Marie Antoinette

Oddi ar Wicipedia
Marie Antoinette
Ganwyd 2 Tachwedd 1755  Edit this on Wikidata
Palas yr Hofburg  Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Hydref 1793  Edit this on Wikidata
o decapitation by guillotine  Edit this on Wikidata
Place de la Concorde  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pendefig, cymar  Edit this on Wikidata
Priod Louis XVI, brenin Ffrainc   Edit this on Wikidata
Partner Axel von Fersen the Younger  Edit this on Wikidata
Plant Louis XVII, brenin Ffrainc  Edit this on Wikidata
Llinach T? Hapsbwrg-Lorraine  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd y Groes Serennog  Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwraig o dras Awstriaidd a brenhines olaf Ffrainc cyn y Chwyldro Ffrengig oedd Marie Antoinette ( Ffrangeg:  [ma?i ??twan?t]  ( Ynghylch y sain ymagwrando ) ; Marie Antoinette Josephe Jeanne; 2 Tachwedd 1755 [1] ? 16 Hydref 1793 ). Ganed hi yn archdduges , yn ferch ieuaf Ffransis I, Ymerawdwr Glan Rhufeinig a'r Ymerodres Maria Theresa . [2] Ym Mai 1770, yn 14 oed, daeth Marie yn dauphine Ffrainc drwy ei phriodas a Louis-Auguste , etifedd eglur y goron Ffrengig. Ar 10 Mai 1774, esgynnodd ei g?r i'r orsedd, yn Louis XVI, a daeth Marie yn frenhines.

Wedi wyth mlynedd yn briod, dechreuodd Marie Antoinette esgor ar blant, gan wella'i safle yn y llys brenhinol. Fodd bynnag, daeth yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith y bobl, a fe'i cyhuddwyd gan y libelles o afradlondeb, [3] anfoesoldeb, godineb, a chydymdeimlo a gelynion Ffrainc, yn enwedig Awstria. Pardduwyd ei henw ymhellach gan sgandal y gadwyn ddiemwnt ym 1784?85. Wedi cychwyn y Chwyldro Ffrengig ym 1789, fe'i gelwid yn Madame Deficit , a rhoddwyd arni'r bai am argyfwng ariannol Ffrainc oherwydd ei gwariant o bwrs y wlad a'i gwrthwynebiad i ddiwygiadau Turgot a Necker .

Wedi i'r llywodraeth arestio'r teulu brenhinol yn Hydref 1789 a'u cyfyngu i Balas Tuileries , dirywiodd safle'r frenhines yn llygad y bobl o ganlyniad i'w hymgais i ffoi i Varennes, a'r bwriad gan Louis i arwain gwrth-chwyldro, a'i chefnogaeth i'w nai, yr Ymerawdwr Ffransis II , yn Rhyfel y Glymblaid Gyntaf . Yn sgil cyrch ar y palas ar 10 Awst 1792, gorfodwyd i'r teulu brenhinol gymryd lloches yn y Cynulliad Deddfwriaethol, a chawsant eu carcharu yn Square du Temple ar 13 Awst. Diddymwyd y frenhiniaeth ar 21 Medi 1792, ac ar 21 Ionawr 1793 dienyddiwyd y cyn-frenin Louis XVI. Cychwynnodd achos llys Marie Antoinette ar 14 Hydref 1793, a fe'i cafwyd yn euog o uchel frad a'i dienyddiwyd a'r gilotin yn Place de la Revolution ar 16 Hydref. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "The Birth of Marie Antoinette | History Today" . www.historytoday.com (yn Saesneg) . Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022 .
  2. 2.0 2.1 Fraser, Antonia (2001). Marie Antoinette (yn Saesneg) (arg. 1af). New York: N.A. Talese/Doubleday. ISBN   978-0-385-48948-5 .
  3. Finances of Louis XVI (1788) | Nicholas E. Bomba https://blogs.nvcc.edu Archifwyd 2011-04-20 yn y Peiriant Wayback . ? nbomba ? files ? 2016/10, https://books.google.com/books?id=ixJWG9q0Eo4C