Louis Althusser
|
---|
|
Ganwyd
| Louis Pierre Althusser
16 Hydref 1918
Bir Mourad Rais
|
---|
Bu farw
| 22 Hydref 1990
Paris
, La Verriere
|
---|
Dinasyddiaeth
| Ffrainc
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| athronydd,
gwleidydd
, academydd, golygydd
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus am
| For Marx, Reading Capital (work level), Ideology and Ideological State Apparatuses (work level), Philosophy and the Spontaneous Philosophy of the Scientists (work level)
|
---|
Prif ddylanwad
| Karl Marx
,
Vladimir Lenin
,
Antonio Gramsci
,
Claude Levi-Strauss
, Gaston Bachelard,
Mao Zedong
,
Baruch Spinoza
,
Georges Canguilhem
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Plaid Gomiwnyddol Ffrengig
|
---|
Mudiad
| Marcsiaeth
, structuralism, structural Marxism
|
---|
Priod
| Helene Rytmann
|
---|
Athronydd
Ffrengig
oedd
Louis Althusser
(
16 Hydref
1918
?
22 Hydref
1990
) sydd yn nodedig am gyfuno
athroniaeth Farcsaidd
ag
adeileddaeth
.
Ganed yn Birmandreis,
Algeria Ffrengig
(heddiw Bir Mourad Rais,
Algeria
). Fe'i galwyd i'r fyddin yn 1939 ar ddechrau'r
Ail Ryfel Byd
, ac yn sgil
cwymp Ffrainc
ym Mehefin 1940 fe gafodd ei ddal mewn gwersyll carcharorion rhyfel gan yr Almaenwyr nes diwedd y rhyfel.
[1]
Yn 1948 ymunodd Althusser a
Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc
. Yn yr un flwyddyn, fe'i penodwyd i gyfadran yr Ecole Normale Superieure ym Mharis, a bu'n addysgu yno am ddeng mlynedd ar hugain bron. Yn 1965 cyhoeddodd ei ddau brif waith ar bwnc athroniaeth
Karl Marx
,
Pour Marx
a
Lire 'le Capital'
. Tynnodd ar waith athronwyr y gwyddorau
Gaston Bachelard
a
Georges Canguilhem
i amlygu'r wahaniaeth rhwng syniadaeth
Hegelaidd
gynnar Marx a'i hanesyddiaeth ddiweddarach, a bod y wahaniaeth hon yn nodi "toriad
epistemolegol
" yn athroniaeth Marx. I'r un perwyl, ysgrifennodd Althusser draethawd, "Ideologie et appareils ideologiques d'Etat" (1970), yn dadlau'n erbyn dehongliadau traddodiadol o benderfyniaeth economaidd Marx drwy dynnu sylw at y pwysigrwydd a roddai i wleidyddiaeth, y gyfraith, ac ideoleg yn ei weithiau diweddarach. Yn y 1970au bu'n lladd ar Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd a
Staliniaeth
. Bu hefyd yn beirniadu Plaid Gomiwnyddol Ffrainc am roi'r gorau i'r nod o unbennaeth y proletariat.
Yn Nhachwedd 1980, dioddefodd Althusser chwalfa yn ei iechyd meddwl a fe dagodd ei wraig, Helene Rytmann, yn farw. Fe'i datganwyd yn anghymwys i'w roi ar brawf yn 1981, a chafodd ei gadw mewn ysbyty seiciatrig am dair blynedd. Bu farw o
fethiant y galon
mewn ysbyty henoed ger
Paris
yn 72 oed.
[2]
Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei hunangofiant,
L'avenir dure longtemps
, yn 1992. Ynddo mae'n cyfaddef nad oedd wedi darllen yn helaeth ac nid oedd yn gyfarwydd a gwaith nifer o brif athronwyr y Gorllewin, a'i fod yn euog o ffugio dyfyniadau gan Bachelard yn ei draethawd ymchwil.
[3]