Cantores soul Gymreig o
Nefyn
yw
Aimee Anne Duffy
(yn syml
Duffy
; ganwyd
23 Mehefin
1984
). Daeth yn ail yn y rhaglen
Wawffactor
ar
S4C
yn 2003, a chafodd sylw ddiwedd 2007 a 2008 pan gafodd ei galw'n 2il ganwr/gantores gorau
Sound of 2008
y
BBC
. Mae hi wedi perfformio ar raglenni fel
Later With Jules Holland
, gan dderbyn canmoliaeth uchel iawn ac hyd yn oed wedi ei chymharu a'r gantores
Dusty Springfield
. Rhyddhaodd ei halbwm
Rockferry
ym Mawrth 2008 yn y Deyrnas Unedig ac wedyn dros y byd. Yn Chwefror 2008 cyrhaeddodd Rhif 1 yn y siartiau Prydeinig gyda'i sengl
Mercy
.
Roedd yr albwm yn llwyddiant ysgubol, yn cyrraedd rhif 1 dros
Ewrop
ac
Ynysoedd y De
. Bu'r albwm yn llwyddiant mawr yng
Ngogledd America
hefyd, yn cyrraedd rhif 4 yn siart albwmiau yr
Unol Daleithiau
.
Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddwyd y byddai Duffy yn hysbysebu
Diet Coke
wedi iddi arwyddo cytundeb o dros £100,000.
[1]
Bu Duffy yn caru gyda Mark Durston, a anwyd yn
Swydd Gaer
[2]
am dros bum mlynedd tan fis Tachwedd 2006. Roedd Duffy yn byw yn
Abersoch
gydag ef.
[3]
Ym mis Medi 2008, soniodd Duffy ei bod "ar ffin cael chwalfa nerfus" oherwydd y pwysau yr oedd enwogrwydd wedi rhoi arni. Dywedodd ei bod wedi ystyried dod yn feudwy, ond yn y pen draw penderfynodd yn erbyn y syniad er mwyn ei chefnogwyr. Er ei bod yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn dda, roedd yn ei chael hi'n "frawychus" pan fydd pobl yn ei hadnabod ar y stryd, ac wedi bod yn ofni bod ei delwedd o bosibl yn newid y person y mae hi go iawn.
[4]
[5]
Gyda ffortiwn amcangyfrifedig Duffy o £4 miliwn fe'i gosodwyd hi yn yr 16eg safle yn rhestr y
Sunday Times
2009 o gerddorion ifanc cyfoethocaf Prydain Fawr.
[6]
Bu'n caru gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru,
Mike Phillips
, o fis Medi 2009 i fis Mai 2011.
[7]
Ar 3 Hydref 2012, dihangodd Duffy o dan yn y fflat penthouse ar rent yr oedd hi'n byw ynddo, Abbots House yn Kensington, Llundain.
[8]
Ar 25 Chwefror 2020, dywedodd ar bost Instagram ei bod wedi cael ei "threisio, rhoi dan gyffur ac wedi ei dal yn wystl dros rai dyddiau" a'i bod wedi diflannu o fywyd cyhoeddus er mwyn iddi adfer o'r profiad, gan ychwanegu ei bod bellach yn gwneud yn dda ond ei bod wedi cymryd ei hamser i wella.
[9]
[10]
Yn ei chyfrif, ni roddodd unrhyw arwydd pwy oedd ei hymosodwr na son pryd na ble y digwyddodd yr ymosodiad.
[11]
- Aimee Duffy: llais
- Bernard Butler
: gitar, piano, offerynnau taro
- Makoto Sakamoto: drymiau
- David McAlmont
: llais
- Tobi Oyerinde: gitar
- Ayo Oyerinde: allweddellau
- Tom Meadows: drymiau
- Ben Epstein: gitar fas
- Jon Green: gitar
- Josh McKenzie: offerynnau taro