Clefyd heintus
yw
hepatitis B
. Fe'i hachosir gan y firws hepatitis B (HBV), sy'n effeithio ar yr
afu
. Gall y clefyd achosi heintiau aciwt a chronig. Nid yw llawer o bobl yn dioddef
symptomau
yn ystod penodau cychwynnol y cyflwr. Serch hynny, mae rhai'n datblygu anhwylderau'n gyflym, er enghraifft
chwydu
,
croen melyn
,
blinder
,
wrin
tywyll a phoenau yn yr
abdomen
. Fel arfer mae'r symptomau uchod yn parhau am ychydig wythnosau ac ar y cyfan ni achosir marwolaeth gan yr haint yn ystod ei gyfnodau cychwynnol.
[1]
Gall gymryd rhwng 30 a 180 diwrnod i'r symptomau ddatblygu. Mae 90% o'r rheini sy'n cael eu heintio yn ystod eu cyfnod geni'n datblygu hepatitis B cronig; 10% o ddioddefwyr dros bum mlwydd oed sy'n datblygu'r cyflwr hwnnw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddioddefwyr clefyd cronig yn datblygu symptomau; fodd bynnag, gall arwain yn y pen draw at
ganser ar yr afu
a sirosis.
[2]
Mae'r fath gymhlethdodau'n achosi
marwolaet
h ymysg 15 i 25% o ddioddefwyr clefyd cronig.
Caiff y firws ei drosglwyddo wrth i rywun ddod i gysylltiad a
gwaed
neu hylifau corffol heintus. Mewn ardaloedd lle mae'r afiechyd mwyaf cyffredin, trosglwyddir heintiad hepatitis B yn bennaf yn ystod
genedigaeth
neu drwy ddod i gysylltiad a gwaed heintiedig yn ystod plentyndod. Mewn ardaloedd lle nad yw'r clefyd yn gyffredin, caiff ei drosglwyddo yn fwy aml na pheidio o ganlyniad i ddefnydd cyffuriau mewnwythiennol a
chyfathrach rywiol
. Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae gweithio ym maes gwasanaethau iechyd,
trallwysiadau
gwaed,
dialysis
, byw gyda pherson sydd wedi ei heintio, teithio i wledydd lle mae'r cyfraddau heintio yn uchel a byw mewn sefydliad.
[3]
Arweiniodd
tat?io
ac
aciwbigo
at nifer sylweddol o achosion yn y 1980au; fodd bynnag, nid ydynt bellach yn achosion cyffredin o ganlyniad i welliannau mewn sterileiddiwch.
[4]
Ni ellir lledaenu firws hepatitis B trwy ddal dwylo, rhannu offer bwyta,
cusanu
, cofleidio,
peswch
, tisian, neu
fwydo o'r fro
n. Mae modd
diagnosio'r c
yflwr 30 i 60 diwrnod wedi'r cysylltiad. Gwneir diagnosis fel arfer drwy brofi rhannau o'r firws yn y gwaed ynghyd a gwrthgorffynnau yn erbyn y firws. Mae'n un o bum prif firysau hepatitis: A, B, C, D, ac E.
[5]
Ers 1982 mae'n bosib atal yr haint drwy frechiad.
[6]
Argymhellir brechu baban ar ddiwrnod ei genedigaeth, lle bo hynny'n bosib, gan
Sefydliad Iechyd y Byd
. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posib, mae'n ofynnol brechu dau neu dri dos arall yn hwyrach mewn bywyd unigolyn. Mae'r brechlyn yn gweithio oddeutu 95% o'r amser.
[7]
Yn 2006, yr oedd tua 180 o wledydd yn cynnig y brechlyn fel rhan o raglen genedlaethol. Cyn cynnal trallwysiad gwaed argymhellir cynnal profion ar gyfer hepatitis B, dylid defnyddio
condomau
hefyd i atal yr haint rhag lledaenu o un unigolyn i'r naill. Yn ystod cyfnodau cychwynnol yr haint y mae'r gofal a roddir yn seiliedig ar symptomau'r dioddefwr. Mewn unigolion sy'n datblygu clefyd cronig, gall meddyginiaeth gwrthfirysol megis tenofovir neu interfferon fod yn ddefnyddiol; fodd bynnag, nid yw'r cyffuriau uchod yn rhad. Cynhelir
trawsblaniad
yr afu weithiau ar gyfer sirosis.
