Dalen o bapur.
Deunydd a gynhyrchir ar gyfer ysgrifennu arno yw
papur
. Fe'i cynhyrchir o ffeibrau gwahanol blanhigion, a feddalir, eu gwynnu ac yna eu sychu i gynhyrchu dalennau tenau.
Defnyddid
papyrws
yn yr
Hen Aifft
, wedi ei wneud o'r planhigyn
Cyperus papyrus
. Yn Ewrop yn yr Oesau Canol, defnyddid
memrwn
, o groen anifeiliaid ar gyfer ysgrifennu. Yn
Tsieina
y dyfeisiwyd papur, yn draddodiadol gan yr
eunuch
Cai Lun
, cynghorydd yr ymerawdwr
He
yn yr 2g. Gwneid y papur o weddillion
sidan
a choesau
reis
a phlanhigion eraill. Cyrhaeddodd y dechneg o wneud papur i
Japan
yn
610
a Chanolbarth Asia tua
750
. Roedd wedi cyrraedd
Sbaen
a
Sicilia
erbyn y
10g
.
Y deunydd mwyaf cyffredin ar gyfer gwneud papur heddiw yw coed, ond mae tua 70% o bapur y byd yn cael ei wneud o hen bapur wedi ei ailgylchu. Y gwledydd sy'n cynhyrchu fwyaf yw'r
Unol Daleithiau
,
Gweriniaeth Pobl Tsieina
a
Japan
.
Maintioli tudalennau o bapur.
Gellir cael papur mewn nifer fawr o wahanol fesuriadau. Y gyfres fwyaf cyffredin o fesuriadau yw'r gyfres A, lle mae A4 yn hanner maint A3, ac A5 yn hanner maint A4.
Defnyddir papur i wneud
cardbord
sydd yn ddyfais mwy gwydn ac yn cael ei ddefnydio i greu blychau a roliau o storio, siapio a chynnal nwyddau a gweithiau.