyda mwy na 180,000 o lynnoedd wedi'u cofnodi.
[2]
Ceir olion dynol yma o tua 9,000 CC ar ol yr
Oes Ia ddiwethaf
.
[3]
Yn ystod
Oes y Cerrig
, daeth diwylliannau amrywiol i'r amlwg, a gellir gwahaniaethu rhyngddyn nhw drwy edrych ar eu gwahanol fathau o serameg. Cafodd yr
Oes Efydd
a'r
Oes Haearn
eu nodi gan gysylltiadau a diwylliannau eraill yn Fennoscandia a
rhanbarth y Baltig
.
[4]
O ddiwedd y
13g
, daeth y Ffindir yn rhan o Sweden o ganlyniad i Groesgadau'r Gogledd. Ym 1809, o ganlyniad i Ryfel y Ffindir, daeth y Ffindir yn rhan o
Ymerodraeth Rwsia
fel
Prif Ddugiaeth ymreolaethol y Ffindir
. Yn ystod y cyfnod hwn, ffynnodd celf y Ffindir a dechreuodd y syniad o annibyniaeth gydio. Ym 1906, y Ffindir oedd y wladwriaeth Ewropeaidd gyntaf i roi pleidlais gyffredinol i'w dinasyddion, a'r gyntaf yn y byd i roi'r hawl i bob oedolyn heisio am swydd gyhoeddus.
[5]
[6]
Yn dilyn
Chwyldro Rwsia
yn 1917, datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi wrth Rwsia, ar 6ed o Ragfyr. Ym 1918 rhannwyd y genedl ifanc gan
Ryfel Cartref y Ffindir
. Yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, ymladdodd y Ffindir yn erbyn yr
Undeb Sofietaidd
yn Rhyfel y Gaeaf a'r Rhyfel Parhad, ac yn ddiweddarach yn erbyn
yr Almaen Natsiaidd
yn Rhyfel Lapdir. O ganlyniad, collodd rannau o'i diriogaeth ond cadwodd ei hannibyniaeth.
Parhaodd y Ffindir yn
wlad amaethyddol
yn bennaf tan y
1950au
. Ar ol yr Ail Ryfel Byd, diwydiannodd yn gyflym a sefydlodd economi ddatblygedig, gyda
gwladwriaeth les
wedi'i hadeiladu ar y model Nordig. Caniataodd hyn i'r ffynnu a chafwyd incwm uchel y pen.
[7]
Yn ystod y
Rhyfel Oer
, cofleidiodd y Ffindir yn swyddogol bolisi o niwtraliaeth. Ers hynny, daeth yn aelod o'r
Undeb Ewropeaidd
yn 1995, yn Ardal yr
Ewro
yn 1999, ac yn aelod o
NATO
yn 2023. Mae'r Ffindir yn aelod o sefydliadau rhyngwladol amrywiol gan gynnwys y
Cenhedloedd Unedig
, y
Cyngor Nordig
, Ardal Schengen,
Cyngor Ewrop
,
Sefydliad Masnach y Byd
, a'r
Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd
(OECD). Mae'r genedl yn perfformio'n arbennig o dda mewn metrigau perfformiad cenedlaethol, gan gynnwys addysg, cystadleurwydd economaidd, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, a datblygiad dynol.
[8]
[9]
[10]
[11]
Ymsefydlodd pobl yn yr ardal a elwir heddiw'n Ffindir, tua 8,500 CC yn ystod
Oes y Cerrig
tua diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae gan lawer o'r arteffactau a adawodd y gwladfawyr cyntaf ar ol nodweddion tebyg iawn i'r rhai a geir yn
Estonia
, Rwsia, a Norwy.
[12]
Helwyr-gasglwyr oedd y bobl gynharaf hyn, ac roedden nhw'n defnyddio offer carreg.
[13]
Ymddangosodd y crochenwaith cyntaf yn 5,200 CC, pan gyflwynwyd y diwylliant 'Cerameg Crib'.
[14]
Yna daeth 'Crochenwaith Cordeddog' i arfordir deheuol y Ffindir rhwng 3,000 a 2,500 CC cyfnod sy'n cyd-daro a dechrau
amaethyddiaeth
.
[15]
Hyd yn oed gyda chyflwyniad amaethyddiaeth, roedd hela a physgota'n parhau i fod yn rhannau pwysig o'r economi a'r ffordd o fyw.
Yn yr
Oes Efydd
ymledodd amaethu parhaol trwy gydol y flwyddyn ac felly hwsmonaeth anifeiliaid hefyd, ond arafodd y newid oherwydd cyfnod o hinsawdd oer iawn.
[18]
Daeth y ffenomen Seima-Turbino a'r arteffactau efydd cyntaf i'r rhanbarth ac o bosibl hefyd yr
ieithoedd Finno-Ugric
.
[18]
[19]
Dechreuodd cysylltiadau masnachol ymestyn i Sgandinafia a dechreuodd gweithgynhyrchu o arteffactau efydd mewn cartrefi yn1300 CC.
[20]
Yn yr
Oes Haearn
tyfodd y boblogaeth. Ffindir Fwyaf (sef y De-Orllewin) oedd yr ardal fwyaf poblog. Tyfodd ac ymestynnodd cysylltiadau masnachol yn rhanbarth
Mor y Baltig
yn ystod yr 8g a'r 9g. Y prif allforion o'r Ffindir oedd ffwr,
caethweision
,
sachau'r afanc
, a
hebogiaid
i lysoedd Ewropeaidd. Roedd mewnforion yn cynnwys
sidan
a ffabrigau eraill,
gemwaith
,
cleddyfau Ulfberht
, ac, i raddau llai,
gwydr
. Dechreuwyd cynhyrchu haearn tua 500 CC
[21]
Ar ddiwedd y 9g, roedd gan ddiwylliant arteffactau brodorol, yn enwedig arfau a gemwaith menywod, nodweddion lleol cyffredin nag erioed o'r blaen a dehonglir hyn i fod yn fynegiant o hunaniaeth y Ffindir.
[22]
Ymledodd ffurf gynnar ar ieithoedd Ffinneg i ranbarth Mor y Baltig tua 1,900 CC. Roedd yr iaith Ffinneg gyffredin yn cael ei siarad o gwmpas
Gwlff y Ffindir
tua 2,000 o flynyddoedd yn ol. Daeth y tafodieithoedd y datblygwyd yr iaith Ffinneg gyfoes ohonynt i fodolaeth yn ystod Oes yr Haearn.
[23]
Er eu bod yn perthyn o bell, cadwodd y
Sami
ffordd o fyw'r heliwr-gasglwr yn hirach na'r Ffindir. Mae hunaniaeth ddiwylliannol y Sami a'r
iaith Sami
wedi goroesi yn
Lapdir
, y dalaith fwyaf gogleddol.
