Cyfrifiadur personol

Oddi ar Wicipedia
Myfyriwr yn gweithio ar gyfrifiadur personol yn Hacathon Prifysgol Abertawe; 28 Ionawr 2015.
Yn aml, defnyddir y cyfrifiadur personol mewn sefydliadau fel ysgolion a cholegau, gan eu bod yn hawdd i'w trin ac yn gyfarwydd i'r defnyddiwr.

Math o gyfrifiadur bychan i'r unigolyn yw'r cyfrifiadur personol (PC), sy'n beiriant amlbwrpas. O'i gymharu a chyfrifiaduron sefydliadau a chwmniau enfawr e.e. y cyfrifiadur prif ffram , mae ei bris yn isel, a gall pobl heb hyfforddiant ei ddefnyddio: nid oes yn rhaid bod yn arbenigwr cyfrifiadur neu dechnegydd. [1]

Roedd yn rhaid i berchnogion cyfrifiadurol sefydliadol neu gorfforaethol yn y 1960au ysgrifennu eu rhaglenni eu hunain i wneud unrhyw waith defnyddiol gyda'r peiriannau. Heddiw, er y gall defnyddwyr cyfrifiadur personol ddatblygu eu aps eu hunain, fel arfer mae'r systemau hyn yn rhedeg meddalwedd fasnachol neu feddalwedd ddi-dal (" rhadwedd ") neu feddalwedd am ddim o ffynhonnell agored (e.e. Wicipedia ), a ddarperir ar ffurf parod. Yn aml datblygir a dosbarthir meddalwedd ar gyfer cyfrifiaduron personol yn annibynnol oddi wrth cynhyrchwyr y caledwedd neu'r system weithredu. [2]

Ar ddechrau'r 1980au datblygwyd y sglodyn silicon , a chrewyd microbroseswyr rhad, llawer llai na chynt. Dros amser, daeth y term "PC" yn fwy poblogaidd na'r term hwn a gyflwynwyd yn y 1970au, sef "meicrogyfrifiadur". Un o'r microgyfrifiaduron cyntaf yn ysgolion Cymru oedd y BBC Micro, a chafwyd papur Cymraeg gan MEU Cymru o'r enw Sglodyn .

Ers y 1990au , mae systemau gweithredu (OS) cyfrifiaduron personol yn nwylo Microsoft ac Intel i raddau helaeth, yn gyntaf gydag MS-DOS ac yna gyda Windows . Rhan fychan iawn o'r farchnad fydeang sydd gan gwmniau fel Apple a'u system weithredu macOS a systemau rhydd ac agored fel Linux . O ran prosesyddion , yr unig opsiwn amgen yw AMD ( Advanced Micro Devices ).

Gellir ystyried datblygiad y cyfrifiadur personol yn rhan allweddol o'r chwyldro digidol a welwyd rhwng y 1980au a'r presennol (2019). Rhagwelwyd y chwyldro hwn o gysylltu cyfrifiaduron o fewn cartrefi gyda'i gilydd drwy'r we fydeang yn Y Cymro yn Ngorffennaf 1969 [3] [4] :

'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell. Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "the definition of personal computer" . www.dictionary.com (yn Saesneg) . Cyrchwyd 2018-06-11 .
  2. Conlon, Tom (January 29, 2010), The iPad's Closed System: Sometimes I Hate Being Right , Popular Science , http://www.popsci.com/gadgets/article/2010-01/ipad%E2%80%99s-closed-system-sometimes-i-hate-being-right , adalwyd 2010-10-14
  3. Gwefan Owain Owain
  4. Yr erthygl gyfan a gyhoeddwyd yn Y Cymro .