Gornest rhwng dau gystadleuydd yw
paffio
. Yn gyffredinol, mae'r cystadleuwyr yn debyg o ran pwysau ac maent yn ymladd yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio'u
dyrnau
. Goruchwylir y chwaraeon dan
ddyfarnwr
a gan amlaf ceir cyfres o ymladdfeydd sy'n para am dair munud. Gelwir yr ymladdfeydd hyn yn "rowndiau". Mae yna dair ffordd o ennill. Ceir buddugoliaeth os yw'r gwrthwynebwr yn cael ei daro i'r llawr a'i fod yn methu codi cyn i'r dyfarnwr gyfri i ddeg (yn Saesneg:
Knockout
neu
KO
). Daw buddugoliaeth hefyd os yw'r gwrthwynebydd wedi'i anafu'n ormodol i fedru parhau a'r ornest ("Knockout Technegol"). Os nad yw'r ornest yn stopio cyn nifer penodol o rowndiau, penderfynir ar enillydd naill ai gan benderfyniad y dyfarnwr neu gardiau sgorio'r beirniaid.