Yr wyddor Ladin wreiddiol, tua'r 7g CC.
A
|
B
|
C
|
D
|
E
|
F
|
Z
|
H
|
I
|
K
|
L
|
M
|
N
|
O
|
P
|
Q
|
R
|
S
|
T
|
V
|
X
|
Yr wyddor Ladin
, neu'r
Wyddor Rufeinig
yw'r wyddor fwyaf cyffredin yn y byd heddiw. Datblygodd o fersiwn orllewinol o'r
wyddor Roeg
, a elwid yr wyddor Gumeaidd, a datblygwyd hi i ffurfio'r
wyddor Etrwscaidd
. Mabwysiadodd
y Rhufeiniaid
21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu
Lladin
.
Yn ystod yr
Oesoedd Canol
, addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.
Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd
Romaneg
o'r
wyddor Gyrilig
i'r wyddor Ladin yn y
18g
. Fe newidiodd
Twrceg
o'r
wyddor Arabeg
i'r wyddor Ladin yn
1928
ac mae
Hausa
wedi newid hefyd.
Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn
yr wyddor Gymraeg
(29 os cynnwys J), rhai ohonynt fel
Ch
neu
Ll
lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.