Mae gan yr enw Suomi darddiad ansicr, ond y geirdarddiad mwyaf cyffredin yw ei fod yn tarddu o saame (y Sami).
[24]
Yn y ffynonellau hanesyddol cynharaf, o'r 12g a'r 13g, mae'r term Ffindir yn cyfeirio at y rhanbarth arfordirol o amgylch
Turku
. Daeth y rhanbarth hwn i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel 'Ffindir Fwyaf' er mwyn gwahaniaethu ag enw'r wlad.
[25]
Locomotif
VR Dosbarth Sr2
. Mae'r
VR
sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir.
Roedd y
12g
a'r
13g
yn gyfnodau treisgar yng ngogledd Mor y Baltig. Roedd y Croesgad Livonaidd yn parhau ac roedd llwythau'r Ffindir ee y Tavasiaid a'r Kareliaid yn gwrthdaro'n aml a Novgorod ac a'i gilydd. Hefyd, yn ystod y 12g a'r 13g gwnaethpwyd sawl croesgad o deyrnasoedd Catholig ardal Mor y Baltig yn erbyn llwythau'r Ffindir. Ymladdodd
Daniaid
o leiaf dair croesgad yn erbyn pobl Ffindir, yn 1187 neu ychydig yn gynharach,
[26]
yn 1191 ac yn 1202,
[27]
ac
Swedeiaid
, o bosibl yr ail groesgad i'r Ffindir, ym 1249 yn erbyn Tafasiaid a'r drydedd groesgad i'r Ffindir yn 1293 yn erbyn y Kareliaid.
[28]
O ganlyniad i'r croesgadau a gwladychu rhai ardaloedd arfordirol y Ffindir gyda phoblogaeth Swedaidd yn ystod yr Oesoedd Canol,
[29]
yn raddol daeth y Ffindir yn rhan o
deyrnas Sweden
a dylanwad yr
Eglwys Gatholig
.
[30]
O dan Sweden, atodwyd Ffindir fel rhan o drefn ddiwylliannol
Gorllewin Ewrop
.
[31]
Swedeg oedd prif iaith yr uchelwyr, y weinyddiaeth, ac addysg;
y Ffinneg
oedd iaith y werin, y clerigwyr a'r
llysoedd
lleol yn bennaf yn yr ardaloedd Ffinneg eu hiaith. Yn ystod y
Diwygiad Protestannaidd
, trodd y
Ffiniaid
yn raddol at
yr Eglwys Lutheraidd
.
[32]
Yn yr
16g
cyhoeddodd esgob a Diwygiwr Lutheraidd Mikael Agricola y gweithiau ysgrifenedig cyntaf yn Ffinneg;
[33]
a sefydlwyd prifddinas bresennol y Ffindir,
Helsinki
, gan y Brenin Gustav Vasa yn 1555.
[34]
Sefydlwyd y brifysgol gyntaf yn y Ffindir, sef Academi Frenhinol Turku, gan y Frenhines
Christina o Sweden
ar gynnig iarll Per Brahe yn 1640.
[35]
[36]
Yn y 18g, arweiniodd rhyfeloedd rhwng Sweden a
Rwsia
ddwywaith at feddiannu'r Ffindir gan luoedd Rwsia, amseroedd a adwaenir yn y Ffindir fel y Digofaint Mwawr (1714?1721) a'r DigofaintBach (1742?1743).
[37]
[38]
Amcangyfrifir miloedd o ddynion wedi marw yn ystod y Digofaint Mwawr yn bennaf oherwydd dinistrio cartrefi, ffermydd, a llosgi Helsinki.
[39]
Rhyfel cartref ac annibyniaeth gynnar
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae'r
VR
sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir. Ar ol Chwyldro Chwefror 1917, cwestiynwyd safle'r Ffindir fel rhan o Ymerodraeth Rwsia, yn bennaf gan y Democratiaid Cymdeithasol. Pasiodd Senedd y Ffindir, a reolwyd gan ddemocratiaid cymdeithasol, yr hyn a elwir yn Ddeddf Pwer a roddodd cryn awdurdod i'r Senedd. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Dros Dro Rwsia a benderfynodd ddiddymu'r Senedd.
[40]
Cynhaliwyd etholiadau newydd, lle'r enillodd pleidiau asgell dde gyda mwyafrif bychan. Roedd rhai democratiaid cymdeithasol yn gwrthod derbyn y canlyniad ac yn dal i honni bod diddymu'r senedd (ac felly'r etholiadau dilynol) yn anghyfreithiol. Roedd y ddau floc gwleidyddol bron yr un mor bwerus, y pleidiau asgell dde, a'r blaid gymdeithasol-ddemocrataidd a oedd wedi'u cythruddo'n fawr.
Newidiodd Chwyldro Hydref Rwsia y sefyllfa daear-wleidyddol unwaith eto. Yn sydyn, dechreuodd y pleidiau asgell dde'r Ffindir ailystyried eu penderfyniad i rwystro trosglwyddo’r p?er gweithredol uchaf o lywodraeth Rwsia i’r Ffindir, wrth i’r
Bolsieficiaid
gipio grym yn Rwsia. Cyflwynodd y llywodraeth asgell dde, dan arweiniad y Prif Weinidog PE Svinhufvud, y
Datganiad Annibyniaeth
ar 4 Rhagfyr 1917, a gymeradwywyd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr, gan Senedd y Ffindir. Cydnabu Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia (RSFSR), dan arweiniad
Vladimir Lenin
, annibyniaeth Ffindir ar 4 Ionawr 1918.
[41]
Ar ol arbrawf byr gyda brenhiniaeth, pan gafwyd ymgais aflwyddiannus i wneud y Tywysog Frederick Charles o Hesse yn Frenin y Ffindir, daeth y Ffindir yn weriniaeth arlywyddol, gyda KJ Stahlberg yn cael ei ethol yn arlywydd cyntaf yn 1919. Fel
cenedlaetholwr rhyddfrydol
gyda chefndir cyfreithiol, angorodd Stahlberg y wladwriaeth mewn democratiaeth ryddfrydol, cefnogodd reolaeth y gyfraith, a chychwynnodd ar ddiwygiadau mewnol.
[42]
Roedd y Ffindir hefyd yn un o'r gwledydd Ewropeaidd cyntaf i anelu'n gryf at
gydraddoldeb i fenywod
, gyda Miina Sillanpaa yn gwasanaethu yng nghabinet Vaino Tanner fel y gweinidog benywaidd cyntaf yn hanes y Ffindir yn 1926?192.
