Rhanbarth hanesyddol sydd heddiw wedi'i lleoli yng nghanolbarth
Rwmania
yw
Transylfania
. Gyda
mynyddoedd y Carpatiau
yn ffiniau naturiol iddi i'r dwyrain ac i'r de. roedd Transylfania hanesyddol yn ymestyn i'r gorllewin hyd at Fynyddoedd Apuseni. Mae'r term hefyd yn cynnwys rhanbarthau hanesyddol Cri?ana a Maramure?, ac, yn achlysurol, y rhan Rwmanaidd o Banat.
Mae rhanbarth Transylfania yn cael ei adnabod am harddwch y tirwedd
Carpataidd
a'i chyfoeth o hanes. Mae hefyd yn cynnwys dinasoedd Cluj-Napoca, Bra?of, Sibiu, Targu Mure? a Bistri?a.
Mae'r
Gorllewin
yn aml yn cysylltu Transylfania gyda
fampiriaid
, oherwydd dylanwad y nofel
Dracula
gan
Bram Stoker
a'r nifer o addasiadau ffilm.
[1]
[2]
[3]
Mewn
Rwmaneg
, mae'r rhanbarth yn cael ei hadnabod fel
Ardeal
(
[ar?de?al]
) neu
Transilvania
(
[transil?vani.a]
); fel
Erdely
(
[??rdeːj]
) mewn
Hwngareg
; fel Siebenburgen (
[?ziːbn??b???n?]
(
listen
)
) mewn Almaeneg; a
Transilvanya
(
[t?ansil?vanja]
) mewn
Tyrceg
, er mai
Erdel
neu
Erdelistan
oedd yr enw hanesyddol arni.
Daw'r cyfeiriad cynharaf at Transylfania sy'n hysbys heddiw o lawysgrif Lladin canoloesol (1075). Mae'n cyfeirio at yr ardal fel ultra silvam, sy'n golygu 'y tu hwnt i'r goedwig'. Mae Transylfania yn golygu 'ar yr ochr draw i'r coed'. Mae haneswyr Hwngaraidd yn honni bod y ffurf Lladin canoloesol Ultrasylvania, Transsylvania yn ddiweddarach, yn gyfieithiad uniongyrchol o'r ffurf Hwngareg
Erd?-elve
.
[4]
Dyna hefyd oedd yr enw amgen mewn Almaeneg
uberwald
(13g?14g) ac
Wcreineg
Зал?сся (
Zalissia
).
Mae'r enw Almaeneg
Siebenburgen
yn golygu "saith castell", ar ol y saith dinas y Sacsoniaid Transylfanaidd yn y rhanbarth. Dyma darddiad enw'r rhanbarth mewn nifer o ieithoedd eraill, fel yr enw
Croateg
Sedmogradska
, yr
Bwlgareg
Седмиградско (
Sedmigradsko
), yr enw
Pwyleg
Siedmiogrod
a'r enw Wcreineg Семигород (
Semyhorod
).