Chwyldro Libia

Oddi ar Wicipedia
Chwyldro Libia
Hen faner Brenhiniaeth Libia, a atgyfodwyd fel symbol gan y gwrthryfelwyr.
Enghraifft o'r canlynol rhyfel cartref , rhyfel chwyldroadol  Edit this on Wikidata
Rhan o Y Gwanwyn Arabaidd , Libyan Crisis  Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 15 Chwefror 2011  Edit this on Wikidata
Daeth i ben 23 Hydref 2011  Edit this on Wikidata
Lleoliad Libia   Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhyfel chwyldroadol a ymladdwyd yn 2011 i ddymchwel llywodraeth Muammar al-Gaddafi oedd Chwyldro Libia ( Arabeg : ?????? ??????? ‎). Wedi'r chwyldroadau yn Nhiwnisia a'r Aifft yn ystod y Gwanwyn Arabaidd , cychwynnodd cyfres o brotestiadau yn Libia i alw am arweinyddiaeth newydd ac etholiadau democrataidd. Dechreuodd y gwrthryfel yn sgil gwrthdrawiadau rhwng protestwyr a'r lluoedd diogelwch yn Benghazi ar 15 Chwefror 2011. Ymhen wythnos, ffrwydrodd ymladd mewn sawl dinas a brwydrodd Gaddafi i gadw ei reolaeth dros y wlad. Ymatebodd Gaddafi gyda grym milwrol a mesurau eraill megis sensoriaeth ac ataliadau ar gyfathrebu. Cyhuddwyd ef o recriwtio hurfilwyr tramor yn sgil gwrthgilio ymhlith ei luoedd. Cynigodd Gaddafi i gynnal trafodaethau ag arweinwyr y gwrthwynebiad trwy gynrychiolydd, ond gwrthododd y gwrthryfelwyr i drafod a Gaddafi a galwyd arno i ymddiswyddo a gadael y wlad.

Ehangodd y gwrthryfel i wrthdaro arfog, gyda gwrthryfelwyr yn sefydlu clymblaid o'r enw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a seiliwyd yn Benghazi. Rhybuddiodd y Llys Troseddol Rhyngwladol y gall Gaddafi ac aelodau o'i lywodraeth wedi cymryd rhan mewn troseddau yn erbyn dynoliaeth . Pasiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn rhewi asedau Gaddafi a deg aelod o'i gylch mewnol, a chyfyngu ar eu gallu i deithio. Ar ddechrau Mawrth ail-gipiodd lluoedd Gaddafi nifer o ddinasoedd arfordirol yn nwyrain Libia cyn ymosod ar Benghazi. Awdurdodwyd gwaharddiad hedfan dros Libia gan benderfyniad arall, i'w weithredu gan aelod-wladwriaethau'r CU. Datganodd llywodraeth Gaddafi cadoediad, ond methodd i'w gadw. Dechreuodd clymblaid o wladwriaethau i weithredu'r gwaharddiad hedfan ar 19 Mawrth trwy analluogi amddiffyniadau awyr Gaddafi.

Ym mis Awst cychwynnodd y gwrthryfelwyr ymgyrch ymosodol ar hyd arfordir Libia, gan gipio'r brifddinas Tripoli . Ar 16 Medi cydnabuwyd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig fel cynrychiolydd Libia yn lle llywodraeth Gaddafi. Cafodd Gaddafi ei ddal a'i ladd yn ei ddinas enedigol Sirt ar 20 Hydref, [1] a datganodd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol ddiwedd y rhyfel ar 23 Hydref 2011. [2] Er i'r chwyldro lwyddo, hon oedd ond y rhan gyntaf o gyfnod hir o ansefydlogrwydd yn Libia, a ddilynwyd gan frwydro rhwng y llywodraeth newydd a milisiau (2011?14), rhyfel cartref ar raddfa eang (2014?20), argyfwng ffoaduriaid, rhagor o brotestiadau (2020), a gwrthdrawiadau yn Tripoli (2022?23).

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. " Cyrnol Gaddafi yn cael ei ladd yn ei dref enedigol ", Golwg360 (Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2024.
  2. " Cyhoeddi fod Libya yn rhydd ", Golwg360 (Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2024.