[43]
Diffiniwyd y ffin rhwng y Ffindir a Rwsia yn 1920 gan Gytundeb Tartu, yn dilyn y ffin hanesyddol i raddau helaeth ond yn rhoi Pechenga a'i harbwr
Mor Barents
i'r Ffindir.
[37]
Goroesodd y mudiad gwrth-gomiwnyddol Lapua.
Ym 1917, pan ddaeth y Ffindir yn wlad annibynnol roedd y boblogaeth yn dair miliwnblogaeth Cymru yn 2024. Daeth
diwygio tir
ar sail credyd i rym ar ol y rhyfel cartref, gan gynyddu cyfran y boblogaeth a oedd yn berchen ar gyfalaf.
[44]
Roedd tua 70% o'r gweithwyr yn gweithio mewn amaethyddiaeth a 10% mewn diwydiant.
[45]
Lansiodd yr
Undeb Sofietaidd
Ryfel y Gaeaf ar 30 Tachwedd 1939 mewn ymdrech i atodi Ffindir yn rhan ohoni.
[46]
Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Ffindir gan
Joseph Stalin
ar ddechrau'r rhyfel i lywodraethu'r Ffindir ar ol y goncwest Sofietaidd.
[47]
Gorchfygwyd y
Fyddin Goch
mewn sawl brwydr, yn arbennig ym Mrwydr Suomussalmi. Ar ddiwedd Ionawr 1940, ar ol dau fis heb fawr o gynnydd ar faes y gad, yn ogystal a cholledion difrifol o ddynion ac offer, rhoddodd y Sofietiaid y goraui o'w syniadau, gan gydnabod llywodraeth gyfreithiol y Ffindir.
[48]
Llwyddodd y Ffindir i amddiffyn ei hannibyniaeth, ond ildiodd 9% o'i thiriogaeth i'r Undeb Sofietaidd.
Arweiniodd sefydlu masnach gyda phwerau'r Gorllewin a thalu iawndal i'r Undeb Sofietaidd at drawsnewid y Ffindir o economi amaethyddol yn bennaf i un ddiwydiannol. Sefydlwyd Valmet (iard longau yn wreiddiol, yna sawl gweithdy metel) i greu deunyddiau. Ar ol talu'r iawndaliadau rhyfel, parhaodd y Ffindir i fasnachu a'r Undeb Sofietaidd mewn fframwaith ddwyochrog.
Cynhaliodd y Ffindir eu heconomi drwy fasnachu ac elwodd diwydiannau amrywiol o fasnachu gyda'r Sofietiaid. Cafwyd twf economaidd cyflym yn y cyfnod ar ol y rhyfel, ac erbyn 1975 roedd
CMC y pen
y Ffindir y 15fed uchaf yn y byd. Yn y 1970au a'r 1980au, adeiladodd y Ffindir un o
wladwriaethau lles
mwyaf helaeth a llwyddiannus yn y byd. Trafododd y Ffindir gytundeb gyda'r
Gymuned Economaidd Ewropeaidd
(EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd) gan ddechrau o 1977. Ym 1981, fe wnaeth iechyd gwael yr Arlywydd Urho Kekkonen ei orfodi i ymddeol ar ol dal ei swydd am 25 mlynedd.
Cafwyd dirwasgiad dwfn yn y 1990au cynnar yn y Ffindir a daeth i ben ym 1993, a gwelodd y Ffindir dwf economaidd cyson am fwy na deng mlynedd.
[49]
Ar ol cwymp yr Undeb Sofietaidd, trodd y Ffindir ei olwg fwyfwy tua'r Gorllewin. Ymunodd a'r
Undeb Ewropeaidd
yn 1995, ac Ardal yr
Ewro
ym 1999. Ysgogwyd llawer o dwf economaidd diwedd y 1990au gan lwyddiant y gwneuthurwr ffonau symudol Nokia.
[31]
Mae'r Ffindir yn gorwedd rhwng lledredau 60° a 70° N, a hydred 20° a 32° E, ac mae'n un o wledydd mwyaf gogleddol y byd. O brifddinasoedd y byd, dim ond
Reykjavik
sy'n gorwedd mwy i'r gogledd na Helsinki. Y pellter o'r pwynt mwyaf deheuol - Hanko yn Uusimaa - i'r mwyaf gogleddol -
Nuorgam
yn Lapdir - yw 1,160 cilometr (720 milltir).
Ceir tua 168,000 o lynnoedd (o arwynebedd mwy na 500 milltir sgwar) a 179,000 o ynysoedd.
[50]
Ei llyn mwyaf,
Saimaa
, yw'r pedwerydd mwyaf yn Ewrop. Ardal y Llynnoedd yw'r ardal sydd a'r nifer fwyaf o lynnoedd yn y wlad; mae llawer o ddinasoedd mawr yr ardal, yn fwyaf nodedig
Tampere
, Jyvaskyla a
Kuopio
, wedi'u lleoli ger y llynnoedd mawr. Mae'r crynodiad mwyaf o ynysoedd i'w gael yn y de-orllewin, ym Mor yr Archipelago rhwng cyfandir y Ffindir a phrif ynys Aland.
Mae llawer o ddaearyddiaeth y Ffindir yn ganlyniad i
Oes yr Ia
. Roedd y rhewlifoedd yn fwy trwchus ac yn para'n hirach yn Fennoscandia o gymharu a gweddill Ewrop. Mae eu heffeithiau erydu wedi gadael tirwedd y Ffindir yn eitha gwastad, yn bennaf gydag ychydig o fryniau a llai o fynyddoedd. Ei bwynt uchaf, yw Halti, sy'n 1,324 metr yng ngogledd eithaf Lapdir ar y ffin rhwng y Ffindir a Norwy. Gellir cymharu uchder Haiti i'r Wyddfa, sydd fymryn yn llai, sef 1,085 m. Y mynydd uchaf y mae ei gopa yn gyfan gwbl yn y Ffindir yw Ridnit?ohkka sy'n 1,316 metr a saif yn union gerllaw Halti.
Ar ol cael ei gywasgu o dan bwysau aruthrol y rhewlifoedd, mae tir mawr y Ffindir yn codi oherwydd yr adlam ol-rewlifol. Mae'r effaith ar ei chryfaf o amgylch Gwlff Bothnia, lle mae'r tir yn codi'n raddol tua 1 centimetr y flwyddyn. O ganlyniad, mae hen wely'r mor yn troi ychydig ar y tro yn dir sych ac felly mae arwynebedd y wlad yn ehangu tua 7 cilometr sgwar yn flynyddol.
[51]
Mewn geiriau eraill, mae'r Ffindir yn codi o'r mor.
