Y Mor Du
|
Math
| mor mewndirol, basn draenio
|
---|
Enwyd ar ol
| du
|
---|
|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, Ardal Mor Canoldir
|
---|
Gwlad
| Bwlgaria
,
Rwsia
,
Wcrain
,
Rwmania
,
Twrci
,
Georgia
, Gweriniaeth Abchasia
|
---|
Arwynebedd
| 436,402 ±1 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea,
Bwlgaria
|
---|
Cyfesurynnau
| 43.41°N 34.26°E
|
---|
Hyd
| 1,175 cilometr
|
---|
|
|
|
Mor sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain
Ewrop
ac
Asia Leiaf
ydy'r
Mor Du
(
Pontus Euxinus
y
Groegiaid
). Mae'n cysylltu a'r
Mor Canoldir
trwy
gulfor
Bosporus
a
Mor Marmara
, ac a
Mor Azov
trwy
Gulfor Kerch
.
Trwy'r Bosporus mae 200 km² o dd?r hallt yn llifo i mewn i'r Mor Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o dd?r ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Mor Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Mor Du yw
Afon Donaw
. Maint arwynebedd y Mor Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.
Y gwledydd o gwmpas y Mor Du yw
Twrci
,
Bwlgaria
,
Rwmania
,
Wcrain
,
Rwsia
a
Georgia
. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcrain yw'r
Crimea
.
Mae'r dinasoedd mwyaf ar arfordir y Mor Du yn cynnwys
Istanbul
(
Caergystennin
neu
Byzantium
gynt),
Burgas
,
Varna
,
Constanta
,
Tulcea
,
Yalta
,
Odessa
,
Sevastopol
,
Batumi
,
Trabzon
,
Samsun
a
Zonguldak
.
Y Mor Du yw'r system morol heb
ocsigen
mwyaf yn y byd am ei fod yn ddwfn iawn gyda dim ond mymryn o halen ynddi. Nid yw'r d?r ffres a'r d?r hallt newydd sy'n llifo i'r mor ddim yn cymysgu a'r hen dd?r ond yn haen uchaf ei ddyfroedd, hyd at ddyfnder o 100m i 150m. Nid yw'r d?r sydd yn ddyfnach na hynny yn newid ond unwaith mewn mil o flynyddoedd. O ganlyniad, dim ond ychydig o ocsigen sy'n mynd i lefelau dwfn y mor ac mae
mater organaidd
sydd yn pydru ar waelod y mor a'r
gwaddodiadau
yn treulio pob mymryn o ocsigen sydd ar gael.
Am fod cyn lleied o ocsigen yn y d?r, gall
micro-organebau
sy'n defnyddio
sylffad
i dorri mater organebol i lawr ac yn cynhyrchu
hydrogen sylffid
(HS) a
charbon deiocsid
fyw yn yr haen dyfnaf. Wrth gwrs, mae amgylchedd fel hyn yn wenwynol iawn i'r mwyafrif o blanhigion ac anifeiliaid ac felly mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn yr haen uchaf.
Mae rhai arbennigwyr yn meddwl mai'r tiroedd o amgylch y Mor Du oedd cartref gwreiddiol y
Proto-Indo-Ewropeaidd
, ond mae eraill yn meddwl fod hynny i'w lleoli rhywle yng nghyffiniau
Mor Caspia
.
Ym
1997
cyhoeddwyd damcaniaeth gan William Ryan a Walter Pitman o
Prifysgol Columbia
fod gorlif fawr iawn wedi rhedeg trwy'r
Bosporus
tua'r flwyddyn
5600 CC
. Milau o flynyddoed cyn hynny roedd d?r oedd yn dod o
rewlifau
wedi toddi yn llifo i'r Mor Du a Mor Caspia a fel hynny roedd eu lefelau'n codi. Pan ddiflanodd y rhewlifau aeth d?r yr afonydd yn llai a gostyngodd lefelau'r Mor Du a'r Mor Caspia eto. Ar ol hynny, o gwmpas 5600 C.C., cododd lefelau'r moroedd eraill a gorlifodd y Mor Canoldir i'r Mor Du. Mewn canlyniad roedd tua 155,000 km² (tua 60,000 milltir²) o dir dan d?r a newidiwyd y Mor Du o lyn d?r ffres i for d?r hallt.
Mae'n debyg i'r bobl a oedd yn dianc am eu bywyd ffoi i'r gogledd-orllewin i Ewrop a lledaenu
amaethyddiaeth
yno. Mae'n bosib hefyd fod y cof am y gorlif hon wrth wraidd y traddodiad am y
Dilyw
yn y
Beibl
.
Darganfu'r archaeolegydd
Robert Ballard
draethlinau hynafol, cregyn malwod d?r ffres, dyffrynnoedd hynafol a choed wedi ei siapio gan offer yn nyfroedd y Mor Du hyd at ddyfnder o 100m (300 troeddfedd) i lawr ger arfordir Twrci.
Enwyd y mor yn For Du gan forwyr Groegaidd cynnar am fod ei liw yn dywyllach na hynny'r Mor Canoldir. Mewn wirionedd, ni ellir weld ond hyd at 5m (15 troeddfedd) i lawr yn y Mor Du, ond gellir gweld hyd at 30m (100 troeddfedd) i lawr yn y Mor Canoldir.