Mae
Go
(a elwir yn Tsieineeg fel
weiqi
ac yng Nghoreeg fel
baduk
) yn
gem fwrdd
hynafol ar gyfer dau chwaraewr. Mae'r gem yn strategol iawn er gwaethaf ei rheolau syml.
Chwaraeir y gem gan ddau berson sydd yn gosod cerrig du a gwyn yn eu tro ar grid gyda 19×19 o linellau. Ar ol i'r cerrig gael eu rhoi ar y bwrdd, ni ellir symud y cerrig i ynrhyw le arall, oni bai eu bod wedi cael eu hamgylchynu a'u cipio gan gerrig y gwrthwynebydd. Nod y gem yw i reoli (sef amgylchynu) mwy o'r bwrdd chwarae na'r gwrthwynebydd.