Gemau Olympaidd yr Haf 1908
|
Enghraifft o'r canlynol
| Gemau Olympaidd yr Haf
|
---|
Dyddiad
| 1908
|
---|
Dechreuwyd
| 27 Ebrill 1908
|
---|
Daeth i ben
| 31 Hydref 1908
|
---|
Rhagflaenwyd gan
| Gemau Olympaidd yr Haf 1904
, 1906 Intercalated Games
|
---|
Olynwyd gan
| Gemau Olympaidd yr Haf 1912
|
---|
Lleoliad
| White City Stadium,
Llundain
|
---|
Yn cynnwys
| water motorsports at the 1908 Summer Olympics, tennis at the 1908 Summer Olympics, field hockey at the 1908 Summer Olympics, gymnastics at the 1908 Summer Olympics, football at the 1908 Summer Olympics, water polo at the 1908 Summer Olympics, boxing at the 1908 Summer Olympics, rowing at the 1908 Summer Olympics, rackets at the 1908 Summer Olympics,
Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908
, shooting at the 1908 Summer Olympics, fencing at the 1908 Summer Olympics, archery at the 1908 Summer Olympics, rugby union at the 1908 Summer Olympics, lacrosse at the 1908 Summer Olympics, sailing at the 1908 Summer Olympics, diving at the 1908 Summer Olympics, Cycle polo at the 1908 Summer Olympics, tug of war at the 1908 Summer Olympics, polo at the 1908 Summer Olympics, jeu de paume at the 1908 Summer Olympics, swimming at the 1908 Summer Olympics, athletics at the 1908 Summer Olympics, wrestling at the 1908 Summer Olympics
|
---|
|
Gwefan
| https://olympics.com/en/olympic-games/london-1908
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Cynhaliwyd
Gemau Olympaidd 1908
, a adnabyddir yn swyddogol fel
Gemau'r Olympiad IV
, yn
Llundain
yn
1908
. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn
Rhufain
yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed
Gemau Olympaidd Modern
. Ond fe is-raddiwyd
Gemau Olympaidd 1906
ers hynny gan y
Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol
ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd
Baron Pierre de Coubertin
. Bu
Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden
, perchennog
Castell y Waun
yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod.
Roedd yr awdurdodau
Eidalaidd
yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd
Vesuvius
ar y
7fed o Ebrill
1906
, gan ddinistrio dinas
Napoli
ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Napoli, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn
White City
wrth ochr yr
Arddangosfa Ffranco-Brydeinig
, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd.
Berlin
a
Milan
oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.
Cystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Ystyriwyd nofio, plymio a polo d?r fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn rhan o athletau a rhestrwyd dau ffurf o god
pel-droed
cymdeithas a
Rygbi'r Undeb
gyda'i gilydd. Cystadlodd Cymru fel gwlad yn ei hawl ei hun yn y gystadleuaeth
hoci
gyda
Tim hoci cenedlaethol dynion Cymru
yn dod yn drydedd ac ennill Medal Efydd.
Cenhedloedd a Gyfranogodd
[
golygu
|
golygu cod
]
Roedd athletwyr yn cynyrchioli 22
Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd
. Gwnaeth yr
Ariannin
,
Ffindir
,
Twrci
, a
Seland Newydd
eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tim
Awstralasia
.
Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.
- ↑
Australasia included Australia and New Zealand.
- ↑
The
Grand Duchy of Finland
was part of the
Russian Empire
at the time, but was treated as a separate nation.
- ↑
The Netherlands was typically referred to in early Olympic competition as "Holland" though the entire nation of the Netherlands was the entity in question rather than the region of the country formally named Holland; the IOC currently refers to all entries from the nation as from "Netherlands".