Defnyddir
ol-ddodiad rhyngrwyd
i ddynodi
gwlad
, tiriogaeth, maes neu ddosbarth
gwefannau
ar y
We Fyd-eang
. Fel rheol maent yn dalfyriad o enw gwlad neu swyddogaeth/maes, e.e.
.com
am gwmniau a mentrau, .af am
Affganistan
. Mae parthau dau-lythyren ar gyfer gwledydd sofran wedi eu seilio ar restr
ISO 3166-1
(alffa-2). Mae gan y
Deyrnas Unedig
yr ol-ddodiad .uk (yn dechnegol .gb oedd y parth cywir ond ni ddefnyddiwyd hwn).
Yn 2012 agorodd ICANN broses ar gyfer cynnig parthau lefel uchaf newydd, a derbyniwyd dros 2,000 o geisiadau. O ganlyniad i'r broses yma creuwyd dau barth i Gymru - .cymru a .wales, sydd wedi ei reoli gan gwmni Nominet. Enillodd yr Alban eu cais i greu parth .scot. Lansiwyd y parthau newydd yma yn 2015.
.om
Oman
.org Sefydliadau di-elw, e.e. elusennau, yn wreiddiol; agored i bawb mewn effaith