Newidiodd polisiau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo
cytundeb Oslo II
ym
1995
gan
Yasir Arafat
a
Yitzak Rabin
. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ol eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr
Awdurdod Cenedlaethol Palesteina
yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B.
Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad d?r, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.
Mae Israel wedi codi
mur
rhyngddi a'r Lan Orllewinol.