Transylfania

Oddi ar Wicipedia
Transylfania
Math ardal hanesyddol  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Rwmania   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Rwmania  Rwmania
Arwynebedd 100,293 km²  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 46.7667°N 23.5833°E  Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth hanesyddol sydd heddiw wedi'i lleoli yng nghanolbarth Rwmania yw  Transylfania . Gyda  mynyddoedd y Carpatiau  yn ffiniau naturiol iddi i'r dwyrain ac i'r de. roedd Transylfania hanesyddol yn ymestyn i'r gorllewin hyd at Fynyddoedd Apuseni. Mae'r term hefyd yn cynnwys rhanbarthau hanesyddol Cri?ana a Maramure?, ac, yn achlysurol, y rhan Rwmanaidd o Banat.

Mae rhanbarth Transylfania yn cael ei adnabod am harddwch y tirwedd  Carpataidd  a'i chyfoeth o hanes. Mae hefyd yn cynnwys dinasoedd Cluj-Napoca, Bra?of, Sibiu, Targu Mure? a Bistri?a.

Mae'r Gorllewin  yn aml yn cysylltu Transylfania gyda  fampiriaid , oherwydd dylanwad y nofel Dracula gan  Bram Stoker  a'r nifer o addasiadau ffilm. [1] [2] [3]

Mewn  Rwmaneg , mae'r rhanbarth yn cael ei hadnabod fel  Ardeal ( [ar?de?al] ) neu  Transilvania ( [transil?vani.a] ); fel  Erdely ( [??rdeːj] ) mewn Hwngareg ; fel Siebenburgen ( [?ziːbn??b???n?]  ( About this sound  listen ) ) mewn Almaeneg; a  Transilvanya ( [t?ansil?vanja] ) mewn Tyrceg , er mai  Erdel  neu  Erdelistan oedd yr enw hanesyddol arni.

Daw'r cyfeiriad cynharaf at Transylfania sy'n hysbys heddiw o lawysgrif Lladin canoloesol (1075). Mae'n cyfeirio at yr ardal fel ultra silvam, sy'n golygu 'y tu hwnt i'r goedwig'. Mae Transylfania yn golygu 'ar yr ochr draw i'r coed'. Mae haneswyr Hwngaraidd yn honni bod y ffurf Lladin canoloesol Ultrasylvania, Transsylvania yn ddiweddarach, yn gyfieithiad uniongyrchol o'r ffurf Hwngareg Erd?-elve . [4]  Dyna hefyd oedd yr enw amgen mewn Almaeneg  uberwald (13g?14g) ac  Wcreineg  Зал?сся ( Zalissia ).

Mae'r enw Almaeneg  Siebenburgen  yn golygu "saith castell", ar ol y saith dinas y Sacsoniaid Transylfanaidd yn y rhanbarth. Dyma darddiad enw'r rhanbarth mewn nifer o ieithoedd eraill, fel yr enw  Croateg   Sedmogradska , yr  Bwlgareg  Седмиградско ( Sedmigradsko ), yr enw  Pwyleg   Siedmiogrod  a'r enw Wcreineg Семигород ( Semyhorod ).

Mynyddoedd Apuseni ger Arie?eni, Alba

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Transylvania Society of Dracula Information" . Afn.org. 1995-05-29 . Cyrchwyd 2012-07-30 .
  2. "Travel Advisory; Lure of Dracula In Transylvania" . The New York Times . 1993-08-22.
  3. "Romania Transylvania" . Icromania.com. 2007-04-15 . Cyrchwyd 2012-07-30 .
  4. Engel, Pal (2001). Realm of St. Stephen: History of Medieval Hungary, 895?1526 (International Library of Historical Studies) (Llundain: I.B. Taurus), t.24