Alfred, Arglwydd Tennyson
|
---|
|
Ganwyd
| 6 Awst 1809
Somersby, Swydd Lincoln
|
---|
Bu farw
| 6 Hydref 1892
Aldworth
,
Haslemere
|
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| bardd
,
gwleidydd
,
ysgrifennwr
|
---|
Swydd
| aelod o D?'r Arglwyddi,
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
|
---|
Adnabyddus am
| The Charge of the Light Brigade, The Lady of Shalott
|
---|
Tad
| George Clayton Tennyson
|
---|
Mam
| Elizabeth Fytch
|
---|
Priod
| Emily Tennyson, Arglwyddes Tennyson
|
---|
Plant
| Hallam Tennyson, Lionel Tennyson, Unnamed Tennyson
|
---|
Gwobr/au
| Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Chancellor's Gold Medal
|
---|
Bardd Seisnig oedd
Alfred, Arglwydd Tennyson
(
6 Awst
1809
?
6 Hydref
1892
). Daeth yn un o feirdd amlycaf yr iaith Saesneg yn y
19g
.
Ganed Alfred Tennyson yn Somersby yn
Swydd Lincoln
, yn fab i reithor a'r pedwerydd o ddeuddeg o blant. Aeth i
Goleg y Drindod, Caergrawnt
yn
1828
, lle daeth
Arthur Henry Hallam
yn gyfaill agos iddo. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth yn
1827
,
Poems by Two Brothers
, yn cynnwys cerddi gan ei frawd Charles hefyd. Gadawodd y coleg yn
1831
ar farwolaeth ei dad. Yn
1833
, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth yn cynnwys ei gerdd adnabyddus
The Lady of Shalott
, ond roedd ymateb y beirniaid mor negyddol fel na chyhoeddodd ddim pellach am ddeng mlynedd. Yn nes ymlaen, daeth ei farddoniaeth yn eithriadol o boblogaidd, yn enwedig
In Memoriam A.H.H.
(1850), er cof am Arthur Hallam. Apwyntiwyd ef i swydd
Fardd Llawryfog
yr un flwyddyn, yn olynydd i
William Wordsworth
. Ymhlith ei weithiau mwyad adnabyddus mae "
The Charge of the Light Brigade
" ac
Idylls of the King
, cylch o gerddi ar destunau Arthuraidd. Roedd y frenhines
Victoria
yn edmygydd mawr o'i waith, a gwnaed ef yn farwn yn
1884
.