Wganda
|
Arwyddair
| For God and My Country
|
---|
Math
| gwladwriaeth sofran,
gweriniaeth
,
gwlad dirgaeedig
,
gwlad
|
---|
Lb-Uganda.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Uganda.wav, LL-Q33810 (ori)-Psubhashish-???????.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-???????.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-??????.wav, LL-Q9027 (swe)-Moonhouse-Uganda.wav
|
Prifddinas
| Kampala
|
---|
Poblogaeth
| 47,123,531
|
---|
Sefydlwyd
| - 1962
|
---|
Anthem
| Oh Uganda, Land of Beauty
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Robinah Nabbanja
|
---|
Cylchfa amser
| UTC+03:00, Africa/Kampala
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Saesneg
,
Swahili
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Dwyrain Affrica
|
---|
Gwlad
|
Wganda
|
---|
Arwynebedd
| 241,038 ±1 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| Cenia
,
De Swdan
,
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
,
Rwanda
,
Tansania
,
Swdan
,
Llyn Victoria
|
---|
Cyfesurynnau
| 1.3°N 32.4°E
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff gweithredol
| Government of Uganda
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Parliament of Uganda
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Arlywydd Wganda
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Yoweri Museveni
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Prif Weinidog Wganda
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Robinah Nabbanja
|
---|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $40,510 million, $45,559 million
|
---|
Arian
| Ugandan shilling
|
---|
Canran y diwaith
| 4 ±1 canran
|
---|
Cyfartaledd plant
| 5.775
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.525
|
---|
|
|
Gwlad yn nwyrain
Affrica
yw
Gweriniaeth Wganda
, neu
Wganda
yn syml (hefyd
Iwganda
). Mae
De Swdan
i'r gogledd ohoni,
Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo
(Kinshasa) i'r gorllewin,
Rwanda
a
Tansania
i'r de, a
Cenia
i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad o'r fath ar ol
Ethiopia
. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o
Lyn Victoria
. Mae hefyd ym masn a tharddle'r
Afon Nil
ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan mwyaf yn gyhydeddol.
Mae hi'n wlad annibynnol ers
1962
pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw
Kampala
.
Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ol, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.
Bu
Ymerodraeth Prydain
yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (
protectorate
) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.
Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.
[1]
Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae
Lwganda
, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Arlywydd y wlad (2020) yw
Yoweri Museveni
, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.