Washington
|
|
Arwyddair
| Justitia Omnibus
|
---|
Math
| dinas yn yr Unol Daleithiau,
prifddinas
, dinas fawr, anheddiad dynol, cymuned wedi'i chynllunio, political city
|
---|
Enwyd ar ol
| George Washington
,
Christopher Columbus
|
---|
|
Poblogaeth
| 689,545
|
---|
Sefydlwyd
| - 16 Gorffennaf 1790
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Muriel Bowser
|
---|
Cylchfa amser
| Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC?05:00, UTC?04:00, America/Efrog Newydd
|
---|
Gefeilldref/i
| Rhanbarth Brwsel-Prifddinas
,
Bangkok
,
Dakar
,
Beijing
,
Athen
,
Pretoria
,
Seoul
,
Accra
,
Sunderland
,
Ankara
,
Brasilia
,
Addis Ababa
,
Paris
,
Rhufain
,
San Salvador
, City of Tshwane Metropolitan Municipality
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| taleithiau cyfagos UDA, Canolbarth yr Iwerydd, rhaniad ddinesig Washington?Arlington?Alexandria
|
---|
Sir
| District of Columbia
|
---|
Gwlad
|
UDA
|
---|
Arwynebedd
| 177 km²
|
---|
Uwch y mor
| 72 metr
|
---|
Gerllaw
| Afon Potomac, Afon Anacostia, Rock Creek
|
---|
Yn ffinio gyda
| Arlington County
,
Alexandria, Virginia
,
Prince George's County
,
Montgomery County
,
Fairfax County
, Bethesda, Maryland, Silver Spring
|
---|
Cyfesurynnau
| 38.895°N 77.0367°W
|
---|
Cod post
| 20001?20098, 20201?20599
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Maer Dosbarth Columbia
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Muriel Bowser
|
---|
|
|
|
Prifddinas
Unol Daleithiau America
yw
Washington, D.C.
(
District of Columbia
:
Ardal Columbia
)
[1]
. Fe'i henwir ar ol
George Washington
, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch
Columbia
lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 689,545
(1 Ebrill 2020)
[2]
- llai na dwywaith maint
Caerdydd
. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i
Maryland
,
Virginia
, a
Gorllewin Virginia
, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000.
Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio a
Maryland
a
Virginia
, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym
1800
. Enwyd y ddinas ar ol
George Washington
, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef
sefydlwyr yr Unol Daleithiau
.
[3]
Enwir yr ardal ffederal ar ol Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y
Cerflun Rhyddid
(
Statue of Liberty
) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd
llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau
a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.
[4]
Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir a hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.
[5]
[6]
Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint a 131 o gymdogaethau (
neighborhoods
). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i
D?'r Cynrychiolwyr
, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y
Senedd
. Mae pleidleiswyr y dosbarth (
district
) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol a'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961.
Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal a phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobio, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys
Gr?p Banc y Byd
, y
Gronfa Ariannol Ryngwladol
, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a
Chroes Goch America
.
Roedd amryw o lwythau o'r brodorion
Piscataway
, sy'n siarad
Algonquian
, (a elwir hefyd yn Conoy) yn byw yn y tiroedd o amgylch Afon Potomac pan ymwelodd Ewropeaid a'r ardal am y tro cyntaf, ar ddechrau'r
17g
. Roedd un gr?p o'r enw
Nacotchtank
(a elwir hefyd yn Nacostines gan genhadon Catholig) yn preswylio o amgylch Afon Anacostia yn Ardal Columbia heddiw. Oherwydd goresgyniad treisiol y gwladychwyr Ewropeaidd ffpd y brodorion Piscataway, a sefydlodd rhai ohonynt anheddiad newydd ym 1699 ger y fan a elwir heddiw yn Point of Rocks, Maryland.
[7]
Pwysleisiodd Gwrthryfel Pennsylvania yn 1783 yr angen i'r llywodraeth genedlaethol beidio a dibynnu ar unrhyw wladwriaeth er ei diogelwch ei hun.
[8]
Mae Erthygl Un, Adran Wyth, o'r Cyfansoddiad yn caniatau sefydlu "Dosbarth (heb fod yn fwy na deng milltir sgwar) a all ddod yn sedd llywodraeth yr Unol Daleithiau".
