Catrin Fawr
|
---|
|
Ganwyd
| Sophie Friederike Auguste von Anhalt-Zerbst
2 Mai 1729
Szczecin
|
---|
Bu farw
| 6 Tachwedd 1796 (yn y
Calendr Iwliaidd
)
o
stroc
St Petersburg
|
---|
Man preswyl
| Szczecin
,
St Petersburg
|
---|
Dinasyddiaeth
| Ymerodraeth Rwsia
, Teyrnas Prwsia
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, teyrn, casglwr celf, pendefig
|
---|
Swydd
| Emperor of all the Russias
|
---|
Adnabyddus am
| Amgueddfa Hermitage
|
---|
Tad
| Christian August, Tywysog Anhalt-Zerbst
|
---|
Mam
| Joanna Elisabeth o Holstein-Gottorp
|
---|
Priod
| Pedr III, tsar Rwsia
|
---|
Partner
| Stanisław August Poniatowski, Grigory Orlov, Alexander Vasilchikov, Grigory Potemkin
|
---|
Plant
| Pawl I
, Anna Petrovna, Alexey Bobrinsky
|
---|
Llinach
| Q124079217
|
---|
Gwobr/au
| Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky,
Urdd yr Eryr Gwyn
, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Urdd Sant Andreas, Urdd Santes Gatrin, Urdd Sant Sior, Urdd Santes Anna, Urdd Brenhinol y Seraffim
|
---|
llofnod
|
---|
|
Catrin II
neu
Catrin Fawr
(
Rwseg
: Екатерина II Великая,
Yekaterina II Velikaya
(
1729
-
1796
) oedd ymerodres
Rwsia
o
28 Mehefin
1762
hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.
Ganed Catrin fel
Sophie Augusta Frederica
yn Stettin, yn awr
Szczecin
yng
Ngwlad Pwyl
ond yr adeg honno yn deyrnas fechan yn yr
Almaen
. Dewiswyd hi yn wraig i etifedd y
tsar
,
Pedr o Holstein-Gottorp
. Dywedir fod Catrin yn benderfynol o ddysgu
Rwsieg
mor fuan ag y gallai, ac ar
28 Mehefin
1744
daeth yn aelod o
Eglwys Uniongred Rwsia
gyda'r enw Catrin Alecseyefna (
Yekaterina
neu
Ekaterina
). Priodwyd hi a Pedr ar
21 Awst
1745
.
Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar ol marwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr
1762
daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.
Roedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru a rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis
Voltaire
a
Diderot
. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys
Belarws
a
Lithwania
. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000 km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. O dan ei harweinyddiaeth, gorchfygwyd
Twrci
mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.
Cafodd Catrin stroc ar
5 Tachwedd
,
1796
, a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.