[52]
Yn ffyto-ddaearyddol, rhennir y Ffindir rhwng ardaloedd yr
Arctig
,
canolbarth Ewrop
, ac ardaloedd gogleddol y Rhanbarth Circumboreal o fewn y Deyrnas Boreal. Yn ol y
WWF
, gellir rhannu tiriogaeth y Ffindir yn dri ecoleg: y taiga Sgandinafaidd a Rwsiaidd, coedwigoedd cymysg Sarmatig, a choedwig bedw'r mynyddoedd a'r glaswelltiroedd.
[53]
Mae Taiga yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r Ffindir o ranbarthau gogleddol taleithiau deheuol i'r gogledd o Lapdir. Ar yr arfordir de-orllewinol, i'r de o linell Helsinki- Rauma, nodweddir coedwigoedd gan goedwigoedd cymysg, sy'n fwy nodweddiadol yn rhanbarth y Baltig. Yng ngogledd eithaf y Ffindir, ger y llinell y coed a
Chefnfor yr Arctig
, mae coedwigoedd bedw Montane yn gyffredin. Roedd gan y Ffindir sgor gymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2018 o 5.08/10, gan ei gosod yn 109fed yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.
[54]
Yn yr un modd, mae gan y Ffindir ystod amrywiol a helaeth o
ffawna
. Mae o leiaf chwe-deg o rywogaethau
mamalaidd
brodorol, 248 o rywogaethau adar, dros 70 o rywogaethau o bysgod, ac 11 o rywogaethau o ymlusgiaid a brogaod yno heddiw, gyda llawer ohonynt wedi mudo o wledydd cyfagos filoedd o flynyddoedd yn ol. Y mamaliaid mawr yn y Ffindir yw'r
arth frown
,
y blaidd llwyd
, y wolverine a'r
elc
. Tri o'r adar mwyaf trawiadol yw
alarch y Gogledd
, yr alarch Ewropeaidd fawr (sef aderyn cenedlaethol y Ffindir); y
Grugiar coed
, aelod mawr o deulu'r rugiar ddu; ac
eryrdylluan Ewrop
. Ystyrir bod yr olaf yn ddangosydd pwysig o hen goedwigoedd ac mae ei niferoedd wedi bod yn dirywio oherwydd darnio'r tirwedd.
[55]
Mae tua 24,000 o rywogaethau o bryfed yn gyffredin yn y Ffindir; ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae'r
gacynen
gyda llwythau o
chwilod
fel yr Onciderini hefyd yn gyffredin. Yr adar magu mwyaf cyffredin yw
telor yr helyg
, y
ji-binc
a'r
coch dan adain
.
[56]
O ryw saith-deg o rywogaethau o bysgod d?r croyw, mae'r
penhwyad gogleddol
, y draenogod, yn doreithiog. Mae
eog yr Iwerydd
yn parhau i fod yn ffefryn gan y rhai sy'n frwd dros bysgota gwialen.
Llywodraeth a gwleidyddiaeth
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae Cyfansoddiad y Ffindir yn diffinio'r system wleidyddol; mae'n
weriniaeth seneddol
o fewn fframwaith democratiaeth gynrychioliadol(r
epresentative democracy
) . Y Prif Weinidog yw person mwyaf pwerus y wlad. Gall dinasyddion gael eu hethol a phleidleisio mewn etholiadau seneddol, dinesig, arlywyddol ac etholiadau'r Undeb Ewropeaidd.
Pennaeth gwladwriaeth y Ffindir yw Llywydd y Weriniaeth. Bu gan y Ffindir am y rhan fwyaf o’i hannibyniaeth system lled-arlywyddol o lywodraeth, ond yn y degawdau diwethaf mae pwerau’r Arlywydd wedi dod yn fwy amgylchiadol, ac o ganlyniad mae’r wlad bellach yn cael ei hystyried yn weriniaeth seneddol.
[57]
Mae cyfansoddiad newydd a ddeddfwyd yn 2000, wedi gwneud y llywyddiaeth yn swydd seremoniol gan fwyaf, sy'n penodi'r Prif Weinidog a etholir gan y Senedd, ac sy'n penodi ac sy'n diswyddo gweinidogion eraill Llywodraeth y Ffindir ar argymheliad y Prif Weinidog. Ymhlith y dyletswyddau eraill y mae agor sesiynau seneddol, a chyflwyno anrhydeddau'r wladwriaeth. Serch hynny, mae'r Llywydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gysylltiadau tramor y Ffindir, gan gynnwys gwneud rhyfel a heddwch, ond heb gynnwys materion sy'n ymwneud a'r
Undeb Ewropeaidd
.
Ar ben hynny, mae'r Llywydd yn ben ar Luoedd Amddiffyn y Ffindir fel y Prif Cadlywydd. Wrth arfer ei bwerau tramor ac amddiffyn, mae'n ofynnol i'r Llywydd ymgynghori a Llywodraeth y Ffindir, ond nid yw cyngor y Llywodraeth yn rhwym i dderbyn ei gyngorl. Yn ogystal, mae gan y Llywydd nifer o bwerau wrth gefn domestig, gan gynnwys yr awdurdod i roi feto ar ddeddfwriaeth, i roi pardwn, ac i benodi sawl swyddog cyhoeddus. Mae'r Cyfansoddiad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd ddiswyddo gweinidogion unigol neu'r Llywodraeth gyfan ar bleidlais seneddol o ddiffyg hyder.
[58]
Senedd unsiambrog (
unicameral
) sydd gan Ffindir , gyda 200 aelod o'i mewn; dyma awdurdod deddfwriaethol goruchaf y wlad. Gall y Senedd newid y cyfansoddiad a'r deddfau cyffredin, gall ddiswyddo'r cabinet, a gall ddiddymu'r feto arlywyddol. Nid yw ei weithredoedd yn agored i adolygiad barnwrol; asesir cyfansoddiad cyfreithiau newydd gan bwyllgor cyfraith gyfansoddiadol y senedd. Mae'r senedd yn cael ei hethol am dymor o bedair blynedd gan ddefnyddio
dull cyfrannol D'Hondt
o fewn nifer o etholaethau aml-sedd drwy'r rhanbarthau aml-aelod ar restr agored. Mae pwyllgorau seneddol amrywiol yn gwrando ar arbenigwyr ac yn paratoi deddfwriaeth.
Dywed Adran 6 o Gyfansoddiad y Ffindir: "Ni ddylid gwahaniaethu o ran rhyw, oedran, tarddiad, iaith, crefydd, cred, barn, iechyd, anabledd neu unrhyw reswm personol arall heb reswm derbyniol".
