Sefydliad Masnach y Byd
|
|
Enghraifft o'r canlynol
| sefydliad rhyngwladol
|
---|
Dechrau/Sefydlu
| 1 Ionawr 1995
|
---|
Yn cynnwys
| WTO panel, WTO General Council, WTO iLibrary
|
---|
Lleoliad yr archif
| WTO archives
|
---|
Pennaeth y sefydliad
| Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Masnach y Byd
|
---|
Gweithwyr
| 640
|
---|
Isgwmni/au
| WTO General Council
|
---|
Ffurf gyfreithiol
| subject of international law
|
---|
Pencadlys
| CAnolfan William Rappard
|
---|
Enw brodorol
| World Trade Organization
|
---|
Gwladwriaeth
| Y Swistir
|
---|
Gwefan
| https://www.wto.org/
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Cyfundrefn ryngwladol yw
Sefydliad Masnach y Byd
(
Ffrangeg
:
Organisation mondiale du commerce
, OMC;
Saesneg
:
World Trade Organization
, WTO;
Sbaeneg
:
Organizacion Mundial del Comercio
, OMC) sy'n ymwneud a'r rheolau sy'n rheoli
masnach ryngwladol
rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a gychwynwyd yn 1 Ionawr 1995 ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym
Marrakech
,
Moroco
, gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ol hynny gan eu
seneddau
. Bwriad swyddogol y sefydliad yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i
fasnach
. Yn 2017 roedd gan y gyfundrefn 164 aelod-wladwriaeth. Nid yw
Iran
a rhan helaeth y
byd Arabaidd
yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
[1]
[2]
Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn
Doha
, prifddinas
Qatar
, sef 'Popeth Ond Arfau'. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig
y Cenhedloedd Unedig
, mae ganddo gysylltiadau a'r gyfundrefn honno. Lleolir ei bencadlys yn ninas
Genefa
,
Y Swistir
. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevedo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.
Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu
globaleiddio
'r
economi ryngwladol
" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.