Traddodiad yng nghrefydd
Cristnogaeth
yw
Catholigiaeth
. Mae mwy nag un ystyr i'r gair "catholig" (daeth y gair
Groeg
καθολικ?? (
katholikos
; "cyffredinol") i'r Gymraeg drwy'r
Lladin
Catholicus
).
[1]
Yr ystyr fwyaf cyffredin mae'n debyg yw cyfeiriad at
yr Eglwys Gatholig Rufeinig
, ac i'r
eglwys
honno dyna y wir eglwys gatholig. Gall y gair gael ei ddefnyddio i gyfeirio at unrhyw eglwys
Gristnogol
esgobol
sydd yn olrhain ei dechreuad i'r
apostolion
, ac felly yn rhan o'r corff eang o gredinwyr catholig. Ymhlith y rhain mae nid yn unig yr Eglwys Gatholig Rufeinig ond hefyd yr
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
, gan gynnwys
Eglwys Uniongred Groeg
ac
Eglwys Uniongred Rwsia
.