[59]
Mae'r Ffindir wedi'i gosod yn uwch na'r cyfartaledd ymhlith gwledydd y byd mewn
democratiaeth
,
[60]
rhyddid y wasg
,
[61]
a datblygiad dynol.
[62]
Mynegodd
Amnest Rhyngwladol
eu pryder ynghylch rhai materion yn y Ffindir, megis carcharu
gwrthwynebwyr cydwybodol
, a gwahaniaethu cymdeithasol yn erbyn
pobl Romani
ac aelodau o leiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill.
[63]
[64]
Yn 2022 roedd economi Ffindir y 16ed forau (o ran CMC (GDP) y pen, yn ol yr
IMF
. Yn ogystal, mae gan y Ffindir system les effeithiol iawn sy'n cwmpasu addysg am ddim a gofal iechyd cyffredinol, gan gyfrannu at ei henw da fel un o'r cenhedloedd cyfoethocaf.
Y
sector gwasanaeth
yw'r rhan fwyaf o'r economi, sef 66% o'r CMC, tra bod
gweithgynhyrchu
a mireinio yn cyfrif am 31%. Mae
cynhyrchu cynradd
yn cyfrif am 2.9% o'r economi.
[65]
Gweithgynhyrchu yw'r sector economaidd sylfaenol sy'n ymwneud a
masnach dramor
.
[66]
Y prif sectorau diwydiannol yn 2007 oedd
electroneg
(22%), peiriannau,
cerbydau
, a chynhyrchion metel peirianyddol eraill (21.1%), diwydiant coedwigaeth (13%), a chemegau (11%). Cyrhaeddodd y cynnyrch mewnwladol crynswth ei uchafbwynt yn 2021.
[67]
Mae'r Ffindir yn chweched yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang 2023.
[68]
Mae gan y Ffindir gryn dipyn o bren,
mwynau
(gan gynnwys
haearn
,
cromiwm
,
copr
,
nicel
ac
aur
) ac adnoddau d?r croyw. Ar gyfer y boblogaeth wledig, mae
coedwigaeth
, melinau papur ac
amaethyddiaeth
yn hynod o bwysig. Mae ardal Helsinki Fwyaf yn cyfrif am tua thraean o CMC y Ffindir. Gwasanaethau preifat yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad.
Mae gan y Ffindir y crynodiad uchaf o
gwmniau cydweithredol
o'i gymharu a'i phoblogaeth.
[69]
ee mae cyflogwr preifat mwyaf y Ffindir, S-Group, a'r banc mwyaf, OP-Group, ill dau yn gwmniau cydweithredol.
Mae system ffyrdd y Ffindir yn cael ei defnyddio gan y rhan fwyaf o draffig cargo a theithwyr mewnol. Mae'r wladwriaeth yn gwario tua €1 biliwn ar rwydwaith ffyrdd, yn flynyddol. Ymhlith priffyrdd y Ffindir, y mwyaf arwyddocaol a phrysuraf yw: Priffordd Turku, Priffordd Tampere, Priffordd Lahti, a chylchffyrdd I a III yn ardal fetropolitan Helsinki a Chylchffordd Tampere yn ardal drefol Tampere.
[70]
Prif faesawyr teithwyr rhyngwladol yw Maes Awyr Helsinki, a hedfanodd tua 21 miliwn o deithwyr drwyddo yn 2019. Maes Awyr Oulu yw'r ail fwyaf gyda 1 miliwn o deithwyr yn 2019, a cheir 25 maes awyr arall.
[71]
Mae Finnair, Blue1, a Nordic Regional Airlines (Norra), Norwegian Air Shuttle (ASA) o Faes Awyr Helsinki yn gwerthu gwasanaethau awyr yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Mae'r Llywodraeth yn gwario tua €350 miliwn yn flynyddol ar gynnal rhwydwaith trenau 5,865 cilometr o hyd. Mae trafnidiaeth rheilffordd yn cael ei drin gan y Gr?p VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth.
[72]
Agorwyd rheilffordd gyntaf y Ffindir yn 1862,
[73]
[74]
a heddiw mae'n ffurfio rhan o Brif Linell y Ffindir, sy'n fwy na 800 cilomedr o hyd. Agorodd Helsinki system fetro fwyaf gogleddol y byd ym 1982.
Yn Harbwr Vuosaari yn Helsinki mae mwyafrif y llwythi cargo rhyngwladol yn cael eu trin, a hwn yw'r porthladd cynwysyddion mwyaf yn y Ffindir; ymhlith y rhai eraill mae
Kotka
, Hamina, Hanko, Pori, Rauma, ac Oulu . Ceir traffig teithwyr-troed o Helsinki a Turku, sydd a chysylltiadau fferi i
Tallinn
,
Mariehamn
,
Stockholm
a Travemunde. Mae llwybr Helsinki-Tallinn yn un o'r llwybrau prysuraf yn y byd.
[75]
Gellid dweud bod Ffinneg Ysgrifenedig wedi bodoli ers i Mikael Agricola gyfieithu'r
Testament Newydd
i'r Ffinneg yn ystod y
Diwygiad Protestannaidd
, ond ychydig o lenyddiaeth nodedig a ysgrifennwyd hyd at y 19g a dechrau
Mudiad Rhamantaidd
cenedlaethol y Ffindir. Ysgogodd hyn
Elias Lonnrot
i gasglu barddoniaeth werin Ffinneg a Karelian a'u trefnu a'u cyhoeddi fel y
Kalevala
, gwaith epig genedlaethol y Ffindir. Gwelodd yr oes gynydd yn y nifero feirdd a nofelwyr yn y Ffindir, yn arbennig yr awduron cenedlaethol
Aleksis Kivi
(
Y Saith Brawd
), Minna Canth, Eino Leino, a Juhani Aho . Ysgrifennai llawer o lenorion y deffroad cenedlaethol cynnar yn Swedeg, megis y bardd cenedlaethol
JL Runeberg
a Zachris Topelius.
Gellir rhannu cerddoriaeth werin y Ffindir yn gerddoriaeth ddawns Nordig a'r traddodiad h?n o ganu cerddi, cerddi epig genedlaethol, y
Kalevala
. Dylanwadir ar lawer o gerddoriaeth glasurol y Ffindir gan alawon a geiriau traddodiadol y Ffindir a Karelian, fel y cynhwysir yn y
Kalevala
. Yn rhanbarth hanesyddol Karelia y Ffindir, yn ogystal a rhannau eraill o Ddwyrain y Ffindir, cadwyd yr hen draddodiadau canu cerdd yn well nag yn rhannau gorllewinol y wlad, felly canfyddir bod diwylliant Karelian yn cael ei ystyried yn fwy pur. Mae cerddoriaeth werin y Ffindir wedi mynd trwy adfywiad ac wedi dod yn rhan o
gerddoriaeth boblogaidd
. Mae pobl gogledd y Ffindir, Sweden, a Norwy, sef y
Sami
, yn adnabyddus yn bennaf am ganeuon hynod ysbrydol o'r enw joik.
