Iwgoslafia
Delwedd:Emblem of Yugoslavia (1943?1963).svg, Emblem of Yugoslavia (1963?1992).svg, Coat of arms of the Kingdom of Yugoslavia.svg
|
Math
| gwlad ar un adeg
|
---|
|
Prifddinas
| Beograd
|
---|
Poblogaeth
| 23,271,000, 11,998,000
|
---|
Sefydlwyd
| - 1 Rhagfyr 1918
|
---|
Anthem
| Hey, Slavs
|
---|
Cylchfa amser
| UTC+01:00
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Serbo-Croateg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Arwynebedd
| 255,804 km²
|
---|
Gerllaw
| Mor Adria
|
---|
Yn ffinio gyda
| yr Eidal
,
Gwlad Groeg
,
Hwngari
,
Rwmania
,
Albania
,
Bwlgaria
,
Awstria
,
yr Undeb Ewropeaidd
,
yr Almaen Natsiaidd
|
---|
Cyfesurynnau
| 44.8206°N 20.4622°E
|
---|
|
Arian
| Yugoslav dinar
|
---|
|
|
Gwlad ffederal ar lan
Mor Adria
yn y
Balcanau
, de-ddwyrain
Ewrop
, oedd
Iwgoslafia
(enw swyddogol:
Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia
,
Serbo-Croateg
:
Jugoslavija
). Roedd yn cynnwys y gweriniaethau ffederal
Slofenia
,
Croatia
,
Serbia
,
Bosnia-Hertsegofina
,
Montenegro
a
Macedonia
, sy'n wledydd annibynnol erbyn heddiw.
Serbiaid
a
Croatiaid
oedd mwyafrif y boblogaeth.
Beograd
oedd y brifddinas.
Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn
1918
. Cymerodd y brenin
Alecsander I o Iwgoslafia
rym absoliwt iddo'i hun yn
1929
ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn
1934
. Yn yr
Ail Ryfel Byd
meddianwyd y wlad gan yr
Almaenwyr
a ffoes
Pedr II o Iwgoslafia
, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn
Llundain
.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y
Tsietniciaid
a'r
Partisaniaid
. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn
1943
ac ar ol y rhyfel sefydlodd eu harweinydd
Tito
lywodraeth
gomiwnyddol
.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr
Undeb Sofietaidd
a daeth materion i ben yn
1948
pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol a'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgil marwolaeth
Stalin
. Dilynodd Tito bolisi o
niwtraliaeth
mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o
sosialaeth
ddatganoliedig
unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Torrodd Iwgoslafia i fyny yn y
1990au
yn
Rhyfeloedd Iwgoslafia
.
- Hall, Brian: The Impossible Country: A Journey Through the Last Days of Yugoslavia. Penguin. Efrog Newydd, 1994
- Allcock, John B.:
Explaining Yugoslavia
. Efrog Newydd: Columbia University Press, 2000
- Clark, Ramsey:
NATO in the Balkans: Voices of Opposition
. International Action Center, 1998
- Cohen, Lenard J.:
Broken Bonds: The Disintegration of Yugoslavia
. Westview Press, 1993
- Dragnich, Alex N.:
Serbs and Croats. The Struggle in Yugoslavia
. Efrog Newydd: Harcourt Brace Jovanovich, 1992
- Fisher, Sharon:
Political Change in Post-Communist Slovakia and Croatia: From Nationalist to Europeanist
. Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2006
- Gutman, Roy.:
A Witness to Genocide. The 1993 Pulitzer Prize-winning Dispatches on the "Ethnic Cleansing" of Bosnia
. Efrog Newydd: Macmillan, 1993
- Jelavich, Barbara:
History of the Balkans: Eighteenth and Nineteenth Centuries
, Cyfrol 1. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983 ED 236 093
- Jelavich, Barbara:
History of the Balkans: Twentieth Century
, Cyfrol 2. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983. ED 236 094
- Silber, Laura and Allan Little:
Yugoslavia: Death of a Nation
. Penguin, 1997
- Owen, David:
Balkan Odyssey
Harcourt (Harvest Book), 1997
- Sacco, Joe:
Safe Area Gorazde: The War in Eastern Bosnia 1992-1995
. Fantagraphics Books, 2002
- West, Rebecca
:
Black Lamb and Gray Falcon: A Journey Through Yugoslavia
. Viking, 1941
White T.
Another fool in the Balkans - in the footsteps of Rebecca West
. Cadogan Guides, Llundain , 2006