한국   대만   중국   일본 
Saeson - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Saeson

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sais )
Saeson
Cyfanswm poblogaeth
90 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
DU : 45 miliwn
Yr Unol Daleithiau : 28 miliwn
Canada : 6 miliwn
Awstralia : 6 miliwn
Ieithoedd
Saesneg
Crefydd
Cristnogaeth , arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol
Americaniaid , Canadiaid , Awstraliaid , a phobloedd eraill o dras Seisnig. Hefyd: Ffrisiaid , Iseldirwyr , Almaenwyr , Llychlynwyr

Y Saeson yw'r genedl a drig yn Lloegr fel cartrefle cynhenid iddi. Mae'r gair Gymraeg "Saeson" yn ffurf ar y gair Saxon. Un o sawl llwyth o bobl Ellmynig a ddechreuodd ymdeithio i Ynys Brydain yn y 5ed ganrif , ac yn ddilynol oresgyn y parthau o'r Ynys a adwaenid wedyn fel Lloegr, neu England, yn eu hiaith Deutonig eu hunain, oedd y Saxon neu'r Saeson. Gyda lwythau Teutonig eraill gelwir y bobl hyn yn Anglo-Saxon ganddyn nhw eu hunain a'u haneswyr. Fe'i arferir fel term cyfystyr a 'Seisnig' neu 'Saesneg' am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir hefyd yr elfen arall yn y term hwnnw, sef Anglo i gyfeirio at England a phethau'r Saeson. Mae'n cael ei ymestyn i gyfeirio at Brydain gyfan, h.y. Anglo- French wrth gyfeirio at ymwneud Prydain a Ffrainc a'i gilydd. Tardd yr elfen Eng - lish o Angle .

Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' gan bobl Gymraeg gyffredin am y nifer mawr o bobl Saesneg eu hiaith yn y wlad, neu gyd genedl heb ddim Cymraeg ganddyn bellach, yn dilyn y dinistriad helaeth ar y Gymraeg dros yr 20g, yn hytrach nag am Saeson Lloegr yn unig ac yn benodol. Ceir enghraifft gynnar o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "un yn medru Saesneg" yn enw'r bardd Elidir Sais yng nghyfnod Llywelyn Fawr .

Chwiliwch am Saeson
yn Wiciadur .
Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .