Ymerodraeth y Mongol

Oddi ar Wicipedia
T?f Ymerodraeth y Mongol

Roedd Ymerodraeth y Mongol yn un o'r ymerodraethau mwyaf yn hanes y byd. Deilliodd o uniad y Mongoliaid a'r llwythau Twrcaidd yn yr hyn sydd heddiw yn wlad Mongolia . Cyhoeddwyd Genghis Khan yn rheolwr yr holl Fongoliaid yn 1206 .

Yn y cyfnod yma, roedd Tsieina wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar Hsi-hsia neu Xixia . Erbyn 1214 roedd wedi cyrraedd Beijing , a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd Islamaidd yn y gorllewin. Erbyn 1223 roedd wedi gorchfygu teyrnas Jwarizm .

Erbyn 1279 , roedd Ymerodraeth y Mongol yn ymestyn dros 33000000 km2, 22% o arwynebedd y ddaear, ac yn cynnwys poblogaeth o dros 100 miliwn o bobl. Fodd bynnag, erbyn hynny roedd wedi dechrau ymrannu, gyda'r Llu Aur a Khaniaeth Chagatai i bob pwrpad yn annibynnol ac yn gwrthod derbyn Kublai Khan fel Khagan . Erbyn marwolaeth Kublai Khan, roedd wedi ymrannu'n bedair rhan.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fongolia . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .