Gem
a chwaraeir rhwng dau chwaraewr yw
Pel-law
, sy'n un o gampau
Gemau Olympaidd
. Mae'n eitha tebyg i bel-droed 5-bob-ochor, gyda dwy gol, ond fod y bel yn cael ei daro gyda'r llaw, yn hytrach na'i gicio.
Arferid chwarae gem o'r un enw yn yr
Oesoedd Canol
yng Nghymru, ac mae'n dal i gael ei chwarae - yn ddi-dor ers sawl canrif - mewn ardaloedd fel
Nelson, Caerffili
.
[1]
Dau chwaraewr sy'n chwarae'r Pel-law Cymreig, fodd bynnag, a wal yn hytrach na goliau.
Disgrifiad o bel-law modern
[
golygu
|
golygu cod
]
Ceir dau gyfnod o 30 munud yr un a'r tim sy'n sgorio fwyaf o goliau sy'n curo. Mae'r cwrt yn mesur 40 wrth 20 mettr (131 x 66 tr), gyda gol ym mhob pen. Ceir parth 6-metr o gwmpas pob gol - a dim ond y gol geidwad gaiff fynd i'r parth hwn. Sgorir gol drwy daflu'r bel i mewn i'r gol o du allan y parth, neu wrth "neidio" i mewn i'r parth. Y tu fewn y chwaraeir y gem fel arfer.
Mae'r gem yn cael ei chwarae'n sydyn iawn ac mae nifer y goliau fel arfer rhwng 20 - 35. Caniateir cyffwrdd wrth i'r amddiffynwyr geisio atal yr ymosodwyr rhag sgorio.