Llundain
|
Math
| metropolis, canolfan ariannol,
dinas
, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf
|
---|
En-uk-London.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Londra.wav, LL-Q1617 (urd)-??? ?????-????.wav
|
Poblogaeth
| 8,799,728
|
---|
Sefydlwyd
| - c. 47 (tua)
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Sadiq Khan
|
---|
Gefeilldref/i
| Berlin
,
Mumbai
,
Dinas Efrog Newydd
,
Alger
,
Sofia
,
Moscfa
,
Tokyo
,
Beijing
,
Karachi
,
Zagreb
,
Tehran
,
Arequipa
,
Delhi
,
Bogota
,
Johannesburg
,
Kuala Lumpur
,
Oslo
, Sylhet,
Shanghai
,
Baku
,
Buenos Aires
,
Istanbul
,
Los Angeles
,
Podgorica
,
Delhi Newydd
,
Phnom Penh
,
Jakarta
,
Amsterdam
,
Bwcarest
,
Santo Domingo
,
La Paz
,
Dinas Mecsico
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Saesneg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Sir
| Llundain Fwyaf
|
---|
Gwlad
|
Lloegr
|
---|
Arwynebedd
| 1,572 ±1 km²
|
---|
Uwch y mor
| 15 metr, 11 metr, 36 troedfedd
|
---|
Gerllaw
| Afon Tafwys
,
Camlas Grand Union
|
---|
Yn ffinio gyda
| Essex
,
Caint
,
Sussex
,
Surrey
,
Swydd Buckingham
,
Berkshire
,
Swydd Hertford
|
---|
Cyfesurynnau
| 51.5072°N 0.1275°W
|
---|
Cod post
| E, EC, N, NW, SE, SW, W, WC, BR, CM, CR, DA, EN, HA, IG, KT, RM, SM, TN, TW, UB, WD
|
---|
GB-LND
|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Maer Llundain
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Sadiq Khan
|
---|
|
|
|
Prifddinas y
Deyrnas Unedig
a phrifddinas
Lloegr
yw
Llundain
(
Saesneg
:
London
). Saif y ddinas ar lan afon
Tafwys
yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 8,799,728
(2021)
[1]
. Ceir 130 o filltiroedd rhwng Llundain a
Chaerdydd
.
Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion
Celtaidd
a
Rhufeinig
, ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin '
Londinium
, o darddiad Celtaidd. Yn ol
Sieffre o Fynwy
yn ei
Historia Regum Britanniae
(12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg
Cyfranc Lludd a Llefelys
,
Lludd fab Beli
a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw "Caer Ludd".
[2]
Mae pencadlys a phrif faes
rygbi
Lloegr yn
Twickenham
, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tim
pel-droed
. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn
Wembley
ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.
[3]
Mae tarddiad yr enw Llundain yn dal i fod yn ddirgelwch.
Sieffre o Fynwy
oedd yn gyfrifol am darddiad yr enw cynnar gan iddo ysgrifennu hanes y brenin
Celtaidd
Lludd fab Beli
, a gymerodd drosodd y ddinas a'i galw'n Kaerlud. Newidiodd yr enw yma dros amser i
Kaerludien
ac yna
London
. Mae yna ddamcaniaethau eraill dros darddiad y gair, rhai yn dod o'r
Frythoneg
ac un honiad heb fawr o goel arno yn deillio nol i'r
Eingl-sacsonaidd
. Mae tystiolaeth fod aneddiadau Brythonig gwasgaredig yn yr ardal yn deillio nol cyn y
Rhufeiniaid
, ond sefydlwyd yr anheddiad sylweddol cyntaf gan y Rhufeiniaid a'i alw'n
Londinium
, yn dilyn concwest y Rhufeiniaid yng
ngwledydd Prydain
. Goroesodd y
Londinium
yma am 17 mlynedd yn unig oherwydd yn y flwyddyn 61 O. C. ymosododd
Llwyth yr
Iceniaid
ar Lundain o dan arweiniad
Brenhines Buddug (Boundica)
. Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol a llosgwyd Llundain (a oedd eisoes yn datblygu'n brifddinas
de facto
y dalaith) i'r llawr. Mae'r lludw yn dal i gael ei gloddio oddi yno ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.
[4]
. Ailadeiladwyd Llundain ar ol yr ymosodiad, a daeth yn brif ddinas ar ol
Colchester
. Roedd gan y Llundain Rhufeinig boblogaeth o tua 60,000 erbyn yr amser yma.
Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.
[5]
Erbyn y
600au
, cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn
Covent Garden
. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan
Y Llychlynwyr
. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd
Alfred Fawr
y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’, sydd yn
Ninas Westminster
.
Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel "Pont Llundain". Roedd y Saeson yn ol, ac yn rheoli mewn safle pwerus. Daeth
Canute Fawr
i rym yn 1016, arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus)
Lloegr
er bod pencadlys y llywodraeth yn
Winchester
. Yn dilyn buddugoliaeth
Brwydr Hastings
yn 1066, coronwyd
Gwilym y Gorchfygwr
ac yna
Dug Normandi
fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd yn
Westminster
ar ddydd Nadolig 1066. Rhoddodd
Gwilym (William)
freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwyd
T?r Llundain
i gadw trefn ar ei dinasyddion.
Dechreuwyd adeiladu
Palas San Steffan
yn 1097 yn agos i
Abaty Westminster
. Mae'r parth hwnnw o
Westminster
wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr
Oesoedd Canol
. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd
Brenin Edward
Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.
Daeth trychineb y
Pla du
yn y 14g. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis
Rhyfeloedd y Rhosynnau
. Ar ol trechu'r
Armada Sbaeneg
yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth
Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)
yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-
Gatholig
yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel
Cynllwyn y Powdr Gwn
ar 5 Tachwedd 1605.
Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r
dan mawr Llundain
, ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tan yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.
Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18g, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.
Lladdwyd dros 30,000 o bobl yn ystod
Y Blitz
gan ddinistrio nifer fawr o adeiladau ar draws Llundain.
Awdurdodau lleol o fewn
Llundain Fwyaf
yw
Bwrdeistrefi Llundain
(
Saesneg
:
London Boroughs
). Ceir 32 o Fwrdeistrefi Llundain ynghyd a
Dinas Llundain
, nad yw'n cael ei hystyried yn fwrdeistref.
Hanes poblogaeth Llundain (data o Wicidata)
Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir a
Chymru
. Mae
Cymry Llundain
wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld a Llundain ? ac weithiau'n aros yno ? fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Erbyn canol y 18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y
Gwyneddigion
a'r
Cymmrodorion
. Sefydlwyd
Ysgol Gymraeg Llundain
a fu'n gartref dros dro i gasgliad pwysig o
lawysgrifau Cymraeg
.
Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi
Caerdydd
yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb son am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth a'r hen ddyddiau mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.
Cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol
yn Llundain ym
1887
a
1909
:
Mae gan Lundain y system trenau dan-ddaear hynaf yn y byd, y
London Underground
a adnabyddir fel yr "
Underground
" neu'r "
Tube
".
Adeiladau a chofadeiladau
[
golygu
|
golygu cod
]