Rhythm a bl?s

Oddi ar Wicipedia
Clawr yr albwm "Dangerously in Love" gan Beyonce .
  Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau a phroblemau ieithyddol .

Math o gerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd boblogaidd a ddechreuwyd yn y 1940au [1] yw rhythm a bl?s ( Saesneg : rhythm and blues ), sy'n cael ei fyrhau i R&B fel arfer.

Mae R&B mor boblogaidd heddiw nac yr oedd pan ddechreuodd hi yn y 1940au cynnar. Mae'n yn cynnwys jump blues , doo-wop , soul , y twist , Motown , disco , funk , rap a hip-hop . Gan fod R&B wedi newid llawer dros y blynyddoedd, gellir cyfeirio at yr arddull cynnar fel "rhythm a bl?s traddodiadol" a'r diweddar fel "rhythm a bl?s cyfoesol". Fe ddechreuodd hi yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan yr oedd mudiad llawer o bobl dduon o dde'r Unol Daleithiau i weithio yn y dinasoedd mawr.

Fe ddefnyddiwyd yr ymadrodd "Rhythm and Blues" yn gyntaf ym 1949 gan Jerry Wexler yng nghylchgrawn y "Billboard" (ac "Atlantic Records" wedi hynny). Fel mae'r ymadrodd yn awgrymu, mae rhythm a bl?s yn ddisgynnydd o'r bl?s . Mae'r gerddoriaeth yn debyg iawn i'r bl?s ond mae ganddi rythm cryf a chaled. Mae gan y rhan fwyaf o ganeuon R&B bedwar curiad i'r bar gyda'r acen ar yr ail a'r bedwerydd curiad.

R&B cynnar [ golygu | golygu cod ]

Fe recordiodd Louis Jordan "G. I. Jive" ym 1944 , "Caldonia" ym 1945 a "Choo Choo Ch'Boogie" ym 1946 , mewn arddull a elwir jump blues .

Y 1950au [ golygu | golygu cod ]

Chuck Berry , "brenin R&B"

Ym 1949 , fe recordiodd Fats Domino "The Fat Man" ac ym 1956 fe recordiodd fersiwn o'r gan "Blueberry Hill" . Fe recordiodd Chuck Berry "Maybellene" ym 1955 a "Roll Over Beethoven" ym 1956 . Gelwir Chuck Berry yn frenin R&B.

Un arall oedd Little Richard a recordiodd "Tutti Frutti" yn 1955 , "Long Tall Sally" a "Good Golly Miss Molly" yn 1958 .

Yn y 1950au fe ddatblygodd R&B i roc a rol pan osododd gerddorion gwynion fel Bill Haley ac Elvis Presley alawon gwlad i rythmau R&B. Gelwir R&B yn "roc a rol ddu" weithiau ac mae cerddorion fel Fats Domino , Chuck Berry a Little Richard ymhlith arloeswyr roc a rol.

Soul [ golygu | golygu cod ]

Ystyr soul yw "enaid". Dywedir mai'r canwr a phianydd Ray Charles a ddyfeisiodd soul . Dechreuodd e recordio yn 1951 .

Un arall i ddechrau'r un adeg oedd James Brown a ddatblygodd funk . Mae funk yn debyg i soul ond bod yr acen ar guriad cyntaf y bar a bod ganddo rythm wedi ei drawsacennu.

Y 1960au [ golygu | golygu cod ]

Y Twist [ golygu | golygu cod ]

Yn 1959 fe recordiodd Hank Ballard and the Midnighters "Teardrops on Your Letter" . Ar gefn y record roedd yna gan o'r enw "The Twist" . Yn 1960 fe recordiodd Chubby Checker fersiwn ei hunan o "The Twist" ac fe ddyfeisiodd ddawns fach i fynd gyda'r gan. Daeth y ddawns yn boblogaidd dros ben o gwmpas y byd-eang. Y flwyddyn ganlynnol fe ysgrifennodd a recordiodd Chubby Checker y gan "Let's Twist Again" .

Motown [ golygu | golygu cod ]

Yn 1959 fe sefydlodd Berry Gordy gwmni recordio " Motown " yn Detroit . Canwyr mwyaf poblogaidd Motown ydy Diana Ross , Smokey Robinson , Stevie Wonder a Michael Jackson .

R&B ym Mhrydain [ golygu | golygu cod ]

Yn y 1960au roedd bandiau fel y Rolling Stones , Manfred Mann a'r Kinks yn arfer gwrando ar hen recordiau R&B a chwarae arddull drydanol o R&B.

Enwogion eraill R&B [ golygu | golygu cod ]

Mae enwogion eraill R&B yn cynnwys Booker T and the MG's , Sly & The Family Stone , Ike Turner , Tina Turner , Whitney Houston , Destiny's Child (yn cynnwys Beyonce ), Luther Vandross , Alexandra Burke a Mary J Blige .

Ffynonellau [ golygu | golygu cod ]

  1. The new blue music: changes in rhythm & blues, 1950?1999, p.172

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]