- Clasurol
Yn eironig, ysgrifennwyd yr opera Ffinneg gyntaf gan gyfansoddwr a aned yn yr Almaen, Fredrik Pacius, ym 1852. Ysgrifennodd Pacius y gerddoriaeth hefyd i'r gerdd
Maamme/Vart land
(Our Country)
,
anthem genedlaethol
y Ffindir. Yn y 1890au lledaenodd cenedlaetholdeb Ffindir a daeth
Jean Sibelius
yn enwog am ei symffoni lleisiol
Kullervo
. Yn 1899 cyfansoddodd
Finlandia
, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o ennill annibyniaeth i'r Ffindir. Cyfieithwyd y gan i'r Gymraeg a chafodd ei phoblogeiddio gan
Dafydd Iwan
.
Ochr yn ochr a Sibelius, crewyd arddull cerddoriaeth arbennig y Ffindir gan
Oskar Merikanto
, Toivo Kuula, Erkki Melartin, Leevi Madetoja ac Uuno Klami . Ymhlith y cyfansoddwyr modern pwysicaf mae:
Einojuhani Rautavaara
, Aulis Sallinen a Magnus Lindberg.
[76]
Mae llawer o gerddorion o'r Ffindir wedi cael llwyddiant rhyngwladol. Yn eu plith mae'r arweinydd Esa-Pekka Salonen, y gantores opera Karita Mattila a'r feiolinydd Pekka Kuusisto.
- Cerddoriaeth boblogaidd
Mae Iskelma
(a fathwyd yn uniongyrchol o'r gair Almaeneg
Schlager
, sy'n golygu "taro") yn air traddodiadol o'r Ffindir am gan boblogaidd ysgafn.
[77]
Mae cerddoriaeth boblogaidd y Ffindir hefyd yn cynnwys gwahanol fathau o gerddoriaeth ddawns a'r tango, arddull hefyd yn boblogaidd.
[78]
Mae gan y gerddoriaeth ysgafn mewn ardaloedd lle siaredir Swedeg fwy o ddylanwadau o Sweden. Mae o leiaf dau polkas Ffinneg sy'n hysbys ledled y byd sef y
kkijarven polkka
[79]
a'r "Ievan polkka".
[80]
Mae'r Ffindir wedi ennill
Cystadleuaeth Can Eurovision
unwaith, yn 2006 pan enillodd
Lordi
y gystadleuaeth gyda'r gan <span typeof="mw:Nowiki" id="mwCR8">''Hard Rock Hallelujah''</span>.
[81]
Daeth yr artist pop o’r Ffindir Kaarija hefyd yn ail yn y gystadleuaeth yn 2023 gyda’i gan boblogaidd fyd-eang <span typeof="mw:Nowiki" id="mwCSQ">'' Cha Cha Cha ''</span>.
[82]
[83]
Yn y diwydiant ffilm, mae cyfarwyddwyr modern nodedig yn cynnwys y brodyr Mika ac Aki Kaurismaki, Dome Karukoski, Antti Jokinen, Jalmari Helander, a Renny Harlin. Mae rhai
cyfresi drama
o'r Ffindir yn adnabyddus yn rhyngwladol, fel
Bordertown
.
Un o'r ffilmiau Ffindir mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol yw
Valkoinen Peura
(Y Carw Gwyn) a gyfarwyddwyd gan Erik Blomberg yn 1952, ac a enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Dramor Orau yn 1956;
[84]
[85]
TMies Vailla Menneisyytta
(Y Dyn Heb Orffennol), a gyfarwyddwyd gan Aki Kaurismaki yn 2002, a enwebwyd am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau yn 2002 ac enillodd y Grand Prix yng Ng?yl Ffilmiau Cannes 2002; a'r
Ffensiwr
, a gyfarwyddwyd gan Klaus Haro yn 2015, ac a enwebwyd ar gyfer y 73ain Gwobrau Golden Globe yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau fel cyd-gynhyrchiad Ffindir/Almaeneg/Estoneg.
[86]
Yn y Ffindir, mae'r ffilmiau mwyaf arwyddocaol yn cynnwys Y Milwr Anhysbys, a gyfarwyddwyd gan Edvin Laine yn 1955.
[87]
Mae
Taalla Pohjantahden Alla
(
Yma, O dan Seren y Gogledd
)
o 1968, hefyd yn un o'r gweithiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Ffindir.
[88]
Pleidleisiwyd
ffilm gomedi droseddol
o 1960
Komisario Palmun Erehdys
, a gyfarwyddwyd gan Matti Kassila, yn 2012 fel ffilm gorau'r Ffindir erioed gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr o'r Ffindir,
[89]
ond ffilm gomedi 1984
Uuno Turhapuro Armeijan Leivissa
, yw'r ffilm ddomestig fwyaf poblogaidd yn y Ffindir a wnaed ers 1968 gan ddinasyddion y Ffindir.
- ↑
"Sprak i Finland"
[Language in Finland].
Institute for the Languages of Finland
(yn Swedeg).
- ↑
Li, Leslie (16 April 1989).
"A Land of a Thousand Lakes"
.
The New York Times
. Cyrchwyd
20 September
2020
.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. t. 23.
ISBN
978-952-495-363-4
.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. t. 339.
ISBN
978-952-495-363-4
.
- ↑
Parliament of Finland.
"History of the Finnish Parliament"
.
eduskunta.fi
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 December 2015.
- ↑
Finland was the first nation in the world to give all (adult) citizens full suffrage, in other words the right to vote and to run for office, in 1906. New Zealand was the first country in the world to grant all (adult) citizens the right to vote, in 1893. But women did not get the right to run for the New Zealand legislature, until 1919.
- ↑
"Finland"
. International Monetary Fund
. Cyrchwyd
17 April
2013
.
- ↑
"Finland: World Audit Democracy Profile"
.
WorldAudit.org
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 30 October 2013.
- ↑
Tertiary education graduation rates?Education: Key Tables from OECD
. OECD iLibrary. 14 June 2010.
doi
:
10.1787/20755120-table1
.
http://www.oecd-ilibrary.org/education/tertiary-education-graduation-rates_20755120-table1
. Adalwyd 6 March 2011
.
- ↑
"Her er verdens mest konkurransedyktige land?Makro og politikk"
. E24.no. 9 September 2010. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 14 October 2010
. Cyrchwyd
6 March
2011
.
