Beograd
(
Serbeg
Београд
;
Saesneg
,
Belgrade
) yw
prifddinas
a dinas fwyaf
Serbia
. Saif y ddinas lle mae
Afon Sava
yn llifo i mewn i
Afon Donaw
. Roedd y boblogaeth yn 1,710,000 yn 2007; y bedwaredd dinas o ran poblogaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar ol
Istanbul
,
Athen
a
Bwcarest
.
Ymsefydlodd pobl y
diwylliant Vin?a
yn yr ardal tua 4800 CC, ac yn y
drydedd ganrif CC
ymsefydlodd
y Celtiaid
yma. Dan y Rhufeiniaid daeth yn ddinas
Singidunum
. Cofnodir yr enw
Slafeg
Beligrad
, ffurf o
Beograd
, sy'n golygu "Y ddinas wen", yn 878.