Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr
olew
yw
OPEC
(o'r
Saesneg
:
Organization of the Petroleum Exporting Countries
neu'n Gymraeg,
Cyfundrefn Gwledydd Allforio Petroliwm
). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar
bris olew crai
rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.
Sefydlwyd OPEC ar
14 Medi
1960
yn
Baghdad
(
Irac
), gyda'r syniad yn dod o
Feneswela
. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd
Sawdi Arabia
,
Iran
a
Ciwait
. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn:
Qatar
(
1961
),
Indonesia
(
1962
-
2008
),
Libia
(1962),
Emiradau Arabaidd Unedig
(
1967
),
Algeria
(
1969
),
Nigeria
(
1971
),
Ecwador
(
1973
-
1992
a dod yn aelod eto Tachwedd 2007),
Gabon
(
1975
-
1994
) ac
Angola
(
2007
). Mae'r pencadlys yn
Fienna
ers 1965.
Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw:
Aljeria
,
Angola
,
Cowait
,
Ecwador
,
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
,
Gini'r Cyhydedd
,
Gabon
,
Iran
,
Irac
,
Gweriniaeth y Congo
,
Libia
,
Nigeria
,
Arabia Sawdi
(arweinydd de fact), a
Feneswela
. Mae
Indonesia
a
Catar
yn gyn-aelodau.
[1]
Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.
Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw
Canada
,
Mecsico
,
Norwy
, yr
Unol Daleithiau
,
Rwsia
ac
Oman
yn aelodau.
Cwotau OPEC ar gyfer echdynnu bareli y dydd, fesul mil
[2]
Valstyb?
|
Cwota (7/1/05)
|
Adennill (1/07)
|
Capasiti Macsimwm
|
Aljeria
|
894
|
1,360
|
1,430
|
Angola
|
N/A
|
1,490
|
1,490
|
Indonesia
|
1,451
|
860
|
860
|
Iran
|
4,110
|
3,700
|
3,750
|
Irac
|
|
1,481
|
|
Cowait
|
2,247
|
2,500
|
2,600
|
Libia
|
1,500
|
1,650
|
1,700
|
Nigeria
|
2,306
|
2,250
|
2,250
|
Catar
|
726
|
810
|
850
|
Arabia Sawdi
|
10,099
|
8,800
|
10,500
|
EAU
|
2,444
|
2,500
|
2,600
|
Feneswela
|
3,223
|
2,340
|
2,450
|
Cyfanswm
|
28,000
|
31,981
|
32,230
|
(Noder nad yw Catar nag Indonesia bellach yn aelod o OPEC).