- ↑
"The 2009 Legatum Prosperity Index"
. Prosperity.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 October 2009
. Cyrchwyd
4 February
2010
.
- ↑
Herkules.oulu.fi
.
People
, material, culture and environment in the north. Proceedings of the 22nd Nordic Archaeological Conference, University of Oulu, 18?23 August 2004 Edited by Vesa-Pekka Herva.
- ↑
Pirjo Uino of the National Board of Antiquities, ThisisFinland?"Prehistory: The ice recedes?man arrives". Retrieved 24 June 2008.
- ↑
History of Finland and the Finnish People from stone age to WWII
. Retrieved 24 June 2008.
- ↑
Professor Frank Horn of the Northern Institute for Environmental and the Minority Law University of Lappland writing for Virtual Finland on
National Minorities of Finland
. Retrieved 24 June 2008.
- ↑
Haggren et al. 2015, p. 109.
- ↑
elainpaaase; karhunpaanuija
. Cyrchwyd
30 November
2017
.
- ↑
18.0
18.1
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. tt. 199, 210?211.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. tt. 171?178.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. tt. 189?190.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. tt. 332, 364?365.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. t. 269.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. tt. 211?212.
- ↑
de Smit, Merlijn.
"De Vanitate Etymologiae. On the origins of Suomi, Hame, Sapmi"
.
Academia.edu
(yn Saesneg). Academia, Inc
. Cyrchwyd
6 September
2020
.
- ↑
Salo, Unto (2004).
Suomen museo 2003: "The Origins of Finland and Hame"
. Helsinki: Suomen muinaismuistoyhdistys. t. 55.
ISBN
978-951-9057-55-2
.
- ↑
Kurt Villads Jensen (2019).
Ristiretket
. Turun Historiallinen Yhdistys. tt. 126?127.
- ↑
Haggren, Georg; Halinen, Petri; Lavento, Mika; Raninen, Sami; Wessman, Anna (2015).
Muinaisuutemme jaljet
. Helsinki: Gaudeamus. t. 380.
- ↑
Tarkiainen, Kari (2010).
Ruotsin itamaa
. Helsinki: Svenska litteratursallskapet i Finland. t. 88.
- ↑
Tarkiainen, Kari (2010).
Ruotsin itamaa
. Helsinki: Svenska litteratursallskapet i Finland. tt. 104?147.
ISBN
978-951-583-212-2
.
- ↑
Tarkiainen, Kari (2010).
Ruotsin itamaa
. Porvoo: Svenska litteratursallskapet i Finland. tt. 167?170.
ISBN
978-951-583-212-2
.
- ↑
31.0
31.1
"Finnish history"
. infoFinland.fi
. Cyrchwyd
13 April
2023
.
- ↑
"History of Finland. Finland chronology"
. Europe-cities.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 April 2011
. Cyrchwyd
26 August
2010
.
- ↑
Books from Finland
. Publishers' Association of Finland. 1992. t. 180.
- ↑
"Ruttopuisto ? Plague Park"
. Tabblo.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 11 April 2008
. Cyrchwyd
3 November
2008
.
- ↑
"Archives of the Royal Academy of Turku and the Imperial Alexander University"
.
Memory of the World Programme
.
UNESCO National Committee
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2023-03-26
. Cyrchwyd
1 July
2022
.
- ↑
Jussi Valimaa (2019). "The Founding of the Royal Academy of Turku in 1640".
A History of Finnish Higher Education from the Middle Ages to the 21st Century
. Springer. tt. 77?78.
ISBN
978-3030208073
.
- ↑
37.0
37.1
"Tracing Finland's eastern border"
.
thisisFINLAND
. 22 Mawrth 2011.
- ↑
"
Finland and the Swedish Empire
".
Federal Research Division, Library of Congress
.
- ↑
Nordstrom, Byron J. (2000).
Scandinavia Since 1500
. Minneapolis, US: University of Minnesota Press. t.
142
.
ISBN
978-0-8166-2098-2
.
- ↑
The Finnish Civil War, Federal Research Division of the Library of Congress
. Countrystudies.us. Retrieved 18 May 2016.
- ↑
"Uudenvuodenaatto Pietarin Smolnassa ? Itsenaisyyden tunnustus 31.12.1917"
(yn Ffinneg). Ulkoministerio. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 26 November 2016
. Cyrchwyd
14 September
2020
.
- ↑
Mononen, Juha (2 February 2009).
"War or Peace for Finland? Neoclassical Realist Case Study of Finnish Foreign Policy in the Context of the Anti-Bolshevik Intervention in Russia 1918?1920"
. University of Tampere. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 June 2015
. Cyrchwyd
25 August
2020
.
- ↑
"Real bridge-builder became Finland's first female government minister ? thisisFINLAND"
.
thisisFINLAND
(yn Saesneg). 29 September 2017
. Cyrchwyd
7 December
2020
.
- ↑
"Growth and Equity in Finland"
(PDF)
. World Bank.
- ↑
Finland 1917?2007 (20 February 2007).
"From slash-and-burn fields to post-industrial society?90 years of change in industrial structure"
. Stat.fi
. Cyrchwyd
26 August
2010
.
- ↑
Manninen (2008)
, pp. 37, 42, 43, 46, 49
- ↑
Tanner, Vaino (1956).
The Winter War: Finland Against Russia, 1939?1940, Volume 312
. Palo Alto: Stanford University Press. t. 114.
- ↑
Trotter (2002)
, pp. 234?235
- ↑
Uusitalo, Hannu (October 1996).
"Economic Crisis and Social Policy in Finland in the 1990s"
.
Working Paper Series
. SPRC Discussion Paper No. 70.
ISSN
1037-2741
.
https://www.sprc.unsw.edu.au/media/SPRCFile/dp070.pdf
. Adalwyd 21 January 2019
.
- ↑
"Statistics Finland, Environment and Natural Resources"
. Cyrchwyd
4 April
2013
.
- ↑
"Trends in sea level variability"
.
Finnish Institute of Marine Research
. 24 August 2004. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 February 2007
. Cyrchwyd
22 January
2007
.
- ↑
"Finland". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite. Chicago: Encyclopædia Britannica, 2011.
- ↑
Dinerstein, Eric; Olson, David; Joshi, Anup; Vynne, Carly; Burgess, Neil D.; Wikramanayake, Eric; Hahn, Nathan; Palminteri, Suzanne et al. (2017).
"An Ecoregion-Based Approach to Protecting Half the Terrestrial Realm"
.
BioScience
67
(6): 534?545.
arXiv
:
3
.
doi
:
10.1093/biosci/bix014
.
