Gair yn golygu, yn llythrennol, "wedi'i ddiffodd", megis cannwyll, yw
nirfana
(
Sansgrit
:
???????
;
Pali
:
???????
nibb?na
;
Prakrit
:
???????
).
[1]
Fe'i cysylltir gan amlaf a
Bwdhaeth
.
[2]
Yn y crefyddau Indiaidd, cyrraedd nirfana yw
moksha
, sef rhyddhad o
gylchred ddi-dor genedigaeth, marwolaeth ac ailenedigaeth
.
[3]
Mewn testunau Bwdhaidd, cyfeiria
nirfana
at lonyddwch meddwl anghyffroedig ar ol i danau sy'n peri dioddefaint i berson (e.e. chwennych, casineb a chamdyb) gael eu diffodd.
[1]
Bethyciodd
Hindwiaeth
y term yng nghyfnod ysgrifennu'r
Bhagavad Gita
(sef rhan o'r epic
Mahabharata
rhwng 1200 a 1500
CP
. Ar adegau, o fewn Jainiaeth mae'r ddau air 'mocsa' a nirfana' yn golygu fwy neu lai yr un peth; ond yn gyffredinol, credant bod mocsa'n dilyn nirfana.
Brahmanirvana yn y Bhagavad Gita
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn ol Helena Blavatsky, yn y
Bhagavad Gita
, mae
Krishna
yn egluro sut y mae cyrraedd Brahma nirvana: drwy gael gwared a
vices
, dod yn rhydd o 'ddeuoliaeth', petheuach dynol a gwylltineb. Gwneir hyn drwy reoli meddyliau 'drwg' a deall 'Atman' a gwneud yr hyn sy'n dda.
[4]
[5]
Yn ol
Mahatma Gandhi
, mae ystyron gwahanol i'r gair Nirfana gan yr Hindw a'r Bwdist:
The nirvana of the Buddhists is
shunyata
, emptiness, but the nirvana of the Gita means peace and that is why it is described as brahma-nirvana [oneness with Brahman].
[6]
- ↑
1.0
1.1
Richard Gombrich, Theravada Buddhism: A Social History from Ancient Ben?res to Modern Colombo. Routledge
- ↑
Donald S. lopez Jr.,
Nirvana
, Encyclopedia Britannica
- ↑
Gavin Flood, Nirvana. In: John Bowker (ed.), Oxford Dictionary of World Religions
- ↑
Bhagavad Gita 5.24, 5,25, 5.26
- ↑
H. P. Blavatsky,
Lucifer: A Theosophical Magazine, Mawrth - Awst 1893
, p. 11
- ↑
Mahatma Gandhi (2009), John Strohmeier, ed.,
The Bhagavad Gita ? According to Gandhi
, North Atlantic Books, p. 34, "The nirvana of the Buddhists is shunyata, emptiness, but the nirvana of the Gita means peace and that is why it is described as brahma-nirvana [oneness with Brahman]"