Cylch

Oddi ar Wicipedia
Cylch
Enghraifft o'r canlynol Siap   Edit this on Wikidata
Math anallagmatic curve, Ribaucour curve, sinusoidal spiral, locws, analytic manifold, elips , rose, hypersphere, curve of constant width, Zindler curve, generalised circle, Trychiad conig , geometric primitive, siap geometrig  Edit this on Wikidata
Rhan o sffer , disk  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn geometreg Ewclidaidd, cylch yw'r set o bwyntiau mewn plan sydd at bellter penodol, y radiws , o rhyw bwynt penodol, y canolbwynt . Mae'n enghraifft o drawstoriad conig . Dywedir fod cylch yn gromlin caeedig syml; mae'n rhannu'r plan yn ddwy ran, yr allanol a'r mewnol. Weithiau, fe ddefnyddir y gair cylch i olygu'r arwynebedd mewnol, ac yna fe gelwir y cylch (yn ein hystyr ni) yn gylchedd , yn gylchyn , neu'n berimedr . Fel arfer, fodd bynnag, mae cylchedd a.y.b. yn cyfeirio at hyd y cylch, ac fe gelwir yr arwynebedd mewnol yn ddisg .

Diffiniadau Mathemategol [ golygu | golygu cod ]

Lle mae gennym system x - y o gyfesurynnau Cartesaidd , y cylch a chanolbwynt ( a , b ) a radiws r yw'r set o bwyntiau ( x , y ) sy'n bodloni

Os mai (0, 0) yw'r canolbwynt, yna gellir symleiddio fel a ganlyn:

Mewn cyfesurynnau parametrig, gellir mynegi ( x y ) fel:

Graddiant cromlin cylch at bwynt ( x y ) arno (gan gymryd mai (0, 0) yw'r canolbwynt) yw:

Yn y plan cymhlyg , hafaliad cylch sydd a'i ganolbwynt at a radiws yw . Gan fod , gelwir (lle mae p a q yn real, ac g yn gymhlyg) weithiau yn gyffredinoliad o gylch . Noder nad yw pob cyffredinoliad o gylch yn gylch!

Fformwlau defnyddiol [ golygu | golygu cod ]

  • Hyd cylchedd cylch =
  • Arwynebedd cylch =

Lle π yn dynodi'r cysonyn pi .

Chwiliwch am cylch
yn Wiciadur .