Roedd
Ymerodraeth y Mongol
yn un o'r ymerodraethau mwyaf yn hanes y byd. Deilliodd o uniad y
Mongoliaid
a'r llwythau Twrcaidd yn yr hyn sydd heddiw yn wlad
Mongolia
. Cyhoeddwyd
Genghis Khan
yn rheolwr yr holl Fongoliaid yn
1206
.
Yn y cyfnod yma, roedd
Tsieina
wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar
Hsi-hsia
neu
Xixia
. Erbyn
1214
roedd wedi cyrraedd
Beijing
, a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd
Islamaidd
yn y gorllewin. Erbyn
1223
roedd wedi gorchfygu teyrnas
Jwarizm
.
Erbyn
1279
, roedd Ymerodraeth y Mongol yn ymestyn dros 33000000 km2, 22% o arwynebedd y ddaear, ac yn cynnwys poblogaeth o dros 100 miliwn o bobl. Fodd bynnag, erbyn hynny roedd wedi dechrau ymrannu, gyda'r
Llu Aur
a
Khaniaeth Chagatai
i bob pwrpad yn annibynnol ac yn gwrthod derbyn
Kublai Khan
fel
Khagan
. Erbyn marwolaeth Kublai Khan, roedd wedi ymrannu'n bedair rhan.