Gwleidydd Prydeinig yw
Theresa Mary May
(
nee
Brasier; ganwyd
1 Hydref
1956
) sydd wedi bod yn
Aelod Seneddol
dros
Maidenhead
ers
1997
. Roedd hi'n
Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
ac Arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng 2016 a 2019. Dilynodd
David Cameron
fel
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
yn dilyn cyfarfod gyda'r
Frenhines Elisabeth II
ar 13 Gorffennaf, gan ddod yn ail brif weinidog benywaidd y DU.
[4]
[5]
Cyn dod yn Brif Weinidog roedd yn
Ysgrifennydd Cartref
rhwng 2010 a 2016. Mae'n disgrifio'i hun fel Ceidwadwr 'un genedl' ac fel Ceidwadwr rhyddfrydol.
[6]
Ganwyd Theresa Mai yn
Eastbourne
,
Sussex
, ac astudiodd Mai ddaearyddiaeth yn
Ngholeg Sant Huw, Rhydychen
. Rhwng 1977 a 1983 bu'n gweithio ym
Manc Lloegr
ac o 1985 hyd 1997 gyda'r
Association for Payment Clearing Services
, tra roedd hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd ar ward Durnsford ym
Mwrdeistref Merton
,
Llundain
.
[7]
Ar ol sawl cais aflwyddiannus i gael ei hethol i
D?'r Cyffredin
rhwng 1992 a 1994, fe'i hetholwyd fel AS dros Maidenhead yn
etholiad cyffredinol 1997
. Aeth ymlaen i gael ei phenodi yn Gadeirydd y Blaid Geidwadol a chael ei derbyn yn aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig yn 2002.
Gwasanaethodd mewn sawl swydd yng Nghabinedau Cysgodol
William Hague
,
Iain Duncan Smith
,
Michael Howard
, a
David Cameron
, yn cynnwys
Arweinydd Cysgodol T?'r Cyffredin
ac Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau, cyn cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb yn 2010, gan roi'r gorau i'r ail rol yn 2012. Mai oedd yr Ysgrifennydd Cartref hiraf yn ei swydd ers 60 mlynedd. Dywedir iddi: weithio ar ddiwygio'r heddlu, gymeryd safbwynt cadarnach ar bolisi cyffuriau ac iddi ail-gyflwyno cyfyngiadau ar
fewnfudo
.
Ym Mehefin 2016, cyhoeddoedd Mai ei chais yn etholiad arweinydd y Blaid Geidwadol, a daeth i fod yn ffefryn yn gyflym iawn. Enillodd y bleidlais ddirgel gyntaf ar 5 Gorffennaf 2016 gyda 50% o'r pleidleisiau. Ar 7 Gorffennaf, enillodd Mai 199 pleidlais gan Aelodau Seneddol Ceidwadol; fe fyddai'n wynebu pleidlais gan aelodau'r Blaid Geidwadol ar draws y DU mewn cystadleuaeth gyda
Andrea Leadsom
, un o brif ffigyrau yr ymgyrch
Brexit
.
[8]
Ar 11 Gorffennaf fe adawodd Leadsom y gystadleuaeth yn dilyn sylwadau dadleuol a wnaed ganddi dyddiau ynghynt.
[9]
Wedi i Leadsom dynnu allan ni chynhaliwyd cystadleuaeth yn ol rheolau'r Blaid Geidwadol ac arweiniodd hyn at Mai yn cael ei phenodi yn arweinydd y Blaid ar yr un diwrnod.
[5]
[10]
Ar unwaith, cyhoeddodd y Prif Weinidog
David Cameron
ei ymddiswyddiad.
[11]
Daeth Mai yn Brif Weinidog ar 13 Gorffennaf 2016.
Ar 27 Mawrth 2019, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor 1922, cadarnhaodd Mai na fyddai yn arwain cam nesaf trafodaethau Brexit, oedd yn golygu ei bod yn bwriadu ymddiswyddo ar ol pasio ei thrydydd pleidlais 'ystyrlon' ar ei chytundeb gyda'r EU.
[12]
Ni rhoddwyd dyddiad, fodd bynnag, a roedd y geiriau a ohebwyd yn amwys a felly ddim yn addewid cadarn.
[12]
Ar 29 Mawrth, gorchfygwyd y trydydd pleidlais ystyrlon, ac er na ddywedodd Mai ddim am sefyll lawr, dywedodd Corbyn fod yn rhaid iddi fynd nawr os nad oedd yn gallu dod i gytundeb gwahanol.
[13]
Ar 22 Ebrill 2019 cyhoeddwyd fod 70 Cymdeithas Geidwadol wedi arwyddo deiseb yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder. O dan rheolau'r blaid, roedd rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig os oedd gofyn am un gan fwy na 65 cymdeithas. Byddai'r bleidlais, i'w benderfynu gan 800 o uwch swyddogion y blaid, wedi bod y tro cyntaf i hynny ddigwydd.
[14]
Ar 24 Ebrill penderfynodd Pwyllgor 1922 beidio newid y rheolau ar herio'r arweinyddiaeth, ond gofynnodd y cadeirydd Graham Brady am eglurder ar pryd y byddai Mai yn sefyll lawr.
[15]
Ar 24 Mai gwnaeth Mai ddatganiad tu allan i 10 Downing Street yn cyhoeddi y byddai yn ymddiswyddo ar 7 Mehefin, ond yn parhau fel Prif Weinidog nes i arweinydd newydd ei ddewis.
[16]
Dewiswyd
Boris Johnson
fel arweinydd newydd y Ceidwadwyr ar 23 Gorffennaf 2019 ac aeth Mai i weld y Frenhines i ymddiswyddo'n ffurfiol fel Prif Weinidog ar 24 Gorffennaf 2019.