Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014
|
|
Enghraifft o'r canlynol
| Gemau Olympaidd y Gaeaf
|
---|
Dyddiad
| Chwefror 2014
|
---|
Dechreuwyd
| 7 Chwefror 2014
|
---|
Daeth i ben
| 23 Chwefror 2014
|
---|
Rhagflaenwyd gan
| Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010
|
---|
Olynwyd gan
| Gemau Olympaidd y Gaeaf 2018
|
---|
Lleoliad
| Sochi
, Krasnaya Polyana
|
---|
Yn cynnwys
| sglefrio cyflymder yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014, curling at the 2014 Winter Olympics, cross-country skiing at the 2014 Winter Olympics, short track speed skating at the 2014 Winter Olympics, ski jumping at the 2014 Winter Olympics, Nordic combined at the 2014 Winter Olympics, ice hockey at the 2014 Winter Olympics, freestyle skiing at the 2014 Winter Olympics, bobsleigh at the 2014 Winter Olympics, skeleton at the 2014 Winter Olympics, snowboarding at the 2014 Winter Olympics, Nordic skiing at the 2014 Winter Olympics, luge at the 2014 Winter Olympics, biathlon at the 2014 Winter Olympics, alpine skiing at the 2014 Winter Olympics, figure skating at the 2014 Winter Olympics
|
---|
|
Gwefan
| https://olympics.com/en/olympic-games/sochi-2014
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Trefnwyd i
Ffederasiwn Rwsia
gynnal
Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014
, yr ail gystadleuaeth
Gemau Olympaidd y Gaeaf
ar hugain, yn
Sochi
o 6 hyd 23 Chwefror 2014. Cynhelir y
digwyddiad aml-chwaraeon
hwn yn
Sochi
,
Rwsia
.
Rhaglennwyd y cystadleuaethau i ddechrau ar y 7 Chwefror 2014, ond cynhaliwyd rowndiau agoriadol y cystadlaethau sglefrio ffigyrau,
sgio
ac
eirfyrddio
ar noswyl y Seremoni Agoriadol, 6 Chwefror 2014. Trefnwyd y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2014 gan Bwyllgor Trefnu Sochi. Dewiswyd Sochi fel y ddinas i gynnal y Gemau yng Ngorffennaf 2007, yn ystod 119eg sesiwn y Gweithgor Olympaidd Rhyngwladol yn
Ninas Gwatemala
. Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i gael eu cynnal yn Rwsia ers i'r
Undeb Sofietaidd
gael ei ddileu yn 1991. Yr Undeb Sofietaidd gynhaliodd Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ym
Moscow
.
Cynhelir 98 cystadleuaeth mewn 15 maes chwaraeon Gaeafol gwahanol yn y Gemau. Bydd nifer o gystadlaethau eraill - cyfanswm o 12 ohonynt yn cael eu cynnal yn y Gemau, yn cynnwys ras gyfnewid cymysg
biathlon
,
neidio-sgi
, timoedd cymysg ar gyfer sglefrio ffigyrau, y
car llusg
, sgio hanner-piben a sgio slalom cyfochrog. Cynhelir y digwyddiadau hyn o amgylch dau glwstwr o leoliadau newydd; Parc Olympaidd sydd wedi'i adeiladu yn
Nyffryn Imeretinsky
, Sochi ar lannau'r
Mor Du
, gyda Stadiwm Olympaidd Fisht a'r lleoliadau dan-do o fewn pellter cerdded ar droed tra cynhelir y digwyddiadau eira yKrasnaya Polyana.
Tra'n paratoi, canolbwyntiodd y trefnwyr ar foderneiddio'r systemau delegyfathrebu,
p?er trydan
a thrafnidiaeth yn yr ardal. Cost gwreiddiol y Gemau oedd $12 biliwn (Americanaidd), ond achosodd ffactorau amrywiol i'r gost gynyddu i dros $51 biliwn. Golyga hyn eu bod wedi gwario mwy na chost
Gemau Olympaidd 2008
yn
Beijing
a gostiodd $44 biliwn, gan wneud Gemau Sochi y drutaf erioed.
Ystyriwyd cefndir y Gemau yn ddadleuol, gyda chyhuddiadau o
lwgrwobrwyo
a arweiniodd at gynnydd yng nghost y Gemau, pryderon yngl?n a
hawliau dynol
athletwyr a chefnogwyr
lesbiadd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
yn sgil
cyfyngiadau ar hyrwyddo perthynasau rhywiol LHDT
(sydd wedi arwain at brotestiadau) ac amryw o bryderon diogelwch yngl?n a bygythiadau gan grwpiau jihadaidd sy'n gysylltiedig a'r Gwrthryfel yng Ngogledd Caucasus.