Arnold Schoenberg
|
---|
Schoenberg yn Los Angeles, tua 1948
|
Ganwyd
| Arnold Franz Walter Schonberg
13 Medi 1874
Fienna
|
---|
Bu farw
| 13 Gorffennaf 1951
Los Angeles
|
---|
Dinasyddiaeth
| Awstria
,
Unol Daleithiau America
,
Awstria-Hwngari
,
yr Almaen
|
---|
Galwedigaeth
| cyfansoddwr clasurol, arlunydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth,
ysgrifennwr
, arweinydd,
cyfansoddwr
, athro cerdd,
arlunydd
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus am
| Erwartung, Verklarte Nacht, A Survivor from Warsaw
|
---|
Arddull
| cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif,
opera
, digyweiredd, cyfresiaeth,
cerddoriaeth glasurol
,
Mynegiadaeth
, techneg deuddeg-nodyn
|
---|
Tad
| Samuel Schonberg
|
---|
Priod
| Gertrud Schoenberg, Mathilde Zemlinsky
|
---|
Plant
| Gertrud Schonberg, Georg Schonberg, Nuria Nono-Schonberg, Ronny Schonberg, Larry Schonberg
|
---|
Gwefan
| https://www.schoenberg.org
|
---|
Cyfansoddwr o Awstria oedd
Arnold Schoenberg
neu
Schonberg
[1]
(
13 Medi
1874
?
13 Gorffennaf
1951
). Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y
Blaid Natsiaidd
, a labelodd ei weithiau fel
Entartete Musik
("
cerddoriaeth ddirywiedig
") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r
Unol Daleithiau
yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.
Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr
Rhamantaidd
Brahms
a
Wagner
? arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig a'r mudiad
Mynegiadaeth
ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o
gromatyddiaeth
, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn
ddigywair
; hynny yw, yn perthyn i ddim
cywair
adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y
dechneg deuddeg-nodyn
, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y
raddfa gromatig
. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.
Yr oedd Schoenberg yn athro cyfansoddi dylanwadol; roedd ei fyfyrwyr yn Ewrop yn cynnwys
Alban Berg
,
Anton Webern
,
Hanns Eisler
,
Egon Wellesz
,
Nikos Skalkottas
a
Robert Gerhard
, ac yn ddiweddarach yn America,
John Cage
,
Lou Harrison
,
Earl Kim
,
Leon Kirchner
a
Dika Newlin
.
Ganwyd Arnold Schoenberg i deulu Iddewig yn
Fienna
,
Awstria
, yn 1874. Roedd ei dad Samuel yn siopwr esgidiau a ddaeth o
Hwngari
; roedd ei fam Pauline yn athrawes piano a ddaeth o
Brag
. Roedd Arnold yn hunanddysgedig i raddau helaeth, er iddo gael ychydig o wersi gan y cyfansoddwr
Alexander Zemlinsky
, a fyddai'n dod yn frawd-yng-nghyfraith iddo yn ddiweddarach.
Yn 1898 cafodd Schoenberg ei droedigaeth at Gristnogaeth yn
yr Eglwys Lutheraidd
. Dychwelodd at Iddewiaeth yn 1933, oherwydd sylweddolodd fod ei dreftadaeth hiliol a chrefyddol yn anochel, ac i gymryd safbwynt diamwys yn erbyn Natsiaeth.
Priododd a'i wraig gyntaf, Mathilde (1877?1923), chwaer Zemlinsky, yn 1901. Cawsant ddau o blant, Gertrud (1902?1947) a Georg (1906?1974). Cafodd Mathilde garwriaeth a'r arlunydd
Richard Gerstl
yn 1908; arweiniodd hyn at argyfwng ym mywyd personol Arnold a chyflymodd ddatblygiad chwyldroadol ei arddull gerddorol.
Ym 1915 cafodd ei ddrafftio i'r fyddin a'i hyfforddi fel swyddog wrth gefn, ac yn 1917 fe'i galwyd i wasanaeth gweithredol fel aelod o fand milwrol.
Bu farw ei wraig Mathilde yn 1923. Y flwyddyn nesaf priododd Schoenberg a Gertrud Kolisch (1898?1967), chwaer ei ddisgybl, y feiolinydd Rudolf Kolisch. Bu iddynt dri o blant: Nuria Dorothea (g. 1932), Ronald Rudolf (g. 1937), a Lawrence Adam (g. 1941).
Yn 1926 daeth Schoenberg yn gyfarwyddwr dosbarth meistr mewn cyfansoddi yn
Academi Celfyddydau Prwsia
(
Preußische Akademie der Kunste
) ym
Merlin
. Parhaodd yn ei swydd nes i’r Natsiaid ddod i rym ym 1933. Ffoes gyda'i deulu i'r Unol Daleithiau, ar y dechrau i Boston, ac wedyn i
Los Angeles
lle bu'n dysgu ym
Mhrifysgol De Califfornia
ac yn ddiweddarach ym
Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles
.
