Gem fideo
yw gem electronig sy'n galluogi defnyddiwr i ryngweithio a dyfais
fideo
, megis sgrin deledu neu
fonitor cyfrifiadur
, i gynhyrchu adborth gweledol er mwyn
difyrrwch
[1]
.
Mae'r teclynnau a defnyddi'r i chware gemau fideo yn cael eu galw'n
platfformau
; enghreifftiau o'r rhain yw
cyfrifiaduron personol
neu gonsolau gem fideo. Mae'r platfformau hyn yn amrywio o gyfrifiaduron prif ffram fawr i ddyfeisiau cyfrifiadurol bach ar gyfer cledr llaw.
Bu gemau fideo arced, lle'r oedd cydrannau'r gem wedi'u lleoli mewn cist fawr, fel arfer yn cael eu gweithredu gan ddarn arian, yn boblogaidd yn y 1980au mewn arcedau fideo a thafarnau. Bellach mae eu poblogrwydd wedi gostwng wrth i gonsolau gem fideo cartref dod yn hygyrch. Ymysg y consolau gem fideo cartref poblogaidd mae
PlayStation 4
,
Xbox One
a
Nintendo Switch
a gemau i'w chware ar gyfrifiaduron a ffonau symudol.
Fel arfer, mae chwaraewyr yn gwylio'r gem ar sgrin fideo neu fonitor teledu neu gyfrifiadur, neu weithiau ar goglau arddangos rhith-realiti. Yn aml mae bydd effeithiau sain i gyd fynd a'r gem, gan gynnwys cerddoriaeth, llinellau gan actorion llais ac effeithiau sain yn dod o uchelseinyddion neu glustffonau.
Mae'n anodd dweud, efo sicrwydd, pa bryd y dyfeisiwyd y gem fideo gyntaf. Bu nifer o'r datblygiadau gellir eu lled disgrifio fel gemau fideo wedi codi fel rhan o esblygiad y cyfrifiadur er mwyn arbrofi
galluoedd cyfrifiaduron
, yn hytrach nag am ddifyrrwch pur. Cynigiodd y mathemategydd a'r peiriannydd Claude Shannon, ym 1950, y gellid creu rhaglen cyfrifiaduron i chwarae
gwyddbwyll
, gan awgrymu'r posibilrwydd o greu cyfrifiadur a all feddwl. Ysgogodd awgrym Shannon ar lawer o ymchwil i greu rhaglenni gwyddbwyll a draffts gan wyddonwyr oedd a mwy o ddiddordeb ym maes
deallusrwydd artiffisial
nag ym maes adloniant.
Mae rhai yn hawlio mae OXO, gem wedi ei selio ar y gem papur lle mae chwaraewr yn rhoi X neu O mewn blwch naw sgwar, yw'r gem fideo gynharaf. Fe'i cynhyrchwyd gan A S Douglas o
Brifysgol Caergrawn
t ym 1952. Ond fe'i cynhyrchwyd fel rhan o thesis academaidd ar sut gall
bod dynol
rhyngweithio a chyfrifiadur, yn hytrach na fel difyrrwch pur o gael hwyl wrth chware'r gem O X O.
Mae'n debyg mae
Pong
, gem
tennis bwrdd
, a gynhyrchwyd gan gwmni Atari ym 1972 oedd y gem fideo "pur" llwyddiannus cyntaf i'w cynhyrchu.
Space Invaders
, gem saethu targedau symudol, a chynhyrchwyd ym 1978, dechreuodd llwyddiant y diwydiant gemau arced.
Gwobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn
[
golygu
|
golygu cod
]
Gwobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn (GDCA) yw prif wobr y diwydiant gemau cyfrifiadurol, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau (
Game Developers Conference (GDC)
). Hwn yw'r cyfarfod mwyaf o'i fath drwy'r byd ar gyfer datblygwyr 'gemau fideo' proffesiynol, ac fei'i chynhelir ym Mawrth yn
San Francisco
fel arfer.
Sefydlwyd y Wobr yn 2001, ac fe'i rhoddir i'r gemau gorau a ymddangosodd y flwyddyn cyn y gynhadledd. Dim ond datblygwyr gemau sy'n cael pleidleisio ac ystyrir y wobr y pwysicaf a'r mwyaf anrhydeddus yn y byd gemau cyfrifiadurol.
Hyd at Ionawr 2018 dim ond 3 cwmni sydd wedi cipio'r wobr mwya nag unwaith:
- ↑
Lowood, Henry E (09/10/ 2017).
"Electronic game"
.
Encyclopædia Britannica
. Cyrchwyd 29/04/2018
.