Y Lan Orllewinol

Oddi ar Wicipedia
y Lan Orllewinol
Math tiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina  Edit this on Wikidata
Enwyd ar ol gorllewin  Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949  Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Mahmoud Abbas   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Gwladwriaeth Palesteina , Tiriogaethau Palesteinaidd , Israeli-occupied territories  Edit this on Wikidata
Gwlad Gwladwriaeth Palesteina , Israeli-occupied territories  Edit this on Wikidata
Arwynebedd 5,860 km²  Edit this on Wikidata
Gerllaw Mor Marw , Afon Iorddonen   Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Israel , Gwlad Iorddonen   Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 32°N 35.35°E  Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Mahmoud Abbas   Edit this on Wikidata
Map
Map o'r Lan Orllewinol

Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen , rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain. Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi , a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.

Daearyddiaeth [ golygu | golygu cod ]

Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem . Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin , Nablus , dwyrain Jeriwsalem , Bethlehem , Ramallah , Hebron a Jericho . Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi .

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Yn rhan o Balesteina yn sgil yr Ail Ryfel Byd , daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ol cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd ( 1967 ).

Gweinyddiad [ golygu | golygu cod ]

Newidiodd polisiau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin . Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ol eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad d?r, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.

Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.

Map o'r trefedigaethau a chaedigaethau ers Ionawr 2006 . Yr ardaloedd melyn yw'r prif drefi Palesteinaidd. Ardaloedd milwrol caedig, ar ffin y trefedigaethau, neu ardaloedd a ynysir gan Fur Israelaidd y Lan Orllewinol yw'r ardaloedd pinc golau. Gwladychiadau Israelaidd, allbyst a chanolfannau milwrol yw'r ardaloedd pinc tywyll. Dengys y lein du llwybr y Mur.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]