Bu farw yn Los Angeles yn 1951.
- Op.1:
Zwei Gesange
(1898)
- Op.2:
Vier Lieder
(1899)
- Op.3:
Sechs Lieder
(1899/1903)
- Op.4:
Verklarte Nacht
(1899)
- Op.5:
Pelleas und Melisande
(1902/3)
- Op.6:
Acht Lieder
(1903/5)
- Op.7: Pedwarawd Llinynnol rhif 1, yn D lleiaf (1904/5)
- Op.8:
Sechs Lieder
(1903/5)
- Op.9:
Kammersymphonie
rhif 1, yn E mwyaf (1906)
- Op.10: Pedwarawd Llinynnol rhif 2, yn F? lleiaf (1907/8)
- Op.11:
Drei Klavierstucke
(1909)
- Op.12:
Zwei Balladen
(1906)
- Op.13:
Friede auf Erden
(1907)
- Op.14:
Zwei Lieder
(1907/8)
- Op.15:
15 Gedichte aus Das Buch der hangenden Garten
(1908/9)
- Op.16:
Funf Orchesterstucke
(1909)
- Op.17:
Erwartung
(1909)
- Op.18:
Die gluckliche Hand
(1910/13)
- Op.19:
Sechs kleine Klavierstucke
(1911)
- Op.20:
Herzgewachse
(1911)
- Op.21:
Pierrot Lunaire
(1912)
- Op.22:
Vier Lieder fur Gesang und Orchester
(1913/16)
- Op.23:
Funf Stucke
(1920/23)
- Op.24:
Serenade
(1920/23)
- Op.25:
Suite fur Klavier
(1921/23)
- Op.26:
Quintett
(1924)
- Op.27:
Vier Stucke
(1925)
- Op.28:
Drei Satiren
(1925/26)
- Op.29: Suite (1924/26)
- Op.30: Pedwarawd Llinynnol rhif 3 (1927)
- Op.31:
Variationen fur Orchester
(1926/28)
- Op.32:
Von heute auf morgen
(1928)
- Op.33:
Zwei Klavierstucke
(1928/31)
- Op.34:
Begleitmusik zu einer Lichtspielszene
(1930)
- Op.35:
Sechs Stucke
(1930)
- Op.36:
Concerto for Violin and Orchestra
(1934/36)
- Op.37: Pedwarawd Llinynnol rhif 4 (1936)
- Op.38:
Kammersymphonie
rhif 2, yn E lleiaf (1906/39)
- Op.39:
Kol nidre
(1938)
- Op.40:
Variations on a Recitative
(1941)
- Op.41:
Ode to Napoleon Buonaparte
(1942)
- Op.42:
Concerto for Piano and Orchestra
(1942)
- Op.43a:
Theme and Variations for Full Band
(1943)
- Op.43b:
Theme and Variations for Orchestra
(1943)
- Op.44: Preliwd i
Genesis Suite
(1945)
- Op.45: Triawd Llinynnol (1946)
- Op.46:
A Survivor from Warsaw
(1947)
- Op.47:
Phantasy for Violin with Piano Accompaniment
(1949)
- Op.48:
Drei Lieder
(1933)
- Op.49:
Es gingen zwei Gespielen gut …
(1948)
- Op.50a:
Dreimal tausend Jahre
(1949)
- Op.50b:
Psalm 130: De profundis
(1950)
- Op.50c:
Moderner Psalm
(anorffenedig)
Gweithiau pwysig heb rifau opws
[
golygu
|
golygu cod
]
- Gurre-Lieder
(1901/11)
- Die Jakobsleiter
(1915?26, anorffenedig)
- Moses und Aron
(1930?32, anorffenedig)
- Harmonielehre
(Fienna, 1911; 3ydd argraff 1921)
- Models for Beginners in Composition
(Efrog Newydd, 1943)
- Structural Functions of Harmony
(Efrog Newydd, 1948)
- Style and Idea
(Efrog Newydd, 1950)
- Fundamentals of Musical Composition
, gol. Gerald Strang (Efrog Newydd, 1967)
- ↑
"Schonberg" oedd sillafiad gwreiddiol ei enw, ond "Schoenberg" oedd y ffurf a fabwysiadodd ei hun ar ol iddo adael Ewrop.
- Hans Heinz Stuckenschmidt,
Arnold Schonberg ? Leben, Umwelt, Werk
(Zurich, 1974)
- Charles Rosen,
Arnold Schoenberg
(Efrog Newydd, 1975)
- Malcolm MacDonald,
Schoenberg
(Rhydychen, 2008)