Swdan
|
Gweriniaeth Swdan
??????? ??????? (
Arabeg
)
Jumh?riyyat as-S?d?n
|
|
Arwyddair
| ????? ???
|
---|
Math
| gweriniaeth
, gwladwriaeth sofran,
gwlad
, gwlad a oedd unwaith yn enfawr
|
---|
|
Prifddinas
| Khartoum
|
---|
Poblogaeth
| 40,533,330
|
---|
Sefydlwyd
| - 1 Ionawr 1956
|
---|
Anthem
| Nahnu Jund Allah Jund Al-watan
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Abdalla Hamdok
|
---|
Cylchfa amser
| UTC+2
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Arabeg
,
Saesneg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Gogledd Affrica
|
---|
Gwlad
|
Swdan
|
---|
Arwynebedd
| 1,886,068 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| De Swdan
,
Tsiad
,
Gweriniaeth Canolbarth Affrica
,
Ethiopia
,
Eritrea
,
Yr Aifft
,
Libia
,
Cenia
,
Wganda
,
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
, Bir Tawil,
Y Dwyrain Canol
|
---|
Cyfesurynnau
| 15°N 32°E
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Corff Deddfu Genedlaethol
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Cadeirydd y Cyngor Milwrol Trosiannol
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Abdel Fattah al-Burhan
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Prif Weinidog Swdan
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Abdalla Hamdok
|
---|
|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $34,230 million, $51,662 million
|
---|
Arian
| punt Swdan
|
---|
Canran y diwaith
| 15 canran
|
---|
Cyfartaledd plant
| 4.353
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.508
|
---|
|
|
- Am y rhanbarth, gweler
Sudan (rhanbarth)
.
Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain
Affrica
yw
Gweriniaeth Swdan
neu
Swdan
(hefyd
Sudan
neu
Siwdan
). Mae'n ffinio a'r
Aifft
i'r gogledd,
Eritrea
ac
Ethiopia
i'r dwyrain,
De Swdan
i'r de,
Gweriniaeth Canolbarth Affrica
a
Tsiad
i'r gorllewin a
Libia
i'r gogledd-orllewin. Mae'r
Mor Coch
yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae
Afon Nil
yn llifo trwy'r wlad. Yn y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf, roedd poblogaeth Swdan yn 40,533,330
(2017)
[1]
.
Hyd at ddechrau'r
5ed ganrif
, bron iawn, cefnogai'r
Ymerodraeth Rufeinig
dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas
Meroe
fel amddiffynfa rhwng
yr Aifft
a thylwyth y
Blemmyae
. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroe i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o
Abyssinia
.
Erbyn y
6ed ganrif
, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle
Khartoum
heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora,
ymerodres Bysantiwm
, genhadwyr i hybu'r
Efengyl
Gristnogol
yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid
eglwys Goptig
yr Aifft.
Wedi sawl ymgais aflwyddiannus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (
AlBaqt
) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd
Islam
trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym
1315
, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau gr?p
Arabeg
eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohoni.
Yn y
17eg ganrif
, ymddangosodd pobl y
Funj
yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu
As-Saltana az-Zarqa
.
Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaeth
Muhammad Ali
,
rhaglaw
yr
Ymerodraeth Otomanaidd
yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd
Ismail Pasha
, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
Ysgogwyd
Muhammad ibn Abdalla
i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burhau Islam yn Swdan. Ym
1885
, lladdwyd y Cadfridog prydeinig
Charles George Gordon
, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol
Mahdaidd
newydd.
Nodyn:Rheoli Awdurdod