Gweriniaeth Iwerddon
|
Eire
Ireland
|
|
Arwyddair
| Eirinn go Brach (Iwerddon am Byth)
|
---|
Math
| gwladwriaeth sofran, ynys-genedl,
gwlad
|
---|
Enwyd ar ol
| Iwerddon
|
---|
Lb-Irland.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Irlanda.wav, LL-Q33810 (ori)-Psubhashish-??????????.wav
|
Prifddinas
| Dulyn
|
---|
Poblogaeth
| 5,123,536
|
---|
Sefydlwyd
| - 29 Rhagfyr 1937
|
---|
Anthem
| Amhran na bhFiann
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Leo Varadkar
|
---|
Cylchfa amser
| UTC±00:00
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Gwyddeleg
,
Saesneg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| yr Undeb Ewropeaidd
, Ardal Economeg Ewropeaidd
|
---|
Arwynebedd
| 69,797 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| y Deyrnas Unedig
,
Gogledd Iwerddon
|
---|
Cyfesurynnau
| 53°N 8°W
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff gweithredol
| Llywodraeth yr Iwerddon
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Oireachtas
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Arlywydd Iwerddon
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Michael D. Higgins
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Taoiseach
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Leo Varadkar
|
---|
|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $504,183 million, $529,245 million
|
---|
Arian
| Ewro
|
---|
Cyfartaledd plant
| 1.96
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.945
|
---|
|
|
Gweriniaeth ar ynys
Iwerddon
yw
Gweriniaeth Iwerddon
(
Gwyddeleg
:
Poblacht na hEireann
,
Saesneg
:
Republic of Ireland
; yn swyddogol
Eire
neu
Ireland
).
Dulyn
yw
prifddinas
y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn "Uachtaran" neu
Arlywydd
, ond y "
Taoiseach
" ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw "Gweriniaeth Iwerddon" i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (
Eire
,
Ireland
) yw'r enw a ddefnyddir. Cyn cyhoeddi'r Weriniaeth yn gyfasoddiadol, galwyd y wladwriaeth yn
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
.
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw
Carrauntoohil
(
Gwyddeleg
:
Corran Tuathail
), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o
ynysoedd
o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw
Afon Shannon
, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag
aber
sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i
For Iwerydd
ychydig i'r de o ddinas
Limerick
. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd "Gweriniaeth Iwerddon". Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg:
Saorstat Eireann
) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
(
Saesneg
:
Irish Free State
), roedd yr enw Saesneg,
Irish Freestate
, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae
Cyfansoddiad Iwerddon
mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (
Eire
,
Ireland
) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
Deddf Gweriniaeth Iwerddon
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw "Deddf Gweriniaeth Iwerddon" a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon
[
golygu
|
golygu cod
]
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr a'i gilydd. Defyddir yr enw "y Weriniaeth Wyddelig" (Saesneg:
The Irish Republic
) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dail (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n
de jure
(yn ol y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Eire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw "Gweriniaeth Iwerddon" (Saesneg:
The Republic of Ireland
) ar lafar gwlad i gyfeirio at
Eire
/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.
Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.
|
Gweriniaeth Iwerddon
- Ath Cliath ? Dublin (
Dulyn
)*
- Cill Mhantain ? Wicklow
- Loch Garman ? Wexford
- Ceatharlach ? Carlow
- Cill Dara ? Kildare
- An Mhi ? Meath
- Lu ? Louth
- Muineachan ? Monaghan
- An Cabhan ? Cavan
- An Longfort ? Longford
- An Iarmhi ? Westmeath
- Uibh Fhaili ? Offaly
- Laois ? Laois
- Cill Chainnigh ? Kilkenny
- Port Lairge ? Waterford
- Corcaigh ? Cork
- Ciarrai ? Kerry
- Luimneach ? Limerick
- Tiobraid Arann ? Tipperary
- An Clar ? Clare
- Gaillimh ? Galway
- Maigh Eo ? Mayo
- Ros Comain ? Roscommon
- Sligeach ? Sligo
- Liatroim ? Leitrim
- Dun na nGall ? Donegal
|
Gogledd Iwerddon
- Fear Manach ? Fermanagh
- Tir Eoghain ? Tyrone
- Doire ? Derry/Londonderry
- Aontroim ? Antrim
- An Dun ? Down
- Ard Mhacha ? Armagh
|
Rhestr yn nhrefn yr wyddor
[
golygu
|
golygu cod
]
Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Atha Cliath Theas /
County of South Dublin
; (ii) Contae Fine Gall /
County of Fingal
; (iii) Contae Dun Laoghaire?Rath an Duin /
County of Dun Laoghaire-Rathdown
.