Michelangelo
|
---|
|
Ganwyd
| Michelangelo di Lodovico Buonarroti Simoni
6 Mawrth 1475
Caprese Michelangelo
|
---|
Bu farw
| 18 Chwefror 1564
Rhufain
|
---|
Dinasyddiaeth
| Gweriniaeth Fflorens
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol Fflorens
|
---|
Galwedigaeth
| cerflunydd, drafftsmon, arlunydd,
pensaer
,
bardd
,
peiriannydd
, general contractor,
ysgrifennwr
, artist
|
---|
Adnabyddus am
| Dafydd
, Pieta, Y Caethwas ar Farw, Y Farn Olaf, Tondo Doni, Madonna della Scala, Brwydr y Dynfeirch, Ysbryd Buddugoliaeth, Pieta Fflorens, Pieta Rondanini, nenfwd y Cappella Sistina, Y Caethwas Anufudd, Sant Mathew, Capeli'r Medici, Bacchus, Brutus,
Basilica Sant Pedr
, Y Caethweision, Biblioteca Medicea Laurenziana
|
---|
Arddull
| celf Gristnogol, homoerotiaeth
|
---|
Mudiad
| yr Uchel Ddadeni, paentio'r Dadeni
|
---|
Tad
| Lodovico di Leonardo Buonarroti Simoni
|
---|
Mam
| Francesca di Neri del Miniato Siena
|
---|
Partner
| Tommaso dei Cavalieri
|
---|
Perthnasau
| Michelangelo Buonarroti
|
---|
Llinach
| teulu Buonarroti
|
---|
llofnod
|
---|
|
Roedd
Michelangelo di Lodovico Buonarroti
(
6 Mawrth
1475
?
18 Chwefror
1564
), a elwir yn
Michelangelo
, yn
gerflunydd
,
peintiwr
,
pensaer
a
bardd
o gyfnod y
Dadeni
Eidalaidd
. Ynghyd a'i gyfoediwr a'i gyd-ddyn o
Fflorens
,
Leonardo da Vinci
, caiff Michelangelo ei ystyried fel un o "w?r y Dadeni", dynion a all droi eu dwylo at unrhyw faes a'i feistroli'n llwyr.
Fe'i ganwyd yn
Caprese
, ger
Arezzo
yn yr Eidal, yn fab i'r banciwr Ludovico di Leonardo di Buonarotto Simoni a'i wraig Francesca di Neri del Miniato di Siena.
Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y
Pieta
sydd heddiw ym
Masilica Sant Pedr
(
San Pietro
) yn
Rhufain
, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o
Dafydd
, yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunydd cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau ffresgo mwyaf dylanwadol yn hanes
celf
ar nenfwd a wal ddwyreiniol y
Cappella Sistina
(hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaerniaeth yn ei henaint a cynlluniodd
gromen
San Pietro yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.
Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn
Il Divino
, "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ?r crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan
Giorgio Vasari
, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth.
| Pieta
(
Mair
yn galaru dros gorff marw
Crist
), 1499?1500
|
| Duw
yn creu
Adda
, o nenfwd y Cappella Sistina, 1508?1512
|
| Moses
, o fedd
Pab
I?l II, tua 1513?1515
|
|