Cynhaliwyd
Gemau Olympaidd yr Haf 1952
(
Ffineg
:
Kesaolympialaiset 1952
;
Swedeg
:
Olympiska sommarspelen 1952
), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel
Gemau'r XV Olympiad
rhwng 14 Gorffennaf a 3 Awst yn
Helsinki
,
Y Ffindir
. Pan ymosododd Siapan ar
Tsieina
ym mis Gorffennaf
1937
cafodd y
Gemau Olympaidd yr Haf 1940
eu symud i
Helsinki
,
Y Ffindir
ond yna fe'u canslwyd yn gyfan gwbwl wedi cychwyn yr
Ail Ryfel Byd
[1]
.
Helsinki ydi'r ddinas mwyaf gogleddol i gynnal
Gemau Olympaidd yr Haf
.
Llwyddodd Helsinki i ennill yr hawl i gynnal y Gemau mewn pleidlais yng nghyfarfod y
IOC
ym
Stockholm
,
Sweden
ar 21 Mehefin 1947.
Los Angeles
a
Minneapolis
oedd yn ail yn y bleidlais gydag
Amsterdam
,
Athen
,
Chicago
,
Detroit
,
Lausanne
Philadelphia
a
Stockholm
hefyd yn gwneud cais.
[2]
Cafwyd athlewtwyr o 13 o wledydd am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd 1952 gydag
Antilles yr Iseldiroedd
,
Gana
,
Bahamas
,
Fietnam
,
Gwatemala
Wlad Tai
,
Hong Cong
,
Indonesia
,
Israel
,
Nigeria
Saarland
Tseina
a'r
Undeb Sofietaidd
yn cystadlu am y tro cyntaf.
Dychwelodd
Yr Almaen
a
Siapan
i'r Gemau ar ol peidio cael gwahoddiad ym
1948
oherwydd eu rol yn yr
Ail Ryfel Byd
. Roedd disgwyl i
Orllewin yr Almaen
a
Dwyrain yr Almaen
gystadlu fel un tim ond ni chafwyd yr un athletwr o'r Dwyrain
[1]
. Dyma'r unig
Gemau Olympaidd
i Almaenwr fethu ag ennill medal aur
[3]
.
Yn dilyn
Rhyfel Cartref Tseina
, tynnodd
Gweriniaeth Tsieina
(Taiwan) yn ol rhag cystadlu yn y Gemau mewn protest i benderfyniad yr IOC i ganiatau athletwyr o
Weriniaeth Pobl Tsieina
i gystadlu
[4]
.
Casglodd Syr
Harry Llewellyn
, Cymro o
Aberdar
, fedal aur fel aelod o dim
Neidio ceffylau
Peydain Fawr. Roedd hefyd wedi ennill medal efydd fel aelod o'r tim Neidio ceffylau ym
1948
.
[5]
.
Llwyddodd
John Disley
a anewd yng
Nghorris
i ennill medal efydd yn y
Ras ffos a pherth 3000 metr
[6]
gyda
Graham Dadds
o
Abertawe
a
John Taylor
o Glwb Hoci
Y Rhyl
yn ennill medal efydd fel rhan o dim
Hoci
Prydain Fawr
[7]
.