ISSN
0006-3568
.
PMC
5451287
.
PMID
28608869
.
http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5451287
.
- ↑
Grantham, H. S.; Duncan, A.; Evans, T. D.; Jones, K. R.; Beyer, H. L.; Schuster, R.; Walston, J.; Ray, J. C. et al. (2020).
"Anthropogenic modification of forests means only 40% of remaining forests have high ecosystem integrity ? Supplementary Material"
.
Nature Communications
11
(1): 5978.
arXiv
:
3
.
Bibcode
2020NatCo..11.5978G
.
doi
:
10.1038/s41467-020-19493-3
.
ISSN
2041-1723
.
PMC
7723057
.
PMID
33293507
.
http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7723057
.
- ↑
"Nutritional and genetic adaptation of galliform birds: implications for hand-rearing and restocking"
.
Oulu University Library (2000)
. Cyrchwyd
23 May
2008
.
- ↑
"BirdLife Finland"
.
BirdLife International (2004) Birds in Europe: population estimates, trends and conservation status. Cambridge, UK. (BirdLife Conservation Series No. 12)
. Cyrchwyd
22 January
2007
.
- ↑
Nousiainen, Jaakko (June 2001).
"From semi-presidentialism to parliamentary government: political and constitutional developments in Finland"
.
Scandinavian Political Studies
24
(2): 95?109.
doi
:
10.1111/1467-9477.00048
.
https://archive.org/details/sim_scandinavian-political-studies_2001-06_24_2/page/95
.
- ↑
"Constitution of Finland, 1999 (rev. 2011)"
. Constitute Project
. Cyrchwyd
5 March
2022
.
- ↑
"Perustuslaki: 2. luku Perusoikeudet, 6 § Yhdenvertaisuus 2 momentti"
(yn Ffinneg). Finlex. 1999. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-04-23
. Cyrchwyd
27 August
2020
.
- ↑
"Scores of the Democracy Ranking 2012"
. Global Democracy Ranking. 2012
. Cyrchwyd
27 September
2013
.
- ↑
"Freedom of the Press: Finland"
. Freedom House. 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 4 September 2019
. Cyrchwyd
27 September
2013
.
- ↑
"Statistics of the Human Development Report"
.
United Nations Development Programme
. 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 November 2013
. Cyrchwyd
27 September
2013
.
- ↑
"Annual Report 2013: Finland"
.
Amnesty International
. 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 31 December 2013
. Cyrchwyd
27 September
2013
.
- ↑
"Country Reports on Human Rights Practices for 2012: Finland"
. U.S. State of Department
Bureau of Democracy, Human Rights and Labor
. 2012
. Cyrchwyd
27 September
2013
.
- ↑
"Finland in Figures?National Accounts"
.
Statistics Finland
. Cyrchwyd
26 April
2007
.
- ↑
"Finland in Figures?Manufacturing"
.
Statistics Finland
. Cyrchwyd
26 April
2007
.
- ↑
"Key economic indicators of Finland"
.
statista.com
. Nov 28, 2022.
- ↑
WIPO.
"Global Innovation Index 2023, 15th Edition"
.
www.wipo.int
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
2023-10-17
.
- ↑
"Finland: Globalization Insurance: Finland's Leap of Caution"
.
Cooperatives Build a Better Maine
. Cooperative Maine Business Alliance & Cooperative Development Institute. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2 February 2019
. Cyrchwyd
1 February
2019
.
- ↑
News Now Staff (19 March 2018).
"Top Gear: Finland's Busiest Roads Revealed"
.
News Now Finland
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 January 2021
. Cyrchwyd
27 August
2020
.
- ↑
"Airport operations"
(PDF)
.
Annual report 2008
. Vantaa: Finavia. 17 March 2009. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 7 August 2011
. Cyrchwyd
28 July
2009
.
- ↑
Transport and communications ministry?Rail. For the year 2009 update:
Finnish Railway Statistics 2010
.
- ↑
Neil Kent:
Helsinki: A Cultural History
, p. 18. Interlink Books, 2014.
ISBN
978-1566565448
.
- ↑
"Tulihevonen saapui ensi kerran Hameenlinnaan 150 vuotta sitten"
[The "fire horse" arrived first time in Hameenlinna 150 years ago].
Yle Hame
(yn Ffinneg). Yle. 31 January 2012
. Cyrchwyd
17 March
2022
.
- ↑
"The Busiest Crossing"
.
Discover the Baltic
(yn Saesneg). 24 April 2009. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 26 March 2010.
- ↑
"Kaija Saariaho voted greatest living composer by BBC Music Magazine"
.
Music Finland
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
9 January
2023
.
- ↑
Kaivanto, Petri.
"Suomalainen iskelma"
.
Pomus.net
(yn Ffinneg)
. Cyrchwyd
18 July
2020
.
- ↑
C.G. (11 October 2017).
"Explaining the Finnish love of tango"
.
The Economist
. Cyrchwyd
18 July
2020
.
- ↑
"How the Finns stopped the Soviets with this polka song"
. 6 August 2020.
- ↑
"Finnish jenkka song took over Japan's department stores"
.
Music Finland
.
- ↑
"Eurovision 2006 Results: Voting & Points"
.
Eurovisionworld
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
2023-06-08
.
- ↑
"Eurovision 2023 Results: Voting & Points"
.
Eurovisionworld
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
2023-06-08
.
- ↑
"Eurovision Official Chart Record! Why 2023 is contest's biggest year yet"
.
www.officialcharts.com
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
2023-06-08
.
- ↑
"List of Winners ? Golden Globes Best Foreign Film"
. Cyrchwyd
12 December
2013
.
- ↑
Sundholm, John; Thorsen, Isak; Andersson, Lars Gustaf; Hedling, Olof; Iversen, Gunnar; Møller, Birgir Thor (20 September 2012).
Historical Dictionary of Scandinavian Cinema (Google eBook)
. Scarecrow Press. t. 389 et seq.
ISBN
978-0-8108-7899-0
. Cyrchwyd
12 December
2013
.
- ↑
"The Fencer"
.
goldenglobes.com
.
- ↑
"Finnish Independence Day: Galas, protests and war memories"
.
Yle Uutiset
. 6 December 2014.
- ↑
"Agreeing on History Adaptation as Restorative Truth in Finnish Reconciliation, Mads Larsen, Literature Film Quarterly"
.
lfq.salisbury.edu
.
- ↑
Sundqvist, Janne (12 November 2012).
"Kriitikot valitsivat kaikkien aikojen parhaan kotimaisen elokuvan"
(yn Ffinneg). Yle Uutiset
. Cyrchwyd
9 May
2014
.