[9]
Ar
9 Gorffennaf
1790
, pasiodd y Gyngres y Ddeddf Breswylio, a gymeradwyodd greu prifddinas genedlaethol ar Afon Potomac. Roedd yr union leoliad i'w ddewis gan yr Arlywydd George Washington, a lofnododd y bil yn gyfraith ar 16 Orffennaf. Wedi'i ffurfio o dir a roddwyd gan daleithiau Maryland a Virginia, roedd siap cychwynnol yr ardal ffederal yn sgwar a oedd yn mesur 10 milltir (16 km ) ar bob ochr, cyfanswm o 100 milltir sgwar (259 km2).
[10]
Yn ystod 1791?92, bu tim o dan Andrew Ellicott, gan gynnwys y brodyr Ellicott Joseph a Benjamin a’r seryddwr Affricanaidd-Americanaidd Benjamin Banneker, yn arolygu ffiniau’r ardal ffederal a gosodwyd cerrig terfyn ar bob pwynt milltir. Yn 2021, roedd llawer o'r cerrig yn dal i sefyll.
[11]
[12]
Adeiladwyd dinas ffederal newydd ar lan ogleddol y Potomac, i'r dwyrain o Georgetown. Ar 9 Medi 1791, enwodd y tri chomisiynydd a oedd yn goruchwylio adeiladu'r brifddinas y ddinas er anrhydedd i'r Arlywydd Washington. Yr un diwrnod, enwyd yr ardal ffederal yn Columbia (ffurf fenywaidd o "Columbus"), a oedd yn enw barddonol ar gyfer yr Unol Daleithiau ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin bryd hynny.
[13]
[14]
Cynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ar 17 Tachwedd 1800.
[15]
[16]
- ↑
"Introduction: Where Oh Where Should the Capital Be?"
.
WHHA
(yn Saesneg).
- ↑
"QuickFacts: Washington city, District of Columbia"
. Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 22 Ebrill 2022
. Cyrchwyd
22 Ebrill
2022
.
- ↑
"Washington, D.C. History F.A.Q."
The Historical Society of Washington, D.C.
(yn Saesneg). May 27, 2014. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 10 Medi 2017
. Cyrchwyd
7 Mawrth
2018
.
- ↑
Broder, David S.
(18 Chwefror 1990).
"Nation's Capital in Eclipse as Pride and Power Slip Away"
.
The Washington Post
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2015-08-10
. Cyrchwyd
18 Hydref
2010
.
In the days of the Truman Doctrine, the Marshall Plan and the creation of NATO, [Clark Clifford] said,
we saved the world, and Washington became the capital of the world.
- ↑
"The 10 most-visited cities in the US this year"
.
Insider
. Cyrchwyd
6 Mawrth
2018
.
- ↑
Cooper, Rebecca (9 Mai 2017).
"D.C. breaks another domestic tourism record"
.
www.bizjournals.com
. Washington Business Journal.
- ↑
Humphrey, Robert Lee; Chambers, Mary Elizabeth (1977).
Ancient Washington: American Indian Cultures of the Potomac Valley
. George Washington University.
ISBN
9781888028041
. Cyrchwyd
6 Mawrth
2018
.
- ↑
Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892).
"IV. Washington Becomes The Capital"
.
Centennial History of the City of Washington, D.C
. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 66.
- ↑
"Constitution of the United States"
. National Archives and Records Administration
. Cyrchwyd
22 Gorffennaf
2008
.
- ↑
Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892).
Centennial History of the City of Washington, D.C.
Dayton, OH: United Brethren Publishing House. tt.
89
?92.
- ↑
Bordewich, Fergus M. (2008).
Washington: the making of the American capital
. HarperCollins. tt. 76?80.
ISBN
978-0-06-084238-3
.
- ↑
"Boundary Stones of the District of Columbia"
. BoundaryStones.org
. Cyrchwyd
27 Mai
2008
.
- ↑
Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892).
Centennial History of the City of Washington, D.C.
Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 101
. Cyrchwyd
1 Mehefin
2011
.
- ↑
"Get to Know D.C."
Historical Society of Washington, D.C. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 18 Medi 2010
. Cyrchwyd
11 Gorffennaf
2011
.
- ↑
"The Senate Moves to Washington"
. United States Senate. 14 Chwefror 2006
. Cyrchwyd
July 11,
2008
.
- ↑
Tom (24 Gorffennaf 2013).
"Why Is Washington, D.C. Called the District of Columbia?"
.
Ghosts of DC
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
20 Chwefror
2019
.