Sefydliad rhyngwladol yn cynnwys 53 gwlad yn Affrica yw'r Undeb Affricanaidd ( Ffrangeg : Union africaine , a dalfyrir i UA ; Saesneg : African Union a dalfyrir i AU ). Sefydlwyd yr Undeb Affricanaidd ar 9 Gorffennaf 2002 , fel olynydd i Gymuned Economaidd Affrica a'r Sefydliad Undod Affricanaidd . Mae ei bencadlys yn Addis Ababa , Ethiopia .
Nod yr Undeb Affricanaidd yw cydlynu cyfandir Affrica yn wleidyddol ac yn economaidd, i hyrwyddo polisiau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb i Affrica; i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd ac i hyrwyddo democratiaeth , llywodraeth dda a hawliau dynol .