Casacheg

Oddi ar Wicipedia
Casacheg
Enghraifft o'r canlynol iaith, iaith fyw  Edit this on Wikidata
Math Kipchak?Nogai  Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Tafodiaith Gasach y Gorllewin, Tafodiaith Gasach y Gogledd-Orllewin, Tafodiaith Gasach y De  Edit this on Wikidata
Enw brodorol ?аза? т?л?  Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr  
  • 12,900,000 (2019), [1]
  •  
  • 13,161,980 (2009) [2]
  • cod ISO 639-1 kk  Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2 kaz  Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3 kaz  Edit this on Wikidata
    Gwladwriaeth Casachstan , Rwsia , Gweriniaeth Pobl Tsieina , Mongolia , Wsbecistan , Tyrcmenistan , yr Almaen , Cirgistan , Twrci , Iran , Aserbaijan , Wcrain   Edit this on Wikidata
    System ysgrifennu Yr wyddor Gyrilig , Yr wyddor Arabeg , yr wyddor Ladin , Kazakh Braille  Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddio Ministry of Culture and Information of Kazakhstan, Ministry of Culture and Sports of Kazakhstan  Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Fideo o ddyn ifanc yn siarad Casacheg.

    Iaith Dyrcaidd yw Casacheg a siaredir yn frodorol gan y Casachiaid , sydd yn byw yng Nghasachstan a mewn lleiafrifoedd yn rhanbarth Xinjiang , Tsieina , ac yn Wsbecistan , Mongolia , ac Affganistan . Mae Casacheg yn perthyn i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Girgiseg , Karakalpak, a Nogay.

    Ysgrifennwyd yr iaith Gasacheg drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg hyd at yr 20g. Yn sgil sefydlu'r Undeb Sofietaidd , defnyddiwyd llythrennau Lladin yn y cyfnod 1929?40 cyn newid i'r wyddor Gyrilig . Yn 2017 datganodd llywodraeth Casachstan y byddai'r iaith yn dychwelyd at lythrennau Lladin a chyda diwygiadau sillafu. [3]

    Mae'r dafodiaith Kipchak-Wsbec yn debyg iawn i Gasacheg, a fe'i ystyrir yn aml yn dafodiaith Gasacheg er bod ei siaradwyr yn defnyddio'r iaith lenyddol Wsbeceg . [4]

    Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, ISSN   1946-9675 , OCLC   43349556 , Wikidata   Q14790 , https://www.ethnologue.com/ , adalwyd 23 Ebrill 2022
    2. https://www.ethnologue.com/language/kaz . Ethnolog .
    3. (Saesneg) " Kazakhstan to change from Cyrillic to Latin alphabet ", DW (27 Hydref 2017). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2020.
    4. (Saesneg)   Kazakh language . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 21 Tachwedd 2020.