Cyfrifiadur prif ffram

Oddi ar Wicipedia
Dau gyfrifiadur prif ffram IBM. Ch: IBM z Systems z13. Dde: IBM LinuxONE Rockhopper.
Y tu fewn i'r IBM System z9

Mae cyfrifiaduron prif ffram (y cyfeirir atynt ar lafar fel "big iron" ) yn gyfrifiaduron a ddefnyddir yn bennaf gan sefydliadau a chwmniau mawr ar gyfer gwaith prosesu data a gwybodaeth hanfodol. Gallant drin a thrafod data mawr yn gynt na chyfrifiadur personol neu hyd yn oed weinyddwyr , oherwydd eu p?er prosesu, sef y UBGs . [1] Anaml y gwelir un ar ei ben ei hun; fel arfer ceir rhesi ohonynt yn cydweithio gyda'i gilydd.

Cyfeiriodd y term yn wreiddiol at y cypyrddau mawr "prif fframiau" lle cedwid yr uned brosesu ganolog a'r prif gof . [2] [3]

Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y term i wahaniaethu rhwng peiriannau masnachol, cryf, ag unedau llai pwerus. [4] Sefydlwyd y rhan fwyaf systemau fframiau mawr yn y 1960au , ond maent yn parhau i esblygu hyd heddiw (2019). Defnyddir cyfrifiaduron prif ffram yn aml fel gweinydd .

Datblygiadau [ golygu | golygu cod ]

Er mai prif nodwedd y Cyfrifiadur prif ffram yw cyflymder, ceir ystyriaethau eraill a ystyrir gan lawer i fod yr un mor bwysig:

  1. dibynadwyedd a diogelwch
  2. ol-gydnaws: a yw hen feddalwedd yn dal i weithio?
  3. nodweddion mewnbynnu/allbynnu ("I/O")
  4. y gallu i gyfnewid caledwedd megis y prosesydd a chof, yn sydyn.

Mae cyfrifiaduron prif ffram wedi eu llunio i redeg am gyfnodau hir (degawdau), yn ddi-dor, a hynny mewn modd dibynadwy a diogel. Gelwir y nodwedd hon yn aml yn RAS: reliability, availability a serviceability . Mae'r Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST) yn clustnodi cyfrifiaduron sy'n pasio'r meincnodau hyn, ac yn eu plith enwir yr IBM Z (a elwid gynt yn z Systems, System z a zSeries), Unisys Dorado ac Unisys Libra fel y rhai mwyaf diogel. Mae eu diffygion yn y digidau sengl isel, o'u cymharu a miloedd ar gyfer Windows, UNIX, a Linux.

Mae uwchraddio meddalwedd fel arfer yn gofyn am sefydlu'r system weithredu neu ddarnau ohoni, drwy rannu'r gwaaith rhwng y systemau eraill.

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Yn y 1950au , rhyngwyneb syml iawn oedd gan y cyfrifiadur prif ffram (y consol), a defnyddid cardiau tyllog neu dap papur neu fagnetig i lwytho data a rhaglenni. Eu gwaith yr adeg honno oedd cefnogi gwaith clerigol fel cyflogau , anfonebau , a thaliadau drwy wahanu, dosbarthu a chyfuno data - gwaith ailadroddus a llafurus, fel arfer, ar lawr y swyddfa. Yna daeth argraffu-llinell, parhaus. Pan ddaeth terfynellau ("tethi" oedd y gair Cymraeg gwreiddiol), yna galluogwyd y cwsmer i gysylltu'n uniongyrchol gyda'r cyfrifiadur prif ffram - yn bennaf i fwcio teithiau awyr ayb. drwy'r 1970au , cysylltwyd y teipiadur gyda'r cyfrifiadur, fel consol, hyd nes y dyfeisiwyd yr allweddell .

Nodweddion [ golygu | golygu cod ]

Gall y cyfrifiadur prif ffram redeg sawl system weithredu ar yr un pryd. Gelwir y dechneg hon yn "beiriannau rhithwir", a chant eu rhedeg fel pe taent yn gyfrifiaduron annibynnol, real. [5]

Nodwedd arall yw ffeirio tinboeth ( hot swapping ) heb amharu ar y system reoli.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "IBM preps big iron fiesta" . The Register. 20 Gorffennaf 2005.
  2. "mainframe, n". Oxford English Dictionary (arg. on-line).
  3. Ebbers, Mike; O’Brien, W.; Ogden, B. (2006). "Introduction to the New Mainframe: z/OS Basics" (PDF) . IBM International Technical Support Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-07-02 . Cyrchwyd 2007-06-01 .
  4. Beach, Thomas E. "Computer Concepts and Terminology: Types of Computers" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2015 . Cyrchwyd November 17, 2012 . Unknown parameter |deadurl= ignored ( help )
  5. "Emulation or Virtualization?" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-18 . Cyrchwyd 2019-03-12 .