Mae tua thraean o boblogaeth y byd wedi cael eu heintio rhywbryd yn ystod eu bywydau, gan gynnwys 343 miliwn o heintiau cronig.
[8]
[9]
Cofrestrwyd 129 miliwn o heintiau newydd yn 2013.
[10]
Mae dros 750,000 o bobl yn marw o hepatitis B yn flynyddol.
[8]
Achosir oddeutu 300,000 o'r rhain gan ganser yr afu.
[11]
Bellach, mae'r clefyd ond yn gyffredin yn Nwyrain Asia ac Affrica Is-Sahara, lle mae rhwng 5 a 10% o oedolion wedi'u heintio'n gronig. Mae cyfraddau marw yn Ewrop a Gogledd America yn llai na 1%. Gelwid y cyflwr yn wreiddiol yn "hepatitis serwm".
[12]
Mae ymchwil yn parhau sy'n anelu at greu bwydydd yn cynnwys y brechlyn HBV.
[13]
- ↑
Raphael Rubin; David S. Strayer (2008).
Rubin's Pathology : clinicopathologic foundations of medicine ; [includes access to online text, cases, images, and audio review questions!]
(arg. 5.). Philadelphia [u.a.]: Wolters Kluwer/Lippincott Williams & Wilkins. t. 638.
ISBN
9780781795166
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Medi 2015.
- ↑
Chang MH (June 2007). "Hepatitis B virus infection".
Semin Fetal Neonatal Med
12
(3): 160?167.
doi
:
10.1016/j.siny.2007.01.013
.
PMID
17336170
.
- ↑
"Hepatitis B FAQs for the Public ? Transmission"
. U.S.
Centers for Disease Control and Prevention
(CDC). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 11 Rhagfyr 2011
. Cyrchwyd
29 Tachwedd
2011
.
- ↑
Thomas HC (2013).
Viral Hepatitis
(arg. 4th). Hoboken: Wiley. t. 83.
ISBN
9781118637302
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Medi 2015.
- ↑
Global hepatitis report 2017
(PDF)
. WHO. 2017.
ISBN
978-92-4-156545-5
.
- ↑
"Natural History of Hepatitis B Virus Infection: an Update for Clinicians"
.
Mayo Clinic Proceedings
82
(8): 967?975. 2007.
doi
:
10.4065/82.8.967
.
PMID
17673066
.
https://archive.org/details/sim_mayo-clinic-proceedings_2007-08_82_8/page/967
.
- ↑
Williams R (2006). "Global challenges in liver disease".
Hepatology
44
(3): 521?526.
doi
:
10.1002/hep.21347
.
PMID
16941687
.
- ↑
8.0
8.1
"Hepatitis B Fact sheet N°204"
.
who.int
. Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Tachwedd 2014
. Cyrchwyd
4 Tachwedd
2014
.
- ↑
Schilsky ML (2013). "Hepatitis B "360"".
Transplantation Proceedings
45
(3): 982?985.
doi
:
10.1016/j.transproceed.2013.02.099
.
PMID
23622604
.
- ↑
Global Burden of Disease Study 2013, Collaborators (22 August 2015).
"Global, regional, and national incidence, prevalence, and years lived with disability for 301 acute and chronic diseases and injuries in 188 countries, 1990-2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013."
.
Lancet
386
(9995): 743?800.
doi
:
10.1016/S0140-6736(15)60692-4
.
PMC
4561509
.
PMID
26063472
.
http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4561509
.
- ↑
GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 Rhagfyr 2014).
"Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990?2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013."
.
Lancet
385
(9963): 117?71.
doi
:
10.1016/S0140-6736(14)61682-2
.
PMC
4340604
.
PMID
25530442
.
http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604
.
- ↑
"Transmission of serum hepatitis. 1970".
Journal of the American Medical Association
276
(10): 841?844. 1996.
doi
:
10.1001/jama.276.10.841
.
PMID
8769597
.
- ↑
Thomas, Bruce (2002).
Production of Therapeutic Proteins in Plants
. t. 4.
ISBN
9781601072542
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Medi 2015
. Cyrchwyd
25 Tachwedd
2014
.