Fforiwr arloesol o
Lydaw
a fu'n archwilio rhannau o
Ganada
yn yr 16g oedd
Jacques Cartier
(
Llydaweg
:
Jakez Karter
) (
31 Rhagfyr
1491
?
1 Medi
1557
).
Fe'i dewiswyd gan Frenin Ffrainc,
Ffransis I
, i archwilio "ynysoedd a thiroedd lle y dywedir bod llawer o aur a thrysorau eraill". Gadawodd Sant-Malou ar 20 Ebrill
1534
i chwilio am lwybr gorllewinol i farchnadoedd cyfoethog
Asia
. Methodd a chyrraedd Asia, ond archwiliodd yn hytrach rannau o
Newfoundland
a dwyrain Canada. Pan ddysgodd am
Afon St Lawrence
, dechreuodd feddwl mai dyna oedd y ffordd chwedlonol i Asia. Yn ystod y daith, glaniodd ar safle tref bresennol
Gaspe
(Quebec), lle herwgipiodd ddau o feibion Pennaeth
Donnacona
, pennaeth un o'r llwythi
Iroquoiaidd
brodorol, a'u cludo nhw yn ol i Ffrainc.
Y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd Cartier yn ol ar ei ail daith i
ogledd America
gyda thair llong, 110 o ddynion a'r meibion a herwgipiwyd i ddangos y ffordd iddo. Dychwelodd y bechgyn i'w llwyth. Hwyliodd i fyny afon St Lawrence hyd at bentrefi
Stadacona
(lleoliad dinas
Quebec
heddiw) a
Hochelaga
(
Montreal
). Ar ol herwgipio rhai o'r penaethiaid Irowuoiadd, clywodd am wlad o'r enw
Saguenay
i'r gogledd, y tebygid iddi fod yn llawn aur a thrysorau eraill. Ar ol gaeaf anodd ar ei safle ger Stadacona, cyrhaeddodd Sant-Malou unwaith eto ar
15 Gorffennaf
1536
.
Y drydedd fordaith, 1541?2
[
golygu
|
golygu cod
]
Ar
23 Mai
1541
, aeth Cartier yn ol i ogledd America ar ei drydedd daith, gan gyrraedd Stadacona ar
23 Awst
. Ei nod oedd ceisio chwilio am Saguenay a sefydlu treflan barhaol yng Nghanada er mwyn cadarnhau hawl Ffrainc i'r diriogaeth yn erbyn hawliau Sbaen. Daeth
Jean-Francois de la Rocque de Roberval
ar ei ol ef er mwyn sefydlu'r dreflan. Methodd a theithio'n bellach na Hochelaga, ond sefydlwyd treflan
Charlesbourg-Royal
(ar safle tref
Cap-Rouge
heddiw) ar lannau'r St Lawrence. Daeth y berthynas rhwng y Ffrancod a'r Iroquoiaid yn elyniaethus. Ar ol gaeaf caled yng Nghanada, pryd bu farw llawer o'r gwladychwyr Ffrengig mewn ymosodiadau gan yr Iroquoiaid, dychwelodd i Ffrainc, gan adael Roberval yno i ddatblygu'r dreflan. Goroesodd Charlesbourg-Royal am flwyddyn arall tan i Roberval gefnu arni flwyddyn yn ddiweddarach. Doedd dim ceisiadau eraill i sefydlu treflannau Ewropeaidd parhaol yng ngogledd America am fwy na hanner can mlynedd. Ni ddaeth Cartier yn ol i Ganada drachefn, ond bu'n treulio gweddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Malou.