Alan Turing
|
---|
|
Ganwyd
| Alan Mathison Turing
23 Mehefin 1912
Maida Vale, Warrington Lodge
|
---|
Bu farw
| 7 Mehefin 1954
o gwenwyno gan syanid
Wilmslow
|
---|
Man preswyl
| Maida Vale,
Guildford
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
|
---|
Alma mater
| |
---|
ymgynghorydd y doethor
| - Alonzo Church
|
---|
Galwedigaeth
| gwyddonydd cyfrifiadurol,
mathemategydd
, academydd, cryptograffwr, rhesymegwr, ystadegydd, rhedwr marathon, ymchwilydd deallusrwydd artiffisial
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus am
| On Computable Numbers, with an Application to the Entscheidungsproblem, Computing Machinery and Intelligence, Intelligent Machinery, halting problem, Turing machine,
Prawf Turing
, Turing completeness, Church-Turing thesis, universal Turing machine, Symmetric Turing machine, non-deterministic Turing machine, Bombe, probabilistic Turing machine, Turing degree
|
---|
Prif ddylanwad
| Max Newman
|
---|
Tad
| Julius Mathison Turing
|
---|
Mam
| Ethel Sara Stoney
|
---|
Partner
| Christopher Morcom
|
---|
Gwobr/au
| Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, OBE, Smith's Prize
|
---|
Gwefan
| http://www.turingarchive.org/
|
---|
Chwaraeon
|
---|
llofnod
|
---|
|
Mathemategydd
, a
rhesymegydd
o
Loegr
oedd
Alan Mathison Turing
,
OBE
(
23 Mehefin
1912
-
7 Mehefin
1954
).
Fe ddatblygodd gysyniad o'r enw
peiriant Turing
, sy'n ffurfioli'r hyn mae
cyfrifiaduron
yn gallu gwneud. Yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, roedd yn gweithio ym
Mharc Bletchley
, y ganolfan brydeinig ar gyfer torri'r
codau
a ddefnyddiwyd ar gyfer
cyfathrebu
milwrol. Dyfeisiodd sawl techneg o dorri codau
Almaenig
, gan gynnwys peiriant o'r enw y
bombe
a oedd yn canfod dewisiadau
peiriant Enigma
.
Ar ol y rhyfel, bu'n gweithio yn y
Labordy Ffisegol Cenedlaethol
, ac yna ym
Mhrifysgol Manceinion
lle'r oedd yn gweithio ar feddalwedd ar gyfer
Marc I Manceinion
, un o'r gwir-
gyfrifiaduron
cyntaf yn y byd.
Ym
1952
, fe'i gafwyd yn euog o "weithredoedd anweddus dygn" wedi iddo gyfaddef cael perthynas rhywiol gyda dyn ym
Manceinion
. Fe'i rhoddwyd ar brofiannaeth prawf a gorfodwyd i dderbyn triniaeth hormonaidd. Ar
11 Medi
2009
darparodd y
Prif Weinidog
Gordon Brown
ymddiheuriad swyddogol 55 o flynyddoedd ar ol marwolaeth Turing, am y modd "gwarthus" y cafodd ei drin. Dywedodd Brown ei fod yn "hynod flin" am y driniaeth a gafodd Turing, wedi iddo dderbyn deiseb o dros 30,000 o enwau yn gofyn am ymddiheuriad.
[1]
Bu farw ar ol bwyta
afal
gyda
cyanid
ynddo. Tybia lawer mai
hunanladdiad
ydoedd.
Portreadau mewn diwylliant fodern
[
golygu
|
golygu cod
]
Seiliwyd y ffilm
"
The Imitation Game
"
a ryddhawyd yn 2014 ar fywyd Turing, gyda'r actor
Benedict Cumberbatch
yn chwarae